Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, am eich cwestiwn ac am eich arweiniad ar y mater hwn, sy’n hollbwysig, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol a hefyd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Llywydd am gynnal y digwyddiad ysbrydoledig hwn y prynhawn yma hefyd, lle clywsom gan ffoaduriaid, siaradwyr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru a gwesteion a ffrindiau o Wcráin? Ac roedd yn ddigwyddiad gwych, ond hefyd yn gydnabyddiaeth na ddylem fod yn hunanfodlon yng Nghymru. Rydym yn ceisio bod yn genedl noddfa, ond mae'n rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon. Dyna pam fod gennym 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', sy'n cynnwys adran gyfan ar fynd i'r afael â'r mater hwn—y methiant i gyflawni ar ran ein cymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
A dim ond i gadarnhau, fel y dywedwch, fod hyn mewn deddfwriaeth, mae Deddf Tai (Cymru) 2014—roeddwn yma bryd hynny—yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr, a hefyd i adrodd ar yr angen am leiniau ychwanegol yn eu hardaloedd, megis lleiniau preswyl parhaol a lleiniau tramwy dros dro. Er gwybodaeth i’r Aelodau, cyhoeddais ddatganiad am 1 o’r gloch heddiw i egluro fy mod yn cynnal archwiliad o’r holl archwiliadau diweddaraf sy’n cael eu cyflwyno. Mae’n rhaid iddynt lunio asesiadau o ble maent, yr anghenion a’r bylchau yn y ddarpariaeth o safleoedd a lleiniau ledled Cymru ar gyfer cymunedau Teithwyr. Er bod heriau i ddod o hyd i’r safleoedd cywir ac ati, rwy’n disgwyl i bob awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod digon o safleoedd a lleiniau’n cael eu darparu, a’u bod yn nodi anghenion cymunedau Sipsiwn ledled Cymru. Ac rwy’n disgwyl iddynt fod yn asesiadau cywir o anghenion, gyda chamau clir i’w cymryd i fynd i’r afael â’r bylchau sy’n bodoli, a byddaf yn cyfarfod ag awdurdodau lleol. Fesul awdurdod lleol, byddaf yn cyfarfod â hwy eleni, o fewn yr ychydig wythnosau nesaf, i ofyn cwestiynau iddynt ynglŷn â'u hasesiadau a’u darpariaeth ar gyfer anghenion cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.