Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 1 Mawrth 2023.
A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Peredur Griffiths a Phlaid Cymru am y gwaith rydym wedi’i wneud ar y cyd ar y cynllun gweithredu LHDTC+ a’r undod a’r cydweithio hwnnw, sydd mor bwysig ar faterion hollbwysig cydraddoldeb a hawliau dynol ac urddas? Mae safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru ynghylch cefnogi’r gymuned draws a datganoli pwerau cydnabod rhywedd yn parhau fel y bu; mae'r un fath. Mae’n ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu ac yn y cytundeb cydweithio, ac mae hefyd yn un o’r 46 o gamau gweithredu yn y cynllun gweithredu LHDTC+ i sbarduno’r cais i ddatganoli’r pwerau hynny, a phe bai hwnnw'n llwyddiannus, byddai'n fater i’r Senedd hon benderfynu sut y defnyddir y pwerau hynny. Clywaf yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud o ran y—. Rwy’n gresynu at yr elfen bleidiol wleidyddol yn hynny o beth. [Torri ar draws.] Rydym yn anghytuno o fewn—[Torri ar draws.] Rydym—