Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch am fynychu'r cyfarfod trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni ym mis Tachwedd, pan leisiwyd pryder gan swyddog tlodi tanwydd Cyngor Gwynedd fod lefelau uchel o'r stoc dai yng Ngwynedd nad yw’n cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru. Pan ofynnodd i chi a allech roi sylwadau ar y lefelau uchel o stoc dai nad yw’n cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru yng Ngwynedd, fe wnaethoch nodi'r pwynt er mwyn i swyddogion ei gyfleu i'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Pan godais hyn yn ddiweddarach gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn y Siambr hon, gofynnodd imi anfon rhagor o fanylion ati, a gwneuthum hynny. Ac yn ei hymateb, dywedodd,
'Ar 31 Mawrth 2022, roedd 100 y cant o anheddau tai cymdeithasol yn cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru, 78 y cant yn cydymffurfio’n llawn, ond roedd 22 y cant yn cydymffurfio yn amodol ar fethiant derbyniol yn unig'.
O ystyried eich cyfrifoldeb cyffredinol dros dlodi tanwydd yn Llywodraeth Cymru, sut rydych yn ymateb i ffigurau swyddogol sy’n dangos bod bron i 30 y cant o’r stoc dai cymdeithasol yng Ngwynedd yn cael eu galw'n ‘fethiannau derbyniol’, sy’n cyfateb i’r lefel yn sir y Fflint, gan godi i bron i 42 y cant yn sir Ddinbych; mai Ynys Môn sydd â’r lefel uchaf o fesuryddion rhagdalu yng Nghymru, ar bron i 29 y cant, ac yna Gwynedd ar bron i 22 y cant, ac i’r datganiad a wnaed gan swyddog tlodi tanwydd cyngor Gwynedd, pan gyfarfûm ag ef yr wythnos diwethaf, fod y rhent yr un fath yng Ngwynedd ac Ynys Môn, ac eto, gall costau ynni fod yn sylweddol uwch, a'i bod yn ymddangos bod hyn yn gysylltiedig â materion ehangach yn ymwneud ag eiddo nad yw ar y grid nwy ac eiddo hŷn?