Ffoaduriaid o Wcrain

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:18, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a'r trydydd sector i groesawu pobl Wcráin i Gymru, eu helpu i symud ymlaen i lety mwy hirdymor a pharhau i gael eu cefnogi. Fel rhan o gyllideb ddrafft 2023-24, rydym yn buddsoddi £40 miliwn yn ein hymateb dyngarol Wcreinaidd.