Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr, Heledd. Mae pecyn cymorth cyfredol Llywodraeth Cymru, sy’n werth £420 miliwn, yn cynnwys y rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi incwm is. Mae cartrefi incwm isel cymwys hefyd yn elwa o gynllun cymorth tanwydd £200 Llywodraeth Cymru a'n talebau Sefydliad Banc Tanwydd ar gyfer y rhai sy'n profi argyfwng tanwydd.