Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch, Weinidog. Yn amlwg, rydych chi wedi cyfeirio eisoes yn eich ymateb i Peredur Owen Griffiths ac eraill o ran y mater hwn, ac rydych wedi amlinellu yn eich ymateb i fi nifer o bethau sydd yn cael eu gwneud. Y gwir amdani, wrth gwrs, ydy bod hyn ddim yn mynd yn ddigon pell, a bod yna unigolion a theuluoedd yn fy rhanbarth, a ledled Cymru, sy'n methu fforddio cynhesu eu tai. Fel mae ymchwil gan Cyngor ar Bopeth wedi dangos, mae 32 y cant o bobl sy’n defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw wedi dewis cael eu datgysylltu, gyda 29 y cant yn defnyddio blanced neu wresogydd personol yn lle defnyddio ynni yn eu cartref. Mae eraill yn parhau i fynd i ddyled, ac yn wynebu caledi ariannol difrifol, dim ond er mwyn cynhesu eu cartrefi. Felly, gyda phrisiau yn cynyddu eto ym mis Ebrill, pa gefnogaeth ymarferol fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i drigolion yng Nghanol De Cymru, a pha drafodaethau mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â hyn oll? Mi wnaethoch chi gyfeirio yn gynharach ynglŷn â'r cyfarfodydd gydag Ofgem, ond beth oedd yn deillio o'r trafodaethau hynny?