Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch, Weinidog. Rwyf wedi derbyn rhai cwynion am yr iaith a ddefnyddiwyd gan un Aelod, sydd bellach wedi gadael y Siambr, yn ystod ei gwestiynau yn gynharach. Rwyf wedi cael fy atgoffa gan Huw Irranca-Davies o'r arddangosfa sydd gennym i fyny'r grisiau ar hyn o bryd, yn sôn am y rhai a geisiodd loches rhag Natsïaeth yn y ganrif ddiwethaf. Mae ein cod ymddygiad yma yn mynnu nad ydym yn defnyddio iaith wahaniaethol, ac felly, ni allwn wahaniaethu rhwng pwy rydym yn ei groesawu a phwy nad ydym yn ei groesawu. Rwy’n ystyried bod sylwadau Gareth Davies y prynhawn yma wedi torri’r cod ymddygiad hwnnw. Byddaf yn disgwyl iddo ymddiheuro i mi ac i Aelodau yma a gwynodd wrthyf fod ei iaith yn wahaniaethol, a byddaf yn disgwyl yr ymddiheuriad hwnnw, ac rwy'n siŵr y byddaf yn ei gael.