Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro wrth Lywodraeth y DU am fenywod y mae eu hoedran pensiwn y wladwriaeth wedi cael ei godi heb hysbysiad effeithiol na digonol. Rydym yn aros am adroddiad llawn ymchwiliad yr ombwdsmon, a fydd yn argymell gweithredoedd i'r Adran Gwaith a Phensiynau i unioni'r anghyfiawnder a ganfuwyd.