2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2023.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â'r camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gynorthwyo menywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt? OQ59187
Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro wrth Lywodraeth y DU am fenywod y mae eu hoedran pensiwn y wladwriaeth wedi cael ei godi heb hysbysiad effeithiol na digonol. Rydym yn aros am adroddiad llawn ymchwiliad yr ombwdsmon, a fydd yn argymell gweithredoedd i'r Adran Gwaith a Phensiynau i unioni'r anghyfiawnder a ganfuwyd.
Rwy'n datgan buddiant oherwydd mae fy mam yn rhan o’r ymgyrch menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth (WASPI). Mae menywod WASPI—menywod a amddifadwyd o'u pensiwn—wedi bod yn ymgyrchu ers saith mlynedd hir ac maent yn dal i aros am adroddiad penderfyniad yr ombwdsmon seneddol i ymdriniaeth yr Adran Waith a Phensiynau o’u sefyllfa. Disgwylir i'r adroddiad gael ei ryddhau yn fuan iawn, ond mae gwybodaeth sydd wedi cyrraedd y wasg wedi creu pryder sylweddol na fydd llawer o iawndal yn cael ei roi i’r menywod, ychydig gannoedd o bunnoedd yn unig i bob un o fenywod y 1950au yn ôl y sôn. Mae hynny'n llawer llai na'r hyn a gipiwyd oddi arnynt. Os bydd yr adroddiadau hyn yn wir, bydd anghyfiawnder trychinebus wedi'i wneud i'r menywod hyn, sydd wedi dioddef gwahaniaethu ac sydd wedi cael eu targedu oherwydd eu rhyw a'u hoedran.
A wnewch chi nodi beth fydd eich cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru o dan yr amgylchiadau hyn ynglŷn â sut y gallant gefnogi'r menywod WASPI yn eu hymgyrch? Pa lwybrau cyfreithiol sydd ar gael iddynt hawlio iawn? A allent herio canfyddiadau'r ombwdsmon yn gyfreithiol, ac a allech chi ryddhau'r holl ymatebion a gawsoch i lythyrau blaenorol rydych wedi'u hanfon at Lywodraeth y DU mewn perthynas â’r ymgyrch hon?
Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Os caf wneud sylwadau cyffredinol mewn perthynas â'ch cwestiwn, rwy'n credu bod y ffordd y mae Llywodraethau Ceidwadol olynol wedi trin menywod a anwyd yn y 1950au yn parhau i fod yn sgandal genedlaethol. Ers lansio ymgyrch WASPI yn 2015, mae mwy na 200,000 o fenywod WASPI wedi marw heb weld na derbyn cyfiawnder pensiwn erioed, felly mae'r menywod sy'n parhau i gael eu heffeithio gan y mater hwn eisoes wedi bod dan anfantais o ganlyniad i ddau godiad i oedran pensiwn y wladwriaeth, a nawr rydym yn dysgu bod Llywodraeth gyfredol y DU yn ystyried ei wneud unwaith eto. A gaf fi ddweud, ers 2016, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i dynnu sylw at ein pryderon ynghylch cyfathrebu newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth menywod? Byddaf yn parhau i wneud y sylwadau hynny. Bydd yn rhaid imi gael mynediad at yr ohebiaeth mewn perthynas â'r atebion rydym wedi'u cael, a gallaf ysgrifennu atoch ar wahân am hynny.
Yr hyn y gallaf ei ddweud hefyd, serch hynny, wrth gwrs, yw bod y canfyddiadau diweddaraf o Gam 2 adroddiad yr Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd yn nodi bod camweinyddiaeth yng nghyfathrebiadau'r Adran Waith a Phensiynau mewn perthynas â blynyddoedd cymhwyso yswiriant gwladol, a thrin cwynion. Ac i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio mewn ffordd mor andwyol, rwy'n credu bod rhaid unioni'r niwed a bod yn rhaid digolledu pobl yn briodol; y miloedd lawer o bobl sydd wedi gorfod parhau i weithio flwyddyn ar ôl blwyddyn, er gwaethaf y ffaith bod y cytundeb y gwnaethant ei gytuno—flynyddoedd lawer yn ôl yn eu hieuenctid o ran eu hoedran pensiwn a beth fyddai eu hawliau—wedi cael ei dorri. Roedd yn dramgwydd anffodus a chredaf fod ganddynt hawl i gael eu digolledu'n briodol am hynny.