Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch. Ie, fel y dywedwch, mae amser yn brin, oherwydd mae'n ddyddiad penodol, ac fel y dywedwch, hoffwn ddeall pa estyniad sy'n bosibl a'r hyn y gallem ei wneud yma i helpu gyda'r ymyl clogwyn hwnnw. Mae natur frysiog y Bil hwn yn codi'r posibilrwydd real iawn o reoliadau allweddol mewn ystod o feysydd polisi naill ai'n cael eu disodli gan ddewisiadau amgen o safon is neu'n cael eu hepgor yn llwyr o'r llyfr statud. Hefyd, mae'n rhaid inni gofio gallu cyfyngedig Llywodraeth Cymru i ystyried goblygiadau llawn diddymu, diwygio neu gymhathu cyfraith yr UE a ddargedwir sy'n benodol i Gymru. Fel y cyfryw, ac yng ngoleuni'r ffaith mai Gweinidog y DU yn unig sydd wedi gallu ymestyn y cymal machlud hwnnw ym mis Rhagfyr, efallai y bydd angen cael rhywfaint o flaenoriaethu pragmatig i reoli'r llwyth gwaith yn effeithiol yn y misoedd sy'n weddill i Weinidogion Cymru. Pa reoliadau penodol neu feysydd polisi eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu blaenoriaethu yn ei hadolygiad o gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n benodol i Gymru?