2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 1 Mawrth 2023.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a wnewch chi roi datganiad ar y gyllideb ar gyfer y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru?
Cafwyd datganiadau ac ymatebion blaenorol i gwestiynau sydd wedi nodi'r gyllideb—mae'r cyfan yn gyhoeddus. Nid wyf yn credu bod unrhyw ddadl nac unrhyw ddiffyg tryloywder ynglŷn â beth yw'r gyllideb honno.
A gaf fi eich croesawu yn ôl o'ch taith ddiweddar i Wcráin gydag Alun Davies, ein cyd-Aelod arall o'r Senedd, taith roeddem i gyd yn ei chefnogi, a dymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi?
Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb rydych chi wedi ei roi, ac rydym wedi croesi cleddyfau ar fater y gyllideb ar sawl achlysur yn y gorffennol. Ond rydym yn gwybod mai un o'r pethau rydych chi wedi gofyn i'r comisiwn cyfansoddiadol ei wneud yw ystyried sut y gall ddatblygu prif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Gymreig a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru. Nawr, yn y gyllideb ddrafft ar gyfer Llywodraeth Cymru am y ddwy flynedd nesaf, rydych chi wedi nodi £2.2 miliwn ychwanegol sy'n mynd i gael ei wario, ac mae llawer o bobl yn gofyn i mi—ac rwy'n siŵr eu bod yn gofyn i bobl ar eich meinciau chi hefyd, Weinidog—a yw hynny'n ddefnydd da o arian cyhoeddus, o ystyried yr heriau eraill y mae Cymru'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Fel y gwyddoch yn iawn, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.20 am bob £1 a werir ar fater datganoledig yn Lloegr, ac mae'n ymddangos i mi fod y cyhoedd am weld yr arian yn cael ei wario ar faterion fel ysgolion, ysbytai, ffyrdd a blaenoriaethau eraill, ac mae'n ymddangos fel pe baech yn dadfuddsoddi ym mhob un o'r rheini. Rydych chi'n ei wario, wrth gwrs, ar y comisiwn hwn—comisiwn i gefnogi'r hyn a welwn ni fel ymgais i fachu grym o San Steffan. Felly, mae disgwyl i'r comisiwn gwblhau ei waith erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon—erbyn mis Rhagfyr eleni. Pam ar y ddaear rydych chi wedi rhoi mwy o arian yn y gyllideb honno, i'w barhau tan fis Mawrth 2025, os yw'n mynd i fod yn gorffen ei waith eleni?
Wel, a gaf fi ddiolch yn gyntaf am eich sylwadau am fy ymweliad diweddar ag Wcráin, a diolch, a hefyd i'r Aelodau eraill, am y gefnogaeth a roddwyd? Efallai eich bod wedi gweld o'r cyfryngau cymdeithasol fod y deunyddiau sylweddol a gafodd eu cludo drosodd ar y rheng flaen yn Wcráin o fewn 24 awr, ac mae hynny efallai yn amlygu'r brys ond pwysigrwydd cymorth, a hefyd y ffaith, wrth gwrs, fod mwy o faneri Cymreig yn hedfan ar reng flaen Wcráin ar hyn o bryd nag o unrhyw wlad arall. Ond rwy'n credu bod cydnabyddiaeth i'r cysylltiad hwnnw—. Gan gofio bod Donetsk, lle mae llawer o'r ymladd yn digwydd, wedi ei ddatblygu gan Gymro, wrth gwrs, ac enw'r lle yn flaenorol oedd Hughesovka, ar ôl John Hughes. Felly, mae gennym gysylltiad yno. Felly, diolch am y sylwadau hynny.
Mewn perthynas â'r comisiwn annibynnol, fel y dywedwch chi, mae ganddo 12 mis arall o waith i fynd. Mae'n rhaid iddo gyhoeddi adroddiad. Felly, yn amlwg, bydd cryn dipyn o wariant i gwblhau hynny, yn enwedig oherwydd, pan gyfarfûm ag aelodau'r comisiwn, roeddent yn amlinellu'n glir iawn y gwaith roeddent yn mynd i'w wneud, sef ceisio cyrraedd yr elfennau hynny ar gymunedau, pobl ac unigolion sy'n anodd iawn ymgysylltu â hwy. Nid wyf yn credu bod hyn yn wastraff. Aneurin Bevan a ddywedodd mai'r drafferth gyda'r Blaid Geidwadol yw eu bod yn gwybod pris popeth a gwerth dim byd. Rwy'n ystyried ein democratiaeth yn werthfawr iawn, ac rwy'n credu bod yna her gyda'n democratiaeth, o ran nifer y rhai sy'n pleidleisio, o ran ymgysylltiad, o ran canfyddiad pobl o wleidyddiaeth a'r ffordd y maent yn credu bod eu llais yn cyfrif mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu bod yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac ar adeg o ansefydlogrwydd cyfansoddiadol—fod yr hyn a wnawn yn bwysig tu hwnt. Mae'n bwysig iawn edrych tuag at ddyfodol ein democratiaeth, ein ffordd o lywodraethu, sut yr ymgysylltwn â'n cymunedau, canfyddiad cymunedau ohonom a sut mae democratiaeth yn gweithio o fewn Cymru. Felly, rwy'n meddwl y gwelwch—. Rwy'n gwbl argyhoeddedig, erbyn diwedd hyn, y byddwch yn codi ar eich traed ac yn dweud, 'Wel, fe wnes i'r sylwadau hyn yn y gorffennol, ond rwy'n fodlon nawr fod hyn yn sicr wedi bod yn werth yr arian ar gyfer y dyfodol.'
Wel, rwyf bob amser yn myfyrio ar fy sylwadau, ond o ystyried bod y comisiwn i fod i gwblhau ei waith yn y flwyddyn galendr bresennol, rwy'n dal i fethu deall pam ar y ddaear eich bod wedi dyrannu gwariant sy'n mynd ag ef drwodd hyd at fis Mawrth 2025. Rydych chi'n dal i fod heb ateb y cwestiwn mawr hwnnw. Pam mae comisiwn sydd ar fin gorffen yn cael £1.1 miliwn pellach yn eich llinell gyllideb—yng nghyllideb ddangosol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25? Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n wastraff ar adnoddau, ac yn enwedig pan fo gennym bobl ledled Cymru ar hyn o bryd yn cael trafferth gyda'r pwysau costau byw sy'n eu hwynebu, pan wyddom fod ein GIG yn parhau i fod o dan bwysau sylweddol, pan fo gan bobl, yn ôl y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr—nid fi, Joyce Watson—y system addysg waethaf yn y DU, a'r cyflogau isaf? Pam y byddech chi'n dyrannu £1.1 miliwn arall ar gyfer hyn, rhywbeth yr ystyriwn ei fod yn gomisiwn diangen, yn y flwyddyn ar ôl iddo gwblhau ei waith? Rydym yn dal i ddisgwyl ateb i'r cwestiwn hwnnw, a hoffwn ofyn am un unwaith eto.
Wel, fe roddaf yr ateb i chi. Rwy'n credu mai'r ateb yw, pan fydd y comisiwn wedi llunio ei adroddiad a'i ganfyddiadau, nad yw hynny o reidrwydd yn ddiwedd ar y mater. Mae yna broses o ymgysylltu wedyn. Mae yna broses o ymroi i droi'r casgliadau mewn gwirionedd—wel, i esbonio'r casgliadau, i ymgysylltu â'r rhai sydd wedi cymryd rhan, ond hefyd, wedyn, i weld sut y gallwch chi drosi'r casgliadau hynny'n newid ymarferol. Ac rwy'n credu bod honno'n broses nad yw'n mynd i ddod i ben yn sydyn mewn un mis Ionawr, y foment y mae'r adroddiad yn cael ei gyflwyno mewn gwirionedd.
Os ydym ni o ddifrif eisiau gweld yr adroddiad hwn yn bod yn fwy na dim ond un ddogfen arall sy'n dadansoddi'r holl broblemau a'r materion rydym wedi'u nodi ynghylch ein cyfansoddiad, rwy'n credu bod rhaid cael proses sy'n ymgysylltu. Wrth gwrs, os daw'r gwaith i ben cyn hynny—os yw'r gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau'n gynharach—yna, yn amlwg, ni fydd yr arian hwnnw'n cael ei wario. Ond oni bai eich bod chi wedi cyllidebu ar ei gyfer, ni all ddigwydd, yn enwedig os oes angen iddo ddigwydd.
Mae Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a gyflwynwyd ym mis Medi y llynedd, wedi bod yn drychineb llwyr—Bil a gynlluniwyd i gael gwared ar yr holl gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n weddill o lyfr statud y DU erbyn degfed pen-blwydd refferendwm Brexit fan bellaf. Mae'r Bil yn cyflwyno cymal machlud, lle bydd y mwyafrif o gyfraith yr UE a ddargedwir—miloedd o ddarnau o ddeddfwriaeth—yn cael ei datgymhwyso'n awtomatig ar ôl 31 Rhagfyr 2023, oni bai ei bod fel arall yn cael ei chadw fel cyfraith a gymhathwyd.
Ar 18 Tachwedd, cyhoeddodd y Pwyllgor Polisi Rheoleiddio annibynnol ei farn nad yw asesiad effaith y Bil yn addas i'r diben. Graddiodd y pwyllgor agweddau ar yr asesiad effaith, megis ei resymeg a'r dadansoddiad cost a budd, fel naill ai 'gwan' neu 'wan iawn'. Ar ddechrau mis Ionawr, cyfaddefodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ei bod wedi gwario £600,000 ar gostau staffio yn unig mewn deufis yn unig fel rhan o'i hadolygiad o'r Bil, er mai dim ond 318 darn o gyfraith yr UE a ddargedwir y mae ganddi gyfrifoldeb drostynt.
Yng ngoleuni'r cipolwg byr ar gost y Bil annoeth hwn i Lywodraeth y DU, beth yw amcangyfrif presennol Llywodraeth Cymru o'r gofynion adnoddau, yn gostau a staff, sy'n deillio o'r adolygiad parhaus o gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n benodol i Gymru?
Diolch am y cwestiwn, ac mae'n gwestiwn pwysig iawn, ac yn un anodd iawn i'w ateb. Os caf ddechrau, efallai, gyda'r rhan am adnoddau yn gyntaf, mae'n anodd iawn dweud beth yw'r union adnoddau. Dyma sgyrsiau a thrafodaethau y byddaf yn eu cael. Rwyf wedi cael trafodaethau; maent yn parhau. Mae hi braidd yn anodd gwerthuso'r adnoddau sy'n angenrheidiol i ymdrin â'r hyn nad ydym yn ei wybod. Mae cymaint nad ydym yn ei wybod o safbwynt, yn gyntaf, beth mae Llywodraeth y DU yn mynd i'w wneud ynghylch yr agweddau hynny ar gyfraith a ddargedwir. Yn amlwg mae'n rhaid inni ddadansoddi ein hunain, ac yn amlwg rwyf wedi bod yn edrych ar restr o holl gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n benodol i Gymru y byddem am ei hystyried. Mae'n anodd ystyried beth allai ddigwydd i hynny, oherwydd, i ryw raddau, mae'n dibynnu ar ba benderfyniadau a allai gael eu cymryd yn Lloegr, oherwydd bod cymaint o'r meysydd hyn yn ymwneud ag, er enghraifft, materion gorfodi, llywodraethu cyffredin ac yn y blaen.
Felly, mae yna lawer o ffactorau anhysbys ynghlwm wrth hyn. Felly, rydym yn ceisio gwneud y gwerthusiad hwnnw. Rydym hefyd yn ansicr beth fydd union natur y Bil. Barn Llywodraeth Cymru yw y dylai'r Bil gael ei dynnu nôl. Mewn gwirionedd nid yw'n cyflawni unrhyw bwrpas gwirioneddol o gwbl. Mae'n ffordd hynod o wael o ymdrin â deddfwriaeth. Mae'r syniad y gallwch chi ddileu miloedd o ddarnau o ddeddfwriaeth yn sydyn erbyn dyddiad penodol heb unrhyw amser go iawn i ystyried beth fydd y goblygiadau a beth yw'r goblygiadau i ddatganoli—.
Mae Tŷ'r Arglwyddi yn trafod y Bil ar hyn o bryd. Felly, mae yn y Cyfnod Pwyllgor; bydd yn mynd i'r Cyfnod Adrodd o fewn ychydig wythnosau. Yn amlwg mae yna feysydd lle byddem yn hoffi gweld gwelliannau'n cael eu gwneud iddo. Hoffem ddatrys mater pwerau cydredol yn enwedig, na fydd Llywodraeth y DU yn arfer pwerau mewn perthynas â meysydd datganoledig heb gydsyniad Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu mai'r maes arall, wrth gwrs, yw'r cyfnod o amser. Os oes gan Lywodraeth y DU ryw ffordd o ymestyn y dyddiad machlud, byddwn yn gofyn am hynny hefyd. Pam na ddylem ni gael y cyfle hwnnw hefyd? Felly, mae yna lawer o ffactorau ynghylch y Bil hwn sydd heb eu penderfynu ar hyn o bryd, ac mae mater adnoddau yn mynd i fod yn un sylweddol. Rwy'n siŵr y bydd cwestiynau pellach i mi ar hynny. Fe roddaf yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law wrth gwrs, pan fyddaf yn gallu dweud mwy ynglŷn â beth yn union sy'n mynd i ddigwydd, ac mae'n ddigon posibl y bydd hi'n rhai wythnosau eto cyn inni wybod union fformat y Bil.
Diolch. Ie, fel y dywedwch, mae amser yn brin, oherwydd mae'n ddyddiad penodol, ac fel y dywedwch, hoffwn ddeall pa estyniad sy'n bosibl a'r hyn y gallem ei wneud yma i helpu gyda'r ymyl clogwyn hwnnw. Mae natur frysiog y Bil hwn yn codi'r posibilrwydd real iawn o reoliadau allweddol mewn ystod o feysydd polisi naill ai'n cael eu disodli gan ddewisiadau amgen o safon is neu'n cael eu hepgor yn llwyr o'r llyfr statud. Hefyd, mae'n rhaid inni gofio gallu cyfyngedig Llywodraeth Cymru i ystyried goblygiadau llawn diddymu, diwygio neu gymhathu cyfraith yr UE a ddargedwir sy'n benodol i Gymru. Fel y cyfryw, ac yng ngoleuni'r ffaith mai Gweinidog y DU yn unig sydd wedi gallu ymestyn y cymal machlud hwnnw ym mis Rhagfyr, efallai y bydd angen cael rhywfaint o flaenoriaethu pragmatig i reoli'r llwyth gwaith yn effeithiol yn y misoedd sy'n weddill i Weinidogion Cymru. Pa reoliadau penodol neu feysydd polisi eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu blaenoriaethu yn ei hadolygiad o gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n benodol i Gymru?
Diolch am y cwestiwn pellach. Os caf ddweud i ddechrau, mae'r holl faterion a'r pryderon, y cafodd llawer ohonynt eu nodi gan yr Aelod, wedi cael eu crybwyll yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol. Rwyf wedi codi'r materion hynny. Cadeiriais y cyfarfod diweddar, ac wrth gwrs, mae'r pethau hynny'n cael eu hystyried ar lefel Llywodraeth y DU, fel rhan o'r trefniadau rhynglywodraethol sydd gennym. Bydd yn rhaid inni aros i weld beth fydd canlyniad y rheini.
O ran blaenoriaethu pragmatig, mae'n dod yn ôl unwaith eto at fethu gwybod beth nad ydych chi'n ei wybod, ac yn amlwg un peth y byddem eisiau ei flaenoriaethu yw ein deddfwriaeth ein hunain—y ddeddfwriaeth sydd wedi'i chymeradwyo gan y Senedd hon. Ond wrth gwrs, yr anhawster gyda hynny yw ceisio deall hefyd pan fyddwn yn blaenoriaethu beth yw'r goblygiadau pan nad ydych chi'n gwybod yn union beth all ddigwydd ar yr ochr arall gyda deddfwriaeth debyg ar lefel Llywodraeth y DU hefyd, a'r ffordd y gallai honno ryngweithio neu gael effaith. Soniais am orfodaeth fel enghraifft yn gynharach, oherwydd, yn aml, ceir trefniadau gorfodi cyffredin ac yn y blaen, ac felly mae'n rhaid ystyried yr holl bethau hynny. Mae'n debyg na allaf ddweud llawer iawn mwy na hynny ar hyn o bryd. Yn amlwg rwyf wedi mynychu cryn nifer o gyfarfodydd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar hyn. Mae'n waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac fe wnaf bopeth yn fy ngallu i ateb cwestiynau pellach a rhoi diweddariad pan fyddwn yn glir ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd. Mae llawer o waith ar y gweill ar hyn o bryd, i geisio deall y graddau, y 4,000 o ddarnau o ddeddfwriaeth eraill, ar wahân i'r ddeddfwriaeth Gymreig, y mae'n rhaid eu gwerthuso a beth yw'r rhannau rydym am eu blaenoriaethu, ac a oes unrhyw ffyrdd o geisio symleiddio'r broses honno mewn gwirionedd. Y naill ffordd neu'r llall, nid yw'n mynd i fod yn hawdd. Y naill ffordd neu'r llall, mae'n mynd i fod yn anhrefnus ac mae'n siŵr y bydd yn arwain at bob math o ganlyniadau annisgwyl, ond mae'n rhaid inni ymdrin â hyn fel y mae ar hyn o bryd. Hyd nes y gwyddom beth fydd ffurf derfynol y Bil, mae cryn dipyn o bethau'n ansicr o hyd.