Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 1 Mawrth 2023.
Gwnaeth y tasglu 27 o argymhellion fis Mehefin 2017, yn seiliedig ar thema o roi'r dinesydd wrth wraidd ein gwaith a chreu cynnwys sy'n hawdd ei ddeall. Roedd yr adroddiad yn sail i'r strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer y chweched Senedd a gymeradwywyd gan y Comisiwn fis Ebrill 2022. Rydym bellach yn defnyddio profiadau'r cyhoedd o wasanaethau i dynnu sylw at waith ymchwiliadau'r pwyllgorau ac yn cynnwys eu straeon ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.