3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2023.
2. Pa gynnydd mae'r Comisiwn wedi ei wneud o ran cyflawni argymhellion adroddiad y tasglu newyddion a gwybodaeth ddigidol? OQ59164
Gwnaeth y tasglu 27 o argymhellion fis Mehefin 2017, yn seiliedig ar thema o roi'r dinesydd wrth wraidd ein gwaith a chreu cynnwys sy'n hawdd ei ddeall. Roedd yr adroddiad yn sail i'r strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer y chweched Senedd a gymeradwywyd gan y Comisiwn fis Ebrill 2022. Rydym bellach yn defnyddio profiadau'r cyhoedd o wasanaethau i dynnu sylw at waith ymchwiliadau'r pwyllgorau ac yn cynnwys eu straeon ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Diolch am yr ateb, Llywydd. Yn amlwg, mae ein democratiaeth wedi symud ymlaen gryn dipyn, hyd yn oed ers 2016, gyda phobl ifanc 16 a 17 oed nawr wedi cael y bleidlais yn etholiadau'r Senedd, ond mae'n debyg bod agweddau eraill wedi symud am yn ôl—mwy o bapurau newydd lleol a swyddi newyddiadurol wedi'u colli. Ac ar sail arolwg mae'r grŵp yma wedi'i gynnal yn ddiweddar, mae'r ffigurau o ran dealltwriaeth ein dinasyddion o drefniadau llywodraethu Cymru yn bryderus, a dweud y lleiaf: 35 y cant o ymatebwyr yn credu bod gan y Ceidwadwyr Weinidogion yn Llywodraeth Cymru ers etholiad Mai 2021; 44 y cant yn meddwl bod gan Blaid Cymru Weinidogion; a 78 y cant o ymatebwyr yn methu ag enwi un polisi sydd wedi'i gyflwyno yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf pan fyddant yn meddwl am y Senedd ac am Lywodraeth Cymru.
Ydych chi'n cytuno ei bod hi'n allweddol i iechyd democratiaeth yng Nghymru fod yna ddealltwriaeth eang ymhlith y cyhoedd o hanfodion sut mae democratiaeth yn gweithio, megis sut y caiff grym sy'n effeithio ar eu bywydau ei arfer, pa blaid sydd mewn Llywodraeth a beth yw cyfrifoldebau gwahanol haenau o lywodraeth? Beth mwy, felly, gall y Comisiwn a'r Senedd ei wneud i ddatblygu eu rôl fel cynhyrchydd cynnwys a straeon, yn unol ag un o brif alwadau adroddiad y tasglu i ddylanwadu ar ddealltwriaeth ar lefel boblogaidd eang am waith y Senedd, a sut mae grym yn cael ei arfer a phwy sy'n ei arfer? Diolch.
Wel, ydw, dwi'n cytuno ei fod e'n bwysig o ran iechyd ein democratiaeth ni fod pobl sy'n ein hethol ni yma i'r Senedd yn gyfarwydd â'n gwaith ni ac yn gyfarwydd â'r Senedd yn fwy cyffredinol. Ac mae'n fy mhryderu i glywed rhai o'r canrannau rydych chi wedi sôn amdanynt o bobl sydd ddim yn ymwybodol o waith dydd i ddydd y Senedd, na gwaith y Senedd yn ehangach na hynny. Mae hynny'n wir am Gymru. Mae'n wir, siŵr o fod, am bron bob gwlad yn y byd hefyd i raddau mwy neu llai, ond gan ein bod ni'n ddemocratiaeth newydd hefyd, mae hwnna'n gosod problemau ychwanegol i ni.
Fel y sonioch chi yn eich cyfraniad, mae sut mae pobl yn derbyn cyfryngau erbyn hyn yn newid, ac wedi newid ers 2017 pan wnaethpwyd yr adroddiad. Mae cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfle gwahanol i'r Senedd yma i fynd ati i gyfathrebu â phobl Cymru, ond mae'n cynnig ei heriau hefyd. Ac felly, mewn ymateb i chi, dwi'n hapus iawn fel Llywydd, fel y Comisiwn hefyd, i fod yn gwrando ar unrhyw brofiad a syniadau sydd gan Aelodau o fewn y Senedd yma ar sut gallwn ni ddatblygu, gwella a mireinio ein gwaith ni yn y maes yma ymhellach. Mae cyfrifoldeb arnom ni fel Senedd, mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd hefyd fel Aelodau unigol o'r Senedd, i fynd ati i gyfathrebu'n uniongyrchol â phobl Cymru, ac mae angen i ni, yn ysbryd yr hyn ddywedodd Joyce Watson yn ei hateb hi, fod yn parhau i wella ac i feddwl am ffyrdd newydd o weithio drwy'r amser yn hyn o beth. A dwi'n barod iawn i gydweithio gydag Aelodau ar sut gallwn ni wneud hynny.
Cwestiwn 3, i'w ateb gan y Llywydd eto. Cefin Campbell.