Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr i chi am y cadarnhad yna. Mae'r ffigurau yna ar eu ffordd, felly edrych ymlaen i'w gweld nhw. Ac mae diddordeb penodol gen i, fel sawl un ohonom ni yn y Siambr, yn ymdrechion y Comisiwn i gynyddu canran gwariant y Comisiwn ar gyflenwyr o Gymru er mwyn defnyddio'r bunt gyhoeddus er lles ein cymunedau lleol, ac er lles pobl Cymru. Mae yna enghreifftiau lu o hyn, megis Castell Howell yn fy rhanbarth i yn y maes cyflenwi bwyd. Rwy'n croesawu'n benodol y targed gan y Senedd ddiwethaf i gynyddu'r ganran yma i 43 y cant, a'r ffaith bod y Comisiwn wedi llwyddo yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i fynd y tu hwnt i'r targed yna, gyda 45 y cant o'i wariant yn cael ei ddarparu i gyflenwyr Cymreig.
A allwch chi, Llywydd, felly gadarnhau sut mae'r Comisiwn yn diffinio cyflenwr Cymreig, gan fod rhai sefydliadau wedi dadlau fod hyn yn astrus ac yn anodd i'w wneud? Yn amlwg, dydy'r Comisiwn ddim yn cael anhawster gosod a mesur targed o'r fath. A hefyd, o safbwynt y set o ddangosyddion perfformiad yn y chweched Senedd, a allwch chi gadarnhau beth yw'r uchelgais newydd sydd wedi'i osod o ran caffael Cymreig, fel y gallwn ni gefnogi hyd yn oed mwy o fusnesau a swyddi sydd yn gefn i'n heconomi a'n cymunedau?