Dangosyddion Perfformiad Allweddol

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch i ba raddau mae'n cwrdd a'i ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer y chweched Senedd? OQ59186

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:12, 1 Mawrth 2023

Cafodd dangosyddion perfformiad allweddol y Comisiwn eu hadolygu ar ddechrau'r chweched Senedd. Mae'r data dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer y flwyddyn bresennol, sef Ebrill 2022 i Fawrth 2023, yn cael eu casglu ar hyn o bryd, a byddant yn cael eu cyhoeddi yn adroddiad blynyddol a chyfrifon 2022-23 yn yr haf.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

Diolch yn fawr i chi am y cadarnhad yna. Mae'r ffigurau yna ar eu ffordd, felly edrych ymlaen i'w gweld nhw. Ac mae diddordeb penodol gen i, fel sawl un ohonom ni yn y Siambr, yn ymdrechion y Comisiwn i gynyddu canran gwariant y Comisiwn ar gyflenwyr o Gymru er mwyn defnyddio'r bunt gyhoeddus er lles ein cymunedau lleol, ac er lles pobl Cymru. Mae yna enghreifftiau lu o hyn, megis Castell Howell yn fy rhanbarth i yn y maes cyflenwi bwyd. Rwy'n croesawu'n benodol y targed gan y Senedd ddiwethaf i gynyddu'r ganran yma i 43 y cant, a'r ffaith bod y Comisiwn wedi llwyddo yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i fynd y tu hwnt i'r targed yna, gyda 45 y cant o'i wariant yn cael ei ddarparu i gyflenwyr Cymreig.

A allwch chi, Llywydd, felly gadarnhau sut mae'r Comisiwn yn diffinio cyflenwr Cymreig, gan fod rhai sefydliadau wedi dadlau fod hyn yn astrus ac yn anodd i'w wneud? Yn amlwg, dydy'r Comisiwn ddim yn cael anhawster gosod a mesur targed o'r fath. A hefyd, o safbwynt y set o ddangosyddion perfformiad yn y chweched Senedd, a allwch chi gadarnhau beth yw'r uchelgais newydd sydd wedi'i osod o ran caffael Cymreig, fel y gallwn ni gefnogi hyd yn oed mwy o fusnesau a swyddi sydd yn gefn i'n heconomi a'n cymunedau?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:13, 1 Mawrth 2023

Mi ofynnoch chi ddau gwestiwn fanna. Mi allaf ateb un ohonyn nhw a bydd rhaid i mi ysgrifennu atoch chi gyda'r ateb i'r llall. Yr ateb felly i'r cwestiwn ynglŷn â beth yw targed nawr y Comisiwn o ran gwariant y Comisiwn ar gyflenwyr o Gymru, gan ein bod ni wedi cwrdd â'n targed yn y Senedd ddiwethaf o 43 y cant, mae'r targed erbyn hyn yn 50 y cant ar gyfer y chweched Senedd, a dwi'n gobeithio y byddwn ni'n gallu adrodd ar hynna, fel y dywedais i, yn ein adroddiad blynyddol ni. Felly, 50 y cant yw'r targed. 

Sut yn union rŷm ni'n diffinio cynnyrch a gwariant ar nwyddau o Gymru? Fe fydd yn rhaid i fi ysgrifennu atoch chi ar hynna, Cefin Campbell, achos dyw'r ateb ddim ar flaen fy meddwl i. Ac felly dwi'n hapus i gadarnhau hynny mewn llythyr atoch chi, gan obeithio y bydd hwnna'n rhoi esboniad eglur i chi ac i unrhyw un arall sydd am wybod sut mae'r Comisiwn a'r Senedd yma yn mynd ati i ddiffinio nwyddau a gwasanaethau sydd yn tarddu o Gymru.