Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 1 Mawrth 2023.
Wel, ydw, dwi'n cytuno ei fod e'n bwysig o ran iechyd ein democratiaeth ni fod pobl sy'n ein hethol ni yma i'r Senedd yn gyfarwydd â'n gwaith ni ac yn gyfarwydd â'r Senedd yn fwy cyffredinol. Ac mae'n fy mhryderu i glywed rhai o'r canrannau rydych chi wedi sôn amdanynt o bobl sydd ddim yn ymwybodol o waith dydd i ddydd y Senedd, na gwaith y Senedd yn ehangach na hynny. Mae hynny'n wir am Gymru. Mae'n wir, siŵr o fod, am bron bob gwlad yn y byd hefyd i raddau mwy neu llai, ond gan ein bod ni'n ddemocratiaeth newydd hefyd, mae hwnna'n gosod problemau ychwanegol i ni.
Fel y sonioch chi yn eich cyfraniad, mae sut mae pobl yn derbyn cyfryngau erbyn hyn yn newid, ac wedi newid ers 2017 pan wnaethpwyd yr adroddiad. Mae cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfle gwahanol i'r Senedd yma i fynd ati i gyfathrebu â phobl Cymru, ond mae'n cynnig ei heriau hefyd. Ac felly, mewn ymateb i chi, dwi'n hapus iawn fel Llywydd, fel y Comisiwn hefyd, i fod yn gwrando ar unrhyw brofiad a syniadau sydd gan Aelodau o fewn y Senedd yma ar sut gallwn ni ddatblygu, gwella a mireinio ein gwaith ni yn y maes yma ymhellach. Mae cyfrifoldeb arnom ni fel Senedd, mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd hefyd fel Aelodau unigol o'r Senedd, i fynd ati i gyfathrebu'n uniongyrchol â phobl Cymru, ac mae angen i ni, yn ysbryd yr hyn ddywedodd Joyce Watson yn ei hateb hi, fod yn parhau i wella ac i feddwl am ffyrdd newydd o weithio drwy'r amser yn hyn o beth. A dwi'n barod iawn i gydweithio gydag Aelodau ar sut gallwn ni wneud hynny.