4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2023.
2. A wnaiff y Gweinidog roi datganiad yn sgil RCN Cymru yn gwrthod cynnig cyflog ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23? TQ734
Fe gyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddoe i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, yn dilyn cyfarfod gyda fy swyddogion ac undebau llafur brynhawn ddoe. Rwy'n falch fod fforwm partneriaeth Cymru gyda'i gilydd, o drwch blewyn, wedi derbyn y cynnig cyflog uwch a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
Ydy'r Gweinidog yn derbyn bod y ffaith bod dros 80 y cant o aelodau’r RCN wnaeth gymryd rhan yn y bleidlais ar y cynnig yma wedi pleidleisio i’w wrthod yn dangos yr argyfwng morâl, mewn gwirionedd, sydd yn y proffesiwn nyrsio ar hyn o bryd? Ac wrth gwrs, nid dyna'r unig fesurydd, a dweud y gwir. Mae gyda ni'r cynnig sydd wedi cael ei weld yn niferoedd y swyddi gwag, mae gyda ni'r cynnydd yn lefelau salwch o fewn gweithlu'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, mae gyda ni nifer cynyddol yn gadael, a'r nifer yn gostwng sy'n ceisio ar gyfer cyrsiau nyrsio, ac yn y blaen.
Ydy'r Llywodraeth yn fodlon edrych unwaith eto, ar yr unfed awr ar ddeg yma, ar ddefnyddio'r pwerau sydd gyda chi, o leiaf ar gyfer treth incwm, yn y bandiau uwch ac ychwanegol, er mwyn cynnig gwell setliad ar gyfer y nyrsys? Gaf i ofyn i'r Gweinidog hefyd: roeddech chi'n sôn am y fforwm partneriaeth, ac mi roedd mwyafrif wedi pleidleisio o blaid y cynnig; ydych chi'n gallu dweud, ar wahân i'r RCN, pa undebau eraill o fewn y gwasanaeth iechyd sydd dal mewn anghydfod cyflog gyda'r Llywodraeth ar hyn o bryd? Ac ydych chi'n cynnig nawr, drwy'r datganiad roeddech chi'n cyfeirio ato fe, gorfodi'r codiad cyflog, ei weithredu fe i bawb, neu dim ond ar gyfer yr undebau sydd wedi derbyn y codiad? Allwch chi hefyd ein diweddaru ni ynglŷn â'r elfennau heblaw cyflog y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn y datganiad ysgrifenedig ar 8 Chwefror? Oes yna gynnydd wedi bod o ran yr elfennau hynny o'r pecyn roeddech chi wedi eu trafod? Ac, a gaf i ofyn yn derfynol, mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, o edrych at y flwyddyn nesaf, wedi dweud wrth y corff adolygu cyflogau, y byddai 3.5 y cant o godiad cyflog y flwyddyn nesaf yn fforddiadwy, ac y byddai unrhyw beth dros 5 y cant yn anfforddiadwy. Ydych chi fel Llywodraeth Cymru'n cydsynio â'r hyn y mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi ei ddweud wrth y corff adolygu cyflogau, ac, os nad ydych chi, ydych chi hefyd yn bwriadu cynnig tystiolaeth ychwanegol i'r hyn dŷch chi eisoes wedi ei wneud i'r corff hynny?
Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod, er bod hon nawr yn sefyllfa lle mae'r undebau ar y cyd wedi cytuno i dderbyn y cynnig, dŷn ni'n deall bod y cynnig dim ond wedi cael ei dderbyn gan un bleidlais, a dŷn ni hefyd yn deall bod yna lot o bobl yn yr undebau yn dal i fod yn flin ynglŷn â'r sefyllfa. A dyna pam nawr, yn ystod yr wythnos nesaf, y byddwn ni'n ail-drafod â'r undebau ynglŷn â sut y byddwn ni'n gwneud yr implementation o'r arian yma, sydd nawr wedi cael ei gytuno. A beth y gallaf i ei ddweud wrthych chi yw bod pob un aelod o'r undebau yn hapus iawn i gario ymlaen â'r trafodaethau, a dyna y byddwn ni'n ei wneud yn ystod y dyddiau nesaf.
Jest o ran beth sy'n digwydd nesaf—ydyn ni'n mynd i godi treth incwm yn y bandiau uwch? Nac ydyn. Dŷn ni wedi egluro'n glir, os dŷn ni'n codi 1c yn y £1 i'r bobl sydd yn talu mwy na £150,000 y flwyddyn, fe godwn ni £3 miliwn. Os dŷn ni'n codi 1c yn y £1 i'r bobl sy'n talu'r higher rate, byddwn ni'n codi £33 miliwn. Dyw hwnna ddim yn ddigon o arian, hyd yn oed i gyfro 1 y cant o beth sydd ei angen, felly, fyddwn ni ddim yn mynd lawr y trywydd yna. Beth dŷn ni yn ei ddeall yw bod hawl gyda'r undebau i barhau â'u streics nhw—hynny yw, bod yr individual undebau yn gallu gwneud penderfyniadau, ond dŷn ni yn gobeithio, wrth gwrs, yn y trafodaethau, y byddwn ni'n parhau i sicrhau bod yna lygedyn o obaith i ni i'w weld, os y gallwn ni wneud rhywbeth ymhellach i weld y streics yma'n cael eu galw ymaith. Yn amlwg, dŷn ni mewn sefyllfa lle mae'r anghydfod yn dal i fod yn bresennol, a dyna pam y byddwn ni yn parhau i drafod.
O ran yr elfennau heblaw cyflog, does dim byd ychwanegol wedi cael ei roi ar y bwrdd, ond, yn amlwg, mi fyddwn ni'n trafod yn ystod y dyddiau nesaf yr implementation o'r hyn sydd wedi cael ei gytuno.
Jest o ran yr independent pay review board, rŷn ni wedi roi tystiolaeth i'r bwrdd yna. Gwnaethon ni ddim rhoi swm ynglŷn â faint fyddai'n fforddiadwy, ac mi wnaethon ni danlinellu'r ffaith bod pobl wedi bod yn dioddef o chwyddiant, a thanlinellu'r ffaith bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith ar bobl. Ond, hefyd, wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod ni'n tanlinellu’r ffaith bod cyllideb y flwyddyn nesaf yn dynn tu hwnt pan fo'n dod i iechyd.
A gaf fi ddiolch am eich atebion, Weinidog? Un peth yr hoffwn geisio ei ddeall yw eich bod wedi siarad am drafodaethau pellach dros yr wythnosau i ddod, a hoffwn ddeall beth yw'r cynllun nawr yn y trafodaethau hynny y cyfeirioch chi atynt. Credaf eich bod newydd ddweud yn eich ateb i Adam Price y gallwch edrych ar beth arall y mae angen i chi ei wneud, a bydd ymgysylltu a thrafodaethau pellach yn mynd rhagddynt, ond rydych hefyd wedi dweud mai’r cynnig cyflog diwethaf oedd yr olaf. Felly, rwy'n ceisio deall. Ymddengys bod hynny'n groesosodiad—efallai nad ydyw—ond rwy'n ceisio deall beth sydd y tu ôl i hynny. Ac efallai y gallwch esbonio pwy sy'n gyfrifol am agor y trafodaethau pellach hynny gyda'r undebau, a'r Coleg Nyrsio Brenhinol hefyd.
Ac a gaf fi ofyn: a ydych yn teimlo bod y Coleg Nyrsio Brenhinol—? Rydych yn amlwg wedi cael trafodaethau cynhyrchiol gyda rhai o'r undebau, ond o'r partïon hynny na dderbyniodd y cynnig, gan gynnwys y Coleg Nyrsio Brenhinol, a ydych chi'n credu, mewn rhyw ffordd, eu bod wedi bod yn afresymol i wrthod y cynnig? Rwyf bob amser wedi cael perthynas dda gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol, ond rwy'n ceisio deall a ydych chi'n credu bod y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi bod yn afresymol, a beth yw eich perthynas, am wn i, gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol a'r partïon eraill na dderbyniodd y cynnig a roesoch iddynt o ganlyniad i’ch datganiad ddoe.
Diolch, Russell. Yn amlwg, rydym bob amser yn awyddus, yn Llywodraeth Lafur Cymru, i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, a byddwn yn awgrymu bod gennym berthynas dda iawn ac adeiladol gyda phob un o’r undebau. Yn amlwg, mae yna adegau pan ydym yn anghytuno ar agweddau ar fanylion, ac rydym yn cydnabod bod yna ymdeimlad gwirioneddol o annhegwch ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod yn dymuno sicrhau ein bod yn parhau â’r trafodaethau hynny, gan edrych ar sut y byddwn yn gweithredu'r hyn sydd bellach yn rhywbeth y cytunwyd arno. Yr hyn na fyddaf yn ei wneud yw rhoi sylwebaeth barhaus ar beth yn union fydd yn digwydd yn y trafodaethau hynny.
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw mai’r ffordd y mae’r system yn gweithio yw bod yna oddeutu 15 o undebau llafur iechyd cydnabyddedig, ac o ran y ffordd y cynhaliwyd y bleidlais, mae gan yr undebau hynny bleidlais sy’n gymesur â maint yr aelodaeth. A dyna pam eu bod wedi cyrraedd sefyllfa ble cafodd y cynnig ei dderbyn o un bleidlais. Ac yn amlwg, rydym yn falch ei fod wedi'i dderbyn, a chredaf ei bod yn bwysig eich bod yn gofyn i'r undebau llafur eu hunain a ydynt am ddatgelu pwy a wnaeth beth. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych, er enghraifft, yw bod y ffisiotherapyddion wedi derbyn y cynnig, a'u bod wedi dweud na fyddant yn streicio. Gwrthododd Coleg Brenhinol y Bydwragedd y cynnig, ond byddant yn anrhydeddu’r cytundeb, ac maent wedi dweud na fyddant yn streicio.
Felly, mae pobl yn ymateb yn wahanol. Dyna pam mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud nawr, yn y dyddiau nesaf, yw eistedd i lawr a gweld beth arall sydd angen i ni ei wneud yn y gofod hwn i weld a allwn wneud unrhyw beth arall i osgoi streiciau yn y dyfodol.