6. Dadl Plaid Cymru: Cysylltiadau diwydiannol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 3:45, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Yn y cyfamser, mae gweithlu’r sector cyhoeddus wedi gorfod ymdopi â dros ddegawd o gyflogau cyfyngedig, gyda chyflogau cyfartalog y sector cyhoeddus yng Nghymru 4 y cant yn is mewn termau real o gymharu â 2010. Mewn rhai proffesiynau, megis nyrsio ac addysgu, mae’r darlun hyd yn oed yn fwy enbyd—mae cyflogau nyrsys wedi gostwng o leiaf 20 y cant mewn termau real ers 2010; mae cyflogau athrawon wedi gostwng 23 y cant ers 2010, ochr yn ochr â thoriad syfrdanol o 27 y cant i staff cymorth.

Nawr, gan droi at y Bil a’i oblygiadau, mae’r Bil yn rhoi’r pŵer i Weinidogion y DU a chyflogwyr orfodi gweithwyr mewn chwe sector i weithio yn ystod streic. Drwy’r system hysbysiadau gwaith newydd, gall cyflogwyr ddiswyddo gweithwyr sy’n gwrthod cydymffurfio â’r gorchymyn i weithio yn ystod streic, gan osgoi'r hawliau statudol yn erbyn diswyddo annheg sydd wedi’u hymgorffori yn Neddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992. Mae hefyd yn ei gwneud yn orfodol i undebau orfodi’r hysbysiadau gwaith hyn i dorri streiciau, gan eu gwneud yn agored i hyd at £1 filiwn o golledion os na allant orfodi cydymffurfiaeth ymhlith eu haelodau. Mae hyn yn codi’r posibilrwydd gwirioneddol y gallai undebau llafur gael eu herlyn hyd at fethdaliad, rhywbeth nad yw wedi digwydd ers 1906.

Mae erthygl 8 o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol 1966, a lofnodwyd gan y DU, yn cadarnhau hawl pawb i ffurfio undebau llafur ac i ymuno ag undeb llafur o’u dewis. Mae hefyd yn cadarnhau hawl undebau llafur i weithredu'n rhydd. Fel y mae nifer o gynrychiolwyr undebau ac arbenigwyr cyfraith cyflogaeth wedi nodi, mae’r Bil gwrth-streiciau yn mynd yn gwbl groes i’r hawliau sylfaenol hyn. I ddyfynnu datganiad diweddar gan Gydffederasiwn Undebau Llafur Ewrop, byddai'n gwthio’r DU

'hyd yn oed ymhellach y tu hwnt i'r brif ffrwd ddemocrataidd' ar hawliau llafur.

Wrth gwrs, nid yw’r Bil hwn ond y diweddaraf mewn cyfres hir o ddeddfau gan y Torïaid i danseilio hawliau gweithwyr. Roedd Deddf Cysylltiadau Diwydiannol 1971, a gyflwynwyd gan weinyddiaeth Heath, er enghraifft, yn gwanhau amddiffyniadau gweithwyr ac yn codi rhwystrau newydd yn erbyn cydfargeinio. Fe'i dilynwyd gan gyfres o Ddeddfau Cyflogaeth o dan Lywodraeth hynod wrth-undebol Thatcher, a oedd, ymhlith pethau eraill, yn cyfyngu ar allu undebau i bicedu ac yn gwahardd streiciau undod. Yn fwy diweddar, gosododd Deddf Undebau Llafur 2016 drothwyon uwch ar gyfer trefnu streiciau a gweithredu'n ddiwydiannol, tra bo diddymu’r Rheoliadau Ymddygiad Asiantaethau Cyflogaeth a Busnesau Cyflogaeth y llynedd wedi galluogi cyflogwyr i gyflogi gweithwyr asiantaeth dros dro er mwyn tanseilio streiciau.

Mae effaith hyn oll yn golygu mai'r DU sydd â’r cyfreithiau gwrth-undebol mwyaf gormesol yn Ewrop—pwynt a danlinellir gan y ffaith, er bod 60 y cant o weithwyr yn yr UE yn elwa o gytundebau cydfargeinio, mai dim ond 26 y cant o weithwyr y DU sy'n elwa o gytundebau o'r fath. Mae ffeithiau o’r fath yn amlygu pa mor wag yw rhethreg y Torïaid ar farwniaid undebau gor-rymus a’u hymgais i bortreadu'r Bil hwn fel mesur a fydd yn sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â normau Ewropeaidd.

Ond wrth gwrs, mae ein cynnig heddiw'n mynd ymhellach na dangos undod yn unig. Mae ein cynnig yn galw ar y Senedd a’r Llywodraeth hon i gefnogi ac i ymgyrchu dros ddatganoli cyfraith cyflogaeth. Y ffaith syml amdani yw na allwn ddibynnu ar San Steffan i amddiffyn hawliau gweithwyr. Rydych yn disgwyl hynny pan fo'r Llywodraeth yn las, ond yn anffodus, gallech ddweud yr un peth os yw'r Llywodraeth yn goch. Rhwng 1997 a 2010, a wnaeth Blair neu Brown ddiddymu deddfau gwrth-undebol Thatcher? Naddo; mewn gwirionedd, wrth gyflwyno Deddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999, ysgrifennodd Blair yn The Times:

'Byddai'r newidiadau rydym yn eu cynnig yn golygu mai cyfraith Prydain yw'r mwyaf cyfyngol ar undebau llafur yn y byd gorllewinol.'

Nawr, rwy’n cyfaddef bod gennyf fwy o ffydd yn Llywodraeth Cymru i amddiffyn hawliau gweithwyr nag sydd gennyf yn Blair, Brown a Starmer, ond oherwydd y diffyg ffydd hwn, ac oherwydd y ffaith nad yw gwerthoedd Cymreig, mewn perthynas â chysylltiadau diwydiannol, bob amser yn cyd-fynd â rhai San Steffan, dylem fod yn hynod awyddus i ddod â'r pwerau hyn i'r lle hwn. Nawr, roedd gwelliant y Llywodraeth yn wirioneddol siomedig, yn yr ystyr ei fod wedi dileu ein galwad, ond rwy'n gobeithio, yn ystod y ddadl hon, y bydd y Dirprwy Weinidog yn newid ei meddwl.