– Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2023.
Yr eitem nesaf felly yw dadl Plaid Cymru ar gysylltiadau diwydiannol. Dwi'n galw ar Luke Fletcher i wneud y cynnig yma. Luke Fletcher.
Cynnig NDM8210 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn mynegi undod â gweithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru sy'n gweithredu'n ddiwydiannol mewn ymateb i flynyddoedd o doriadau tymor real i'w cyflog.
2. Yn credu bod gallu gweithwyr i fynd ar streic i wella eu cyflog ac amodau yn hawl ddemocrataidd sylfaenol.
3. Yn credu bod Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar bobl sy'n gweithio a'r undebau llafur y maent yn trefnu o fewn iddynt.
4. Yn gresynu at y ffaith y byddai'r Bil yn rhoi pŵer gorfodol sylweddol i Lywodraeth y DU gwtogi ar allu undebau llafur a gweithwyr i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol cyfreithlon.
5. Yn gresynu at y ffaith bod y Bil hefyd yn gwrthdaro ag amcanion y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, yn enwedig ymrwymiad gwneud Cymru'n genedl gwaith teg.
6. Yn cefnogi pob undeb llafur ac holl weithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i agor trafodaethau ynghylch datganoli cyfraith cyflogaeth er mwyn sicrhau hawliau cyfunol a phwerau bargeinio gweithwyr yng Nghymru.
Diolch, Lywydd. Gadewch inni fod yn glir, o’r cychwyn cyntaf, nad yw Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y DU yn ddim mwy nag ymosodiad ar bobl ddosbarth gweithiol, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Ymgais lem, ffasgaidd i erydu hawliau sylfaenol gweithwyr a’r undebau llafur sy’n eu cynrychioli, a gŵyr pob un ohonom pam fod hyn yn digwydd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gweithwyr ym mhob sector wedi gwrthod gwleidyddiaeth cyni, wedi gwrthod cyflogau nad ydynt yn codi a thoriadau mewn termau real i gyflogau, wedi gwrthod ymosodiadau ar amodau gwaith ac wedi gwrthod y syniad fod pethau cystal ag y gallant fod. A chan fod cymaint o ofn hynny arnynt, mae'r rhai sydd ar y brig, gyda chymorth eu partneriaid parod yn y blaid Dorïaidd, bellach yn ceisio ein rhoi yn ôl yn ein lle. Wel, pob lwc, gan fod undod y dosbarth gweithiol yn ei ôl, ac mae gennym lawer o waith dal i fyny i'w wneud. Yn wyneb brwydr gyffredin, mae gweithwyr ledled y wlad yn gwrthod cael eu rhannu yn ôl eu cefndiroedd, eu swyddi, eu hedrychiad, ac mae'n rhaid i ni, fel Senedd, chwarae ein rhan i gryfhau'r frwydr honno ac i rymuso gweithwyr yn erbyn gormes y Torïaid. Nid oes unrhyw weithiwr, unrhyw unigolyn yn haeddu gorfod defnyddio banc bwyd, yn haeddu gorfod meddwl am bob punt a cheiniog i benderfynu a allant fforddio gwresogi eu cartrefi tra bo cwmnïau'n gwneud elw ar raddfa anferthol.
Ond cyn inni drafod goblygiadau’r Bil a sut y dylem ymateb iddo yma yng Nghymru, mae’n werth atgoffa ein hunain o’r amgylchiadau sydd wedi arwain at hyn. Mae hyn yn dilyn un argyfwng ar ôl y llall: chwalfa ariannol 2008, yna'r cyni a'i dilynodd, yna'r pandemig, a nawr yr argyfwng costau byw. Rydym yng nghanol storm berffaith o brisiau ynni cynyddol, chwyddiant uchel a thon newydd o gyni Torïaidd sy’n pwyo ein cyllid cyhoeddus.
Yn y cyfamser, mae gweithlu’r sector cyhoeddus wedi gorfod ymdopi â dros ddegawd o gyflogau cyfyngedig, gyda chyflogau cyfartalog y sector cyhoeddus yng Nghymru 4 y cant yn is mewn termau real o gymharu â 2010. Mewn rhai proffesiynau, megis nyrsio ac addysgu, mae’r darlun hyd yn oed yn fwy enbyd—mae cyflogau nyrsys wedi gostwng o leiaf 20 y cant mewn termau real ers 2010; mae cyflogau athrawon wedi gostwng 23 y cant ers 2010, ochr yn ochr â thoriad syfrdanol o 27 y cant i staff cymorth.
Nawr, gan droi at y Bil a’i oblygiadau, mae’r Bil yn rhoi’r pŵer i Weinidogion y DU a chyflogwyr orfodi gweithwyr mewn chwe sector i weithio yn ystod streic. Drwy’r system hysbysiadau gwaith newydd, gall cyflogwyr ddiswyddo gweithwyr sy’n gwrthod cydymffurfio â’r gorchymyn i weithio yn ystod streic, gan osgoi'r hawliau statudol yn erbyn diswyddo annheg sydd wedi’u hymgorffori yn Neddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992. Mae hefyd yn ei gwneud yn orfodol i undebau orfodi’r hysbysiadau gwaith hyn i dorri streiciau, gan eu gwneud yn agored i hyd at £1 filiwn o golledion os na allant orfodi cydymffurfiaeth ymhlith eu haelodau. Mae hyn yn codi’r posibilrwydd gwirioneddol y gallai undebau llafur gael eu herlyn hyd at fethdaliad, rhywbeth nad yw wedi digwydd ers 1906.
Mae erthygl 8 o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol 1966, a lofnodwyd gan y DU, yn cadarnhau hawl pawb i ffurfio undebau llafur ac i ymuno ag undeb llafur o’u dewis. Mae hefyd yn cadarnhau hawl undebau llafur i weithredu'n rhydd. Fel y mae nifer o gynrychiolwyr undebau ac arbenigwyr cyfraith cyflogaeth wedi nodi, mae’r Bil gwrth-streiciau yn mynd yn gwbl groes i’r hawliau sylfaenol hyn. I ddyfynnu datganiad diweddar gan Gydffederasiwn Undebau Llafur Ewrop, byddai'n gwthio’r DU
'hyd yn oed ymhellach y tu hwnt i'r brif ffrwd ddemocrataidd' ar hawliau llafur.
Wrth gwrs, nid yw’r Bil hwn ond y diweddaraf mewn cyfres hir o ddeddfau gan y Torïaid i danseilio hawliau gweithwyr. Roedd Deddf Cysylltiadau Diwydiannol 1971, a gyflwynwyd gan weinyddiaeth Heath, er enghraifft, yn gwanhau amddiffyniadau gweithwyr ac yn codi rhwystrau newydd yn erbyn cydfargeinio. Fe'i dilynwyd gan gyfres o Ddeddfau Cyflogaeth o dan Lywodraeth hynod wrth-undebol Thatcher, a oedd, ymhlith pethau eraill, yn cyfyngu ar allu undebau i bicedu ac yn gwahardd streiciau undod. Yn fwy diweddar, gosododd Deddf Undebau Llafur 2016 drothwyon uwch ar gyfer trefnu streiciau a gweithredu'n ddiwydiannol, tra bo diddymu’r Rheoliadau Ymddygiad Asiantaethau Cyflogaeth a Busnesau Cyflogaeth y llynedd wedi galluogi cyflogwyr i gyflogi gweithwyr asiantaeth dros dro er mwyn tanseilio streiciau.
Mae effaith hyn oll yn golygu mai'r DU sydd â’r cyfreithiau gwrth-undebol mwyaf gormesol yn Ewrop—pwynt a danlinellir gan y ffaith, er bod 60 y cant o weithwyr yn yr UE yn elwa o gytundebau cydfargeinio, mai dim ond 26 y cant o weithwyr y DU sy'n elwa o gytundebau o'r fath. Mae ffeithiau o’r fath yn amlygu pa mor wag yw rhethreg y Torïaid ar farwniaid undebau gor-rymus a’u hymgais i bortreadu'r Bil hwn fel mesur a fydd yn sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â normau Ewropeaidd.
Ond wrth gwrs, mae ein cynnig heddiw'n mynd ymhellach na dangos undod yn unig. Mae ein cynnig yn galw ar y Senedd a’r Llywodraeth hon i gefnogi ac i ymgyrchu dros ddatganoli cyfraith cyflogaeth. Y ffaith syml amdani yw na allwn ddibynnu ar San Steffan i amddiffyn hawliau gweithwyr. Rydych yn disgwyl hynny pan fo'r Llywodraeth yn las, ond yn anffodus, gallech ddweud yr un peth os yw'r Llywodraeth yn goch. Rhwng 1997 a 2010, a wnaeth Blair neu Brown ddiddymu deddfau gwrth-undebol Thatcher? Naddo; mewn gwirionedd, wrth gyflwyno Deddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999, ysgrifennodd Blair yn The Times:
'Byddai'r newidiadau rydym yn eu cynnig yn golygu mai cyfraith Prydain yw'r mwyaf cyfyngol ar undebau llafur yn y byd gorllewinol.'
Nawr, rwy’n cyfaddef bod gennyf fwy o ffydd yn Llywodraeth Cymru i amddiffyn hawliau gweithwyr nag sydd gennyf yn Blair, Brown a Starmer, ond oherwydd y diffyg ffydd hwn, ac oherwydd y ffaith nad yw gwerthoedd Cymreig, mewn perthynas â chysylltiadau diwydiannol, bob amser yn cyd-fynd â rhai San Steffan, dylem fod yn hynod awyddus i ddod â'r pwerau hyn i'r lle hwn. Nawr, roedd gwelliant y Llywodraeth yn wirioneddol siomedig, yn yr ystyr ei fod wedi dileu ein galwad, ond rwy'n gobeithio, yn ystod y ddadl hon, y bydd y Dirprwy Weinidog yn newid ei meddwl.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac, os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Joel James i gynnig gwelliant 1. Joel James.
Diolch, Lywydd, a chynigiaf y gwelliant hwn yn enw Darren Millar. Mae’n amlwg ei bod yn ymddangos bod y cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru wedi cam-gyfleu polisi Llywodraeth y DU ar lefelau gwasanaeth gofynnol yn llwyr drwy honni ei fod yn ymgais gan Lywodraeth y DU i ennill digon o rym gorfodol i gwtogi ar allu undebau llafur a gweithwyr i weithredu'n ddiwydiannol mewn modd cyfreithlon, pan fo'n amlwg nad yw hynny'n wir o gwbl ac nad dyna yw diben y ddeddfwriaeth. Ond eto, Lywydd, mae gan aelodau Plaid Cymru eu sianeli cyfryngau cymdeithasol i feddwl amdanynt.
Mae’r Ceidwadwyr yn credu’n llwyr y dylai fod gan bawb hawl i streicio, ond gyda'r GIG a'r gwasanaeth tân ac achub, nid yw’n iawn na all y rheini y mae taer angen gofal brys arnynt gael ambiwlans neu wasanaeth achub oherwydd streic. Mae’r mesurau a gynigir yn y Bil lefelau gwasanaeth gofynnol wedi’u cynllunio i ddiogelu bywydau ac i sicrhau bod pobl sy’n wynebu bygythiad uniongyrchol i'w bywydau yn cael mynediad cyflym at ofal a thriniaeth. Ac ni allaf ddeall sut y gallai unrhyw un beidio â dymuno i ofal o'r fath gael ei roi. Ar hyn o bryd, mae'r lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer diogelu bywydau yn cael eu negodi'n unigol gan wahanol wasanaethau ledled y wlad, sy'n arwain at anghysondeb sylweddol. Yng Nghymru, mae’n debygol y bydd yna lefelau gwasanaeth gofynnol gwahanol i Loegr a’r Alban, a bydd deddfu ar lefel ofynnol genedlaethol y cytunwyd arni ymlaen llaw ar draws y Deyrnas Unedig gyfan yn helpu i wella cysondeb.
Rheswm arall, fel y gŵyr llawer yn y Siambr hon yn iawn, yw nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol ar wasanaethau sy'n streicio'n ei gwneud yn ofynnol i bobl ddweud a ydynt yn bwriadu streicio ai peidio, sy’n creu sefyllfaoedd lle nad oes gan bobl sy’n trefnu rotâu unrhyw wybodaeth ynghylch pwy fydd ar gael i weithio, gan ei gwneud yn anodd iawn cynllunio hyd yn oed lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer sifftiau, ac mae'n hanfodol fod y sectorau iechyd, tân ac achub, trafnidiaeth ac addysg yn gallu cynllunio.
Yn fy marn i, nid oes unrhyw beth o'i le ar gyflwyno deddfwriaeth sy'n darparu lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streiciau fel bod y rhai mwyaf agored i niwed—y rhai sydd mewn perygl lle mae bywyd yn y fantol—yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt. Mae’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, y mae’r TUC yn ei gefnogi, yn argymell lefelau gwasanaeth gofynnol priodol mewn gwasanaethau hanfodol a gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol, ac mae deddfwriaeth debyg ar lefelau gwasanaeth gofynnol eisoes yn gyffredin mewn sawl gwlad Ewropeaidd, megis Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal.
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi cyhoeddi ei hasesiad effaith o’r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) ac wedi llunio darlun ffafriol at ei gilydd o’r ddeddfwriaeth hon—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
—gan ddod i’r casgliad y byddai’n rhoi hwb i hyder y cyhoedd ynghylch mynediad at wasanaethau hanfodol yn ystod streiciau.
Ewch amdani.
Rydych yn dweud eich bod am inni ddilyn modelau Ffrainc a’r Eidal, ac mae’r fframwaith deddfwriaethol ynghylch cyfreithiau cyflogaeth yn wahanol yno. Nid yn unig fod ganddynt gyfreithiau gwahanol ynghylch streiciau, ond mae ganddynt well cynrychiolaeth i weithwyr ar eu byrddau. Felly, os ydych am inni gael yr un rheolau ynghylch cyflogaeth ag sydd ganddynt yn Ffrainc, pam nad oes gennym yr un rheolau i gael gweithwyr ar fyrddau’r cwmnïau hynny hefyd yma yng Nghymru?
Wel, rwy'n siŵr fod hwnnw'n gwestiwn y gallwch ei ofyn i'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
—darlun ffafriol, ar y cyfan, o’r ddeddfwriaeth hon, gan ddod i’r casgliad y byddai’n rhoi hwb i hyder y cyhoedd ynghylch mynediad at wasanaethau hanfodol yn ystod streiciau, a dywedodd y byddai buddion economaidd yn deillio o lai o darfu ar weithgarwch busnes o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y bydd angen rhoi mwy o ystyriaeth i rai agweddau ar y gofynion gweithredu gofynnol: er enghraifft, yn y Rhyl, lle, er y gellir lleihau trenau i un yr awr yn lle tri, ceir rhai gwasanaethau megis bocsys signal sy'n ddeuaidd, ac yn y maes hedfan, mae'r gwasanaeth rheoli traffig awyr naill ai ar agor neu ar gau. Ond bydd hyn, rwy’n siŵr, yn cael sylw yn yr is-ddeddfwriaeth a fydd yn cyd-fynd â’r Bil.
Nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod y Bil hwn yn ymwneud â thegwch a chydbwysedd—dim mwy, dim llai. Os bydd undeb llafur yn hysbysu cyflogwr am streic yn unol â’r rheolau arferol presennol, mae’r Bil hwn yn golygu y bydd yn ofynnol i gyflogwyr ymgynghori â’r undeb llafur ynghylch y nifer gofynnol o weithwyr sydd eu hangen ac y caiff y gwaith hwnnw ei wneud, ac mae'n rhaid ystyried safbwyntiau'r undeb cyn rhoi unrhyw hysbysiadau gwaith. Felly, nid yw'r syniad fod y Bil hwn yn
'ymosodiad uniongyrchol ar bobl sy'n gweithio a'r undebau llafur' yn ddim byd mwy na brygowthan gwleidyddol gan Blaid Cymru. A hoffwn annog pawb yma yn y Siambr i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn, ac i gefnogi ein gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar, yn lle hynny. Diolch, Lywydd.
Galw ar y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2.
Gwelliant 2—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau'r undebau llafur drwy bleidleisiau ar streicio a chynnal gweithredu diwydiannol.
2. Yn credu bod Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymosodiad ar undebau llafur a hawl sylfaenol gweithwyr i streicio.
3. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu llwyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y ddeddfwriaeth hon cyn ei chyflwyno ac yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru fel y nodir yn ei Datganiad Ysgrifenedig a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
4. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru, a’r holl undebau llafur a gweithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil.
Yn ffurfiol.
Diolch. Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Fel y clywsom gan fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, mae deddfwriaeth wrth-streiciau Llywodraeth y DU yn ergyd drom yn erbyn gweithwyr sy’n ceisio cyflog teg am eu gwasanaethau. Yr hyn sydd hefyd yn amlwg yw bod gan y mesur hwn oblygiadau sy'n peri pryder i agenda ddeddfwriaethol y Senedd hon. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi dod yn gyfarwydd iawn â thuedd Llywodraeth San Steffan i ganoli, yn ogystal â’u dirmyg amlwg tuag at ddatganoli. Ymddengys bod Brexit wedi hybu math o unoliaetholdeb cyhyrog sy’n aml yn sathru ar feysydd cymhwysedd datganoledig. Mae cyflwyno mesurau fel Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a Bil cyfraith yr UE a ddargedwir yn enghraifft o hyn. Fel y soniodd y Prif Weinidog yn gynharach yn y flwyddyn, mae achosion o dorri confensiwn Sewel, nad oedd byth yn digwydd ar un adeg yng nghyd-destun cysylltiadau â Llywodraethau datganoledig y DU, wedi dod yn gyffredin dros y blynyddoedd diwethaf. Yn y cyfamser, mae'r defnydd o bwerau adran 83 i rwystro Bil diwygio cydnabod rhywedd Llywodraeth yr Alban yn tanlinellu mai ffug yw'r syniad o'r undeb fel partneriaeth gydradd.
Nawr, ymddengys y bydd deddfwriaeth gwrth-streiciau yn gwrthdaro â maes gwaith y mae’r Senedd wedi bod yn gweithio arno, sef Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), ac yn benodol, ei nod o wneud Cymru’n wlad o waith teg. Fel y gŵyr yr Aelodau, sefydlwyd y Comisiwn Gwaith Teg fel rhagflaenydd i ddatblygiad y Bil. Un o’i brif argymhellion oedd yr angen i ymgorffori arferion gwaith teg yn y fframwaith deddfwriaethol. Diffiniwyd arferion gwaith teg gan y comisiwn fel sefyllfa lle mae
'gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynrychioli’n deg, bod ganddynt sicrwydd a'u bod yn gallu dod yn eu blaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau’n cael eu parchu.'
Ar y sail y bydd y Bil yn cynnwys dyletswydd partneriaeth gymdeithasol statudol ar gyrff cyhoeddus i geisio consensws neu gyfaddawd ag undebau llafur, a oruchwylir gan y cyngor partneriaeth gymdeithasol, a fydd yn cynnwys cynrychiolaeth o'r undebau llafur, mae'n anodd rhagweld sut y gall y nodau gwaith teg hyn fod yn gydnaws mewn unrhyw ffordd â deddfwriaeth y Bil gwrth-streiciau, sydd wedi'i chynllunio i geisio gelyniaeth a gorfodaeth dros gonsensws a chyfaddawd. Fel rwyf eisoes wedi'i grybwyll, mae goruchafiaeth San Steffan a'r modd y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn diystyru datganoli yn golygu bod yr agenda gwaith teg yma yng Nghymru mewn perygl difrifol.
Er ein bod yn cydnabod y ffaith bod materion cyfraith cyflogaeth yng Nghymru wedi'u cadw'n ôl bron yn gyfan gwbl gan San Steffan, mae rhai camau y gellid eu cymryd i ddiogelu'r agenda gwaith teg yn y dyfodol rhag byrbwylltra San Steffan. Er enghraifft, yn ddiweddar, sefydlodd Llywodraeth yr Alban gronfa gwaith teg a moderneiddio undebau llafur, a ddefnyddir i ymgorffori arferion gwaith teg mewn cysylltiadau diwydiannol. Gyda gweithrediad y Bil partneriaeth gymdeithasol, dylai’r dull hwn o weithredu gael ei efelychu yng Nghymru i sicrhau bod yr uchelgais o roi llais cryfach i undebau llafur wrth ddatblygu polisïau economaidd a diwydiannol yn cael ei gydgrynhoi ar sail ymarferol, hirdymor. Byddai hyn hefyd yn cyfrannu at y gwaith o adfywio presenoldeb undebau yn ein sector preifat ac ymhlith gweithwyr ifanc. Ceir anghysondeb amlwg ar hyn o bryd rhwng aelodaeth o undebau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru—ychydig dros 60 y cant yn y sector cyhoeddus, ac ychydig o dan 20 y cant yn y sector preifat. Yn ychwanegol at hynny, dim ond ychydig dros 30 y cant o weithwyr yng Nghymru rhwng 25 a 34 oed sy’n aelodau o undebau, o gymharu â 45.4 y cant o weithwyr 50 oed a hŷn. Yn amlwg, mae angen mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn os yw amcanion yr agenda gwaith teg i fod o fudd i Gymru gyfan.
Yn olaf, dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno cynllun achredu, lle byddai safon gwaith teg Cymru sydd ar gael i'r cyhoedd ei gweld yn cymell cyflogwyr i gymryd rhan a chynnal amcanion yr agenda gwaith teg. Diolch yn fawr.
Daw unrhyw urddas sy’n gynhenid yn ein cymdeithas o’r dyheadau sydd gennym nid dros ein hunain ond dros eraill. Dyna ogoniant a mantais y mudiad undebau llafur: y ffaith ei fod yn cael ei gynnal nid gan farusrwydd unigolion ond gan ymdrech gyfunol, y penderfynoldeb y gellir sicrhau hawliau i bawb. Mae pob un ohonom wedi elwa o hawliau gweithwyr a enillwyd drwy frwydrau caled y cenedlaethau a fu: absenoldeb salwch â thâl, gwyliau, penwythnosau. Mae ein bywydau'n llawer cyfoethocach a hapusach oherwydd y brwydrau hynny. Ein dyletswydd i weithwyr heddiw ac yfory yng Nghymru yw gwrthod ymgais San Steffan i erydu’r hawliau hynny a brwydro dros y pwerau i’w hymgorffori yng nghyfraith Cymru.
Rwyf mor falch fy mod wedi cael fy ngeni yng Nghymoedd Cymru, ond mae’n dirwedd sy’n dal i wisgo creithiau gweithlu a gafodd ei ecsbloetio—y glowyr a gâi eu talu mewn llwch ac afiechyd a dirmyg. Ond nid trychinebau yn unig sy'n diffinio ein gorffennol—roedd yno frawdgarwch hefyd. Dyddiau Mabon, cefnogwr diflino'r glowyr, a sicrhaodd wyliau—dydd Llun cyntaf pob mis, a elwir yn Ddyddiau Mabon. Ac fe wnaeth yr un ysfa honno i sicrhau lles cyffredin roi bywyd newydd i'n trefi a'n pentrefi, lleoedd a oedd wedi'u hamddifadu o unrhyw fuddsoddiad, o unrhyw ofal.
Mae neuaddau'r glowyr sy'n dal i sefyll yn y Coed Duon a Bedwas yn cynrychioli atgofion y cymunedau hynny am adeg pan ddôi cyfarfodydd a chyngherddau â chynhesrwydd digwyddiadau cymdeithasol i deuluoedd. Roedd gerddi a pharciau lles y glowyr yn cael eu meithrin a'u tyfu. Rhoddodd ein corau a'n heisteddfodau gyfle i'r gweithwyr esgyn uwchben y bryniau duon drwy ganu. Cyflawnwyd cymaint yn ein Cymoedd drwy weithredu ar y cyd, nid yn unig mewn termau diwydiannol, ond yng ngwead ein cymdeithas. Dywedodd Nye Bevan ei fod ar ei hapusaf pan oedd yn gadeirydd pwyllgor dethol llyfrau llyfrgell y glowyr yn Nhredegar—llyfrgell a oedd, yn y 1930au, yn cylchredeg oddeutu 100,000 o lyfrau y flwyddyn. Ond mae'r llyfrgelloedd wedi cau, Lywydd. Mae cymaint o'r neuaddau hynny wedi mynd yn adfeilion. Mae gormod o gorau nad ydynt yn cyfarfod bellach am nad oes lleoedd ar gael i gyfarfod ac i ganu.
Ond gallwn ni yng Nghymru atgyfodi'r ethos cyfunol a fu gennym unwaith. Gallwn adeiladu ar yr hanes balch hwnnw a sicrhau na fydd rhagor o weithwyr yng Nghymru yn cael eu dibrisio, yn cael eu hecsbloetio, ac na fydd eu balchder yn cael ei ddwyn oddi arnynt, a hynny drwy ddatganoli cyfraith cyflogaeth a sicrhau hawliau cyfunol i bawb. Oherwydd mae hawliau gweithwyr yn y DU, fel y clywsom, eisoes gymaint yn is na'r norm Ewropeaidd. Yn yr Eidal, mae 97 y cant o weithwyr yn elwa o gydfargeinio. Yn Ffrainc, 90 y cant. Yn y DU, dim ond 26 y cant, 27 y cant o weithwyr sy'n elwa o'r fraint hon. Hyd yn oed yn Rwsia, mae'r ffigur yn uwch. Mae hawliau undebau ar yr ynysoedd hyn wedi cael eu herydu’n fwriadol ers Thatcher ac ers, mae’n ddrwg gennyf ddweud, i Lafur Newydd fethu adfer yr hawliau hynny yn ystod eu 13 mlynedd mewn grym.
Mae arnom angen yr hawliau hyn yng Nghymru i unioni camweddau ein gorffennol. Oherwydd yng Nghymru, dylai ein gorffennol fod yn ganllaw i ni. Mae’n deimlad cyfarwydd i’r mudiad undebau llafur. Rydych yn meddwl am y geiriau a ganwyd am Joe Hill, arwr gweithwyr mwyngloddio Nevada, a gafodd ei fframio drwy ei gyhuddo o fod yn llofrudd—mae adleisiau o Dic Penderyn a Merthyr Tudful yno, yn sicr. Ond dywed y gân:
'Pan fo gweithwyr yn streicio / mae Joe Hill wrth eu hymyl'.
Lywydd, pan fydd menywod a dynion ar streic, nid dros eu hawliau eu hunain, eu cyflogau eu hunain yn unig y maent yn streicio; maent yn streicio dros hawliau gweithwyr sydd eto i ymuno â'r gweithlu, maent yn streicio i gynnal hawliau pobl a chenedlaethau'r dyfodol. Ac mae’r gweithwyr hefyd yn sefyll mewn undod, Lywydd, â’r cenedlaethau a fu, oherwydd pan fo dynion a menywod sy’n gweithio allan yn streicio yng Nghymru, mae Dic Penderyn wrth eu hymyl, mae William Abraham wrth eu hymyl, neu'r corau o leisiau o'n gorffennol cyfoethog—maent yn benthyg eu lleisiau i'w cân. Ar linellau piced, yn union fel Joe Hill, maent yn sefyll mor fyw â chi a fi yn eu cof balch. Gadewch inni wneud hyn yn iawn er mwyn Cymru.
Dwi'n gwneud fy nghyfraniad heddiw hefyd efo fy rôl efo'r grŵp trawsbleidiol PCS. Diolch yn fawr iawn, Delyth, yn arbennig efo'r araith yna. Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni gyd gofio ein bod ni i gyd wedi elwa o'r hyn sydd wedi dod drwy'r rhai sydd wedi brwydro o'n blaenau ni—pob un ohonom ni wedi elwa o hynny o gymharu efo'n cyndeidiau ni. A dyna sydd dan fygythiad yn y fan yma. Yn sicr, Joel James, ddim er mwyn cael unrhyw likes ar social media mae'r ddadl yma wedi dod ger bron, ond oherwydd ein bod ni yn mynd i'r llinellau piced, ein bod ni yn siarad efo gweithwyr, ein bod ni yn gwrando arnyn nhw ac yma i wneud dadleuon oherwydd bod ganddyn nhw'r hawl i streicio ar y funud, a nifer yn gwneud am y tro cyntaf erioed yn eu bywydau. Mae pobl fel yr RCN yn dewis gwneud am y tro cyntaf erioed yn hanes bodolaeth eu mudiad nhw oherwydd eu bod nhw wedi cael llond bol; wedi cael llond bol o beidio cael cyflog teg, o beidio cael eu trin—. Ac mae hynny oherwydd mesurau sydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond hefyd o ran Llywodraeth Cymru rŵan. Mae ganddyn nhw'r grym i wneud pethau'n wahanol, ac mae'n rhaid i ni ystyried beth mae'r Ddeddf yma a'r newidiadau yn Llywodraeth San Steffan yn eu golygu o ran gweithwyr yma yng Nghymru, a beth allwn ni ei wneud yn wahanol os oes gennym ni'r grymoedd yma.
Rydym eisoes wedi clywed am y gydberthynas rhwng lefelau uchel o aelodaeth undebol a chanlyniadau cadarnhaol ar ffurf cyflogau a chynhyrchiant uchel, a chaiff hyn ei ategu gan enghreifftiau rhyngwladol niferus—mae Mabon a Delyth eisoes wedi achub y blaen arnaf ar hyn. Ond ystyriwch Sweden, lle mae 88 y cant o weithwyr yn elwa o hawliau cydfargeinio, ac mae ganddi incwm cenedlaethol net wedi'i addasu fesul y pen o $44,552, o'i gymharu â $36,000 yn y DU. Mae hefyd yn seithfed allan o'r 146 gwlad ym mynegai hapusrwydd y byd, ac yn sgorio'n uchel ar fetrigau cydraddoldeb byd-eang. Yr allwedd i fodel llwyddiannus Sweden o gysylltiadau llafur yw gweithredu cydfargeinio ar lefel sector neu ddiwydiant. Mae hyn yn sicrhau cyfraddau uchel o weithwyr yn elwa o gydfargeinio, yn enwedig ar draws y sector preifat, sy'n gwrthgyferbynnu'n uniongyrchol â lefel cwmni neu lefel cyflogwr lle mae cytundebau'r DU fel arfer yn digwydd, sy'n arwain yn ddieithriad at gyfraddau isel o weithwyr yn elwa o gydfargeinio ac anghysondeb mawr rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Mae modelau tebyg ar waith yn y gwledydd Nordig eraill, yng Ngwlad yr Iâ, Denmarc, y Ffindir a Norwy, ac mae ganddynt oll y lefelau uchaf o aelodaeth undebol yn y byd ac maent ymhlith y gwledydd cyfoethocaf, mwyaf cyfartal a hapusaf yn y byd. Mae 98 y cant o weithwyr Ffrainc yn elwa o gydgytundebau, ac yn mwynhau incwm gwario 10 y cant yn uwch na'r gweithiwr cyfartalog yn y DU, ac wythnos waith fyrrach. O'r herwydd, mae cydfargeinio sectoraidd yn fodel y mae gwledydd eraill yn ceisio ei efelychu, a chyda rheswm da. Er enghraifft, pasiodd Seland Newydd ei Deddf Cytundebau Cyflog Teg 2022 yn ddiweddar, sy'n hwyluso cydfargeinio ar gyfer cytundebau cyflog teg ar draws diwydiannau neu alwedigaethau cyfan. Hyn ar adeg pan fo Llywodraeth y DU am lethu undebau llafur.
Gallwn ni ddim gwadu'r hyn mae Llywodraeth Prydain yn ceisio ei gyflawni efo hyn. Mae'n cymunedau ni wedi dioddef digon. Rydyn ni wedi clywed yn glir gan Delyth, gan Luke, gan Peredur ac eraill. Rydyn ni'n gwybod hynny o fod yn siarad â gweithwyr ar lawr gwlad. Rydyn ni'n gwybod bod pobl ddim yn hapus yn ein cymunedau ni. Maen nhw'n gweithio'n galed, ond eto yn methu fforddio prynu bwyd na chynhesu eu tai, yn gweithio'n galetach nag erioed, oriau hirach nag erioed, yn colli allan ar gyfleoedd i fod gyda'u teuluoedd, yn blant ifanc ac ati, ac yn gorfod gweithio pob awr o'r dydd ac eto'n methu fforddio bwyd ac ynni. Dyna'r sefyllfa ym Mhrydain heddiw ac yng Nghymru.
Mae'n rhaid i bethau newid; mae'n rhaid i ni gael y grymoedd yma yng Nghymru i newid pethau er mwyn gweithwyr Cymru. Mae yna fwy y gall Lywodraeth Cymru ei wneud, yn sicr, ac mae yna fwy y dylai Llywodraeth Prydain fod yn ei wneud. Mae hyn ynglŷn â hawliau pob un ohonom ni—pob un ohonom ni—ac, fel dywedodd Delyth, cenedlaethau'r dyfodol. Gwnaethom ni elwa'n fawr o frwydrau a fuodd yn y gorffennol. Mae'n rhaid i ni frwydro i gael yr hawliau yna wedi parhau.
Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol nawr i gyfrannu. Hannah Blythyn.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, a diolch i'r rhan fwyaf o'r Aelodau am eu cyfraniadau. Mae'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) yn ymosodiad ar weithwyr, hawliau gweithwyr ac undebau llafur. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r Bil yn bendant iawn, fel y nodir yng ngwelliant y Llywodraeth. Yn benodol, mae gwelliant y Llywodraeth yn tynnu sylw at y datganiad ysgrifenedig sy'n cynnwys llythyr Prif Weinidog Cymru at Lywodraeth y DU a'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a fydd yn cael ei osod ger bron y Senedd. Mae'r rhain yn ddatganiadau clir sydd ar gael yn gyhoeddus i nodi ein safbwynt a'n pryderon sylweddol ynglŷn â'r Bil hwn.
Rydym o'r farn bendant nad yr ymateb cywir i aflonyddwch diwydiannol yw cyflwyno deddfau newydd sydd nid yn unig yn sathru ar y setliad datganoli, ond yn ei gwneud hi'n anos byth i weithwyr weithredu'n ddiwydiannol. Credwn mai'r ymateb cywir yw gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr ac undebau llafur i ddatrys anghydfodau ar y cyd. Felly, ni ddylai fod yn syndod nad ydym yn cefnogi gwelliant 1 yn enw Darren Millar. Y ffordd i ddatrys anghydfodau diwydiannol yw drwy drafod a chytuno, waeth pa mor heriol y gallai hynny fod ar adegau i bawb sy'n gysylltiedig; nid drwy ddeddfwriaeth annoeth a fydd yn gwneud dim i helpu i ddatrys anghydfodau presennol, a fydd yn gwneud niwed parhaol i gysylltiadau diwydiannol ledled y DU, ac a fydd yn ymyrryd â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Yr eironi yw bod yr un ddeddfwriaeth hon yn dod gan Lywodraeth Geidwadol sydd dro ar ôl tro wedi methu cynhyrchu'r Bil cyflogaeth a addawodd i ymestyn hawliau gweithwyr ac sydd bellach ar fin gwneud y gwrthwyneb yn llwyr. Mae'n ymddangos na ellir dod o hyd i amser seneddol i wella hawliau gweithwyr, ond nid oes unrhyw broblem gyda dod o hyd i amser seneddol i ddiddymu'r hawliau hynny.
Os caf droi at y pwynt a wnaeth Luke Fletcher ar ddatganoli cyfraith cyflogaeth yng Nghymru: fe fyddwch yn ymwybodol fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan TUC Cymru a chomisiwn ar hynny, ac rydym yn aros am y canfyddiadau hynny. A byddwn yn gweithio gyda TUC Cymru ar y canfyddiadau, a bydd unrhyw beth y byddem yn ei wneud yng Nghymru yn digwydd drwy weithio mewn partneriaeth, i edrych nid yn unig ar y cyfleoedd, ond yr heriau posibl a allai ddod yn y dyfodol.
Wrth ymateb i'r cynnig heddiw, rwyf am ailadrodd pam ein bod yn gwrthwynebu Bil Llywodraeth y DU. Yn gyntaf, rydym yn gwrthwynebu'r Bil ar egwyddor. Mae'n ymosodiad diangen a digyfiawnhad ar hawliau gweithwyr ac undebau llafur, ac mae'n gwbl groes i'n hagwedd at undebau llafur yng Nghymru, a'n huchelgeisiau ar gyfer Cymru a gwaith teg, fel y clywsoch. Yn ail, cafwyd diffyg ymgysylltiad llwyr â'r Llywodraethau datganoledig cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi eu bwriad drwy hysbysiad ar frys i'r wasg ar 5 Ionawr. Er bod dogfennau ymgynghori bellach yn cael eu cyhoeddi ar wasanaethau ambiwlans, y gwasanaethau rheilffyrdd a thân ac achub, mae hyn i gyd yn digwydd ar ôl i'r Bil gael ei gyflwyno a thra'i fod yn mynd drwy'r broses graffu seneddol.
Yn drydydd, rydym yn gwrthwynebu'r Bil oherwydd bod nifer o wasanaethau cyhoeddus datganoledig o fewn cwmpas y Bil ac mae'r Bil yn cynnwys pwerau Harri VIII, sy'n rhoi pwerau ysgubol i Ysgrifennydd Gwladol. Yn syml iawn, mae cefnogi'r Bil hwn yn golygu rhoi siec wag i'r Ysgrifennydd Gwladol. Pan fo hyd yn oed cefnogwyr y Bil, fel Jacob Rees-Mogg, yn ei feirniadu fel Bil 'wedi'i ysgrifennu'n wael' sy'n methu
'nodi'n glir beth mae'n ceisio ei gyflawni', fe wyddom nad yw'r Bil mewn lle da o gwbl. Yn bedwerydd, rydym yn amlwg yn rhannu llawer o'r pryderon a leisiwyd gan undebau llafur ac eraill am effeithiolrwydd ac effaith y Bil hwn. Cafodd ein gallu ni, a gallu Senedd y DU yn wir, i graffu'n iawn ar y materion hynny eu llesteirio'n ddifrifol gan absenoldeb asesiad effaith. Cafodd yr asesiad effaith ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf; asesiad effaith a ddisgrifiwyd gan y Pwyllgor Polisi Rheoleiddio ar unwaith fel un 'nad yw'n addas i'r diben'.
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rwy'n falch o glywed eich bod chi'n dweud eich bod yn gwrthwynebu'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan ar hyn o bryd, a geiriau cryf iawn yn cael eu dweud, ond a ydych chi'n rhannu fy siom nad yw eich cyd-Aelodau Llafur yma heddiw? A allwch chi ddweud wrthym ble maent? Oherwydd os ydym o ddifrif yn teimlo mor ddig am hyn a'n bod eisiau i'n lleisiau gael eu clywed, mae angen eich cyd-Aelodau yma i rannu eu lleisiau hefyd, fel bod llais y Senedd hon i'w glywed gyda'i gilydd a bod San Steffan yn clywed yr hyn sydd gennym i'w ddweud. A allwch chi ddweud wrthym ble mae eich cyd-Aelodau, os gwelwch yn dda?
Gallaf yn sicr siarad ar ran fy nghyd-Aelodau yn y grŵp Llafur a dweud ein bod yn gyfan gwbl, yn llwyr ac yn unol yn ein gwrthwynebiad iddo a byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid ar draws y mudiad Llafur yng Nghymru, a'r DU, i wrthwynebu ymosodiadau o'r fath ar hawliau gweithwyr.
Ac rydym yn gwrthwynebu'r Bil hwn oherwydd nad yw'r rhesymeg y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio ei chyflwyno dros y Bil fel un sy'n sicrhau bod y DU gyfuwch â llawer o wledydd eraill yn Ewrop yn dal dŵr fel y clywsom oddi ar feinciau Plaid Cymru. Mae'r cymariaethau rhyngwladol yn gor-wneud y tebygrwydd rhwng y Bil hwn a gweithrediad lefelau gwasanaeth gofynnol mewn mannau eraill. Fel y clywsoch, mae lefelau gwasanaeth gofynnol fel arfer yn gynnyrch cytundeb rhwng cyflogwyr ac undebau llafur, gan ddefnyddio cyflafareddu annibynnol weithiau os metha popeth arall. Yn groes i hynny, mae'r Bil hwn yn agor y drws ar y posibilrwydd o osod lefelau gwasanaeth gofynnol drwy orchymyn wedi'i gynnal gan y bygythiad y bydd gweithwyr yn cael eu diswyddo os nad ydynt yn cydymffurfio. Ac nid ni'n unig sy'n dweud bod y cymariaethau rhyngwladol gyda gwledydd fel Ffrainc, yr Eidal a Sbaen yn ffug. Clywsom fod Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus Ewrop, sy'n gwarchod 8 miliwn o weithwyr gwasanaethau cyhoeddus ar draws Ewrop, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, mewn llythyr sydd ar gael yn gyhoeddus, i ddweud:
'Mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin, fe wnaethoch honni na ddylai Llywodraeth sy'n gwrthwynebu gwasanaethau gofynnol yn unochrog fod yn ddadleuol ac fe gyfeirioch chi at y fframwaith cyfreithiol mewn gwledydd eraill. Nid yw'r datganiad hwn yn gywir ac rydych yn tynnu'r ddeddfwriaeth mewn gwledydd eraill allan o'i chyd-destun.'
Mae'r llythyr yn egluro pam fod hynny'n wir ac yn rhagddo i ddweud:
'mae eich llywodraeth yn rhuthro i basio cyfraith newydd a fydd yn gosod lefelau gwasanaeth gofynnol mewn sectorau allweddol, gan gynnwys y posibilrwydd y bydd streicwyr yn cael eu diswyddo os ydynt yn methu cydymffurfio â hysbysiadau i weithio. Bydd hyn yn cael ei herio o dan gyfraith Ewropeaidd a chyfraith ryngwladol y mae'r DU yn barti iddynt.'
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ceisio taflu llwch i'n llygaid fod y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) yn cefnogi'r Bil. Mae cyfarwyddwr cyffredinol yr ILO ei hun wedi cadarnhau nad oedd yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau rhwng yr ILO a Llywodraeth y DU am y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, fe gadarnhaodd fod yr ILO wedi bod mewn trafodaethau gydag undebau llafur ynglŷn â gwneud cwyn am y Bil. Mae dweud bod yr ILO yn cefnogi'r Bil hwn yn anghywir ar y gorau.
Dro ar ôl tro, mae honiadau Llywodraeth y DU am y Bil hwn a chefnogaeth ryngwladol a chymariaethau rhyngwladol wedi chwalu wrth ddod i gysylltiad â'r ffeithiau. Nid ydym am gael y Bil hwn yng Nghymru, ac nid oes ei angen arnom. Rwy'n falch fod mwyafrif yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Mae'n ddiangen, yn ddigyfiawnhad, ac yn anymarferol yn ôl pob tebyg. Rydym wedi ymrwymo i wrthwynebu'r ddeddfwriaeth ddinistriol hon a yrrir gan ideoleg, ac i weithio mewn partneriaeth i wneud hynny.
Wrth gloi, Lywydd, rwyf am ddweud na fu erioed adeg bwysicach i ymuno ag undeb llafur. Nid yn unig mae undebau llafur yn dda i weithwyr—maent yn dda i weithleoedd, ac maent yn dda i Gymru. Diolch.
Luke Fletcher nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Wrth imi gloi'r ddadl hon, rwy'n atgoffa fy hun o'r hyn a ddywedais yn fy agoriad i'r ddadl ynglŷn â bod â ffydd yn y Llywodraeth i fod yn well na Llywodraethau Llafur a Cheidwadol y DU. Rhaid dweud, serch hynny, digon siomedig yw peidio â chael yr un cyfraniad gan yr Aelodau ar feinciau cefn Llafur. Roedd cynnig o undod ar ran y grŵp Llafur, ond fe ddylent fod yma i ddangos yr undod hwnnw eu hunain yn y Siambr, mewn dadl ar ymosodiad y mae aelodau'r blaid honno wedi ei wrthwynebu a'i gondemnio'n groch.
Mae'r ddadl hon wedi dangos heddiw drwy Aelodau Plaid Cymru, a'r Dirprwy Weinidog hefyd a bod yn deg, yr achos a'r angen i amddiffyn hawliau gweithwyr. Nododd Heledd gymaint sydd arnom i'r mudiad undebau llafur a phethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol: absenoldeb mamolaeth, isafswm cyflog, y penwythnos, yr holl bethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol y dyddiau hyn. Pe bai'r Torïaid wedi ymrwymo'n wirioneddol i ddarparu economi twf uchel a chyflog uchel, fel y maent yn ei addo'n barhaus, byddent yn cefnogi'r achos hwn yn hytrach na pharhau â chrwsâd ideolegol, sydd fwyfwy allan o gysylltiad, o elyniaeth ac athreuliad yn erbyn gweithwyr.
Mae'n ddrwg gennyf, Joel, eich bod wedi cael y gwelltyn byr yn y ddadl hon. Hynny yw, wyddoch chi, rydych chi'n dweud wrthyf eich bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol heb ddweud eich bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol mewn gwirionedd. Hoffwn annog Joel o ddifrif i fynd i siarad â'r Coleg Nyrsio Brenhinol, er enghraifft, ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd ar ddiwrnod streic, ac rwy'n credu y gwelwch yn gyflym iawn fod yr hyn a nododd ef yn ei gyfraniad yn ffeithiol anghywir. A bod yn deg, nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl ar yr ochr honno i'r Siambr, os o gwbl, wedi bod o fewn milltir i linell biced, ond pe baech yn gwneud hynny un waith, rwy'n meddwl y gwelech chi fod llawer o'r pethau rydych chi'n credu eu bod yn digwydd yn anwiredd.
Er bod Bil partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru a'i hagenda gwaith teg yn sylfaen ddefnyddiol, rydym hefyd yn cydnabod cyfyngiadau cymwyseddau datganoledig dros gyfraith cyflogaeth yng Nghymru, sydd wedi'i chadw'n ôl bron yn llwyr i San Steffan. Ond am yr union reswm hwn rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu ei hymdrechion i geisio rhagor o bwerau datganoledig dros gyfraith cyflogaeth yma yng Nghymru. Fel sy'n amlwg drwy gymaint o agweddau ar bwerau'r setliad datganoli presennol er hynny, mae gan Lywodraeth Cymru ddigon o le i lunio polisïau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys strategaeth ddiwydiannol ac economaidd, ond nid oes ganddi'r gallu a'r mecanweithiau i orfodi ac atgyfnerthu ei pholisi'n effeithiol. Mae hyn yn arbennig o broblemus pan fo priod flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a San Steffan yn cael eu polareiddio fwyfwy, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac fel y nododd Peredur.
Pan fydd undebau llafur yn gryf, rydym i gyd ar ein hennill. I mi, dylai ein heconomi ddeillio o'r math o gymdeithas rydym am ei chreu. I mi, mae hynny hefyd yn adlewyrchu'r hanes y cyfeiriodd Delyth ato—cymdeithas sy'n un dosturiol, undod, un lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Rwyf am fenthyg o'r ffilm Pride am eiliad. Maent yng Nghastell Carreg Cennen ac mae Dai'n dweud wrth Mark am faner y gyfrinfa, y symbol o ddwy law ar y faner honno. Dyna mae'r mudiad undebau llafur yn ei olygu: rwy'n dy gefnogi di, rwyt ti'n fy nghefnogi i, ysgwydd wrth ysgwydd, law yn llaw, undod. Mae hynny'n hollol groes i'r hyn sydd gan raniadau a thlodi San Steffan i'w gynnig. Bydd mwy o ofynion yn cael eu gwneud, bydd mwy o bleidleisiau'n cael eu cynnal, a bydd mwy o weithwyr ar hyd a lled Cymru'n ymuno. Bydd Plaid Cymru yno ochr yn ochr â hwy, mewn undod gyda phob gweithiwr sy'n brwydro am gyflogau ac amodau gwaith gwell, nid yn unig yng Nghymru, ond ym mhob rhan o'r byd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly gwnawn ni ohirio’r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.