Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, a diolch i'r rhan fwyaf o'r Aelodau am eu cyfraniadau. Mae'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) yn ymosodiad ar weithwyr, hawliau gweithwyr ac undebau llafur. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r Bil yn bendant iawn, fel y nodir yng ngwelliant y Llywodraeth. Yn benodol, mae gwelliant y Llywodraeth yn tynnu sylw at y datganiad ysgrifenedig sy'n cynnwys llythyr Prif Weinidog Cymru at Lywodraeth y DU a'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a fydd yn cael ei osod ger bron y Senedd. Mae'r rhain yn ddatganiadau clir sydd ar gael yn gyhoeddus i nodi ein safbwynt a'n pryderon sylweddol ynglŷn â'r Bil hwn.
Rydym o'r farn bendant nad yr ymateb cywir i aflonyddwch diwydiannol yw cyflwyno deddfau newydd sydd nid yn unig yn sathru ar y setliad datganoli, ond yn ei gwneud hi'n anos byth i weithwyr weithredu'n ddiwydiannol. Credwn mai'r ymateb cywir yw gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr ac undebau llafur i ddatrys anghydfodau ar y cyd. Felly, ni ddylai fod yn syndod nad ydym yn cefnogi gwelliant 1 yn enw Darren Millar. Y ffordd i ddatrys anghydfodau diwydiannol yw drwy drafod a chytuno, waeth pa mor heriol y gallai hynny fod ar adegau i bawb sy'n gysylltiedig; nid drwy ddeddfwriaeth annoeth a fydd yn gwneud dim i helpu i ddatrys anghydfodau presennol, a fydd yn gwneud niwed parhaol i gysylltiadau diwydiannol ledled y DU, ac a fydd yn ymyrryd â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Yr eironi yw bod yr un ddeddfwriaeth hon yn dod gan Lywodraeth Geidwadol sydd dro ar ôl tro wedi methu cynhyrchu'r Bil cyflogaeth a addawodd i ymestyn hawliau gweithwyr ac sydd bellach ar fin gwneud y gwrthwyneb yn llwyr. Mae'n ymddangos na ellir dod o hyd i amser seneddol i wella hawliau gweithwyr, ond nid oes unrhyw broblem gyda dod o hyd i amser seneddol i ddiddymu'r hawliau hynny.
Os caf droi at y pwynt a wnaeth Luke Fletcher ar ddatganoli cyfraith cyflogaeth yng Nghymru: fe fyddwch yn ymwybodol fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan TUC Cymru a chomisiwn ar hynny, ac rydym yn aros am y canfyddiadau hynny. A byddwn yn gweithio gyda TUC Cymru ar y canfyddiadau, a bydd unrhyw beth y byddem yn ei wneud yng Nghymru yn digwydd drwy weithio mewn partneriaeth, i edrych nid yn unig ar y cyfleoedd, ond yr heriau posibl a allai ddod yn y dyfodol.
Wrth ymateb i'r cynnig heddiw, rwyf am ailadrodd pam ein bod yn gwrthwynebu Bil Llywodraeth y DU. Yn gyntaf, rydym yn gwrthwynebu'r Bil ar egwyddor. Mae'n ymosodiad diangen a digyfiawnhad ar hawliau gweithwyr ac undebau llafur, ac mae'n gwbl groes i'n hagwedd at undebau llafur yng Nghymru, a'n huchelgeisiau ar gyfer Cymru a gwaith teg, fel y clywsoch. Yn ail, cafwyd diffyg ymgysylltiad llwyr â'r Llywodraethau datganoledig cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi eu bwriad drwy hysbysiad ar frys i'r wasg ar 5 Ionawr. Er bod dogfennau ymgynghori bellach yn cael eu cyhoeddi ar wasanaethau ambiwlans, y gwasanaethau rheilffyrdd a thân ac achub, mae hyn i gyd yn digwydd ar ôl i'r Bil gael ei gyflwyno a thra'i fod yn mynd drwy'r broses graffu seneddol.
Yn drydydd, rydym yn gwrthwynebu'r Bil oherwydd bod nifer o wasanaethau cyhoeddus datganoledig o fewn cwmpas y Bil ac mae'r Bil yn cynnwys pwerau Harri VIII, sy'n rhoi pwerau ysgubol i Ysgrifennydd Gwladol. Yn syml iawn, mae cefnogi'r Bil hwn yn golygu rhoi siec wag i'r Ysgrifennydd Gwladol. Pan fo hyd yn oed cefnogwyr y Bil, fel Jacob Rees-Mogg, yn ei feirniadu fel Bil 'wedi'i ysgrifennu'n wael' sy'n methu
'nodi'n glir beth mae'n ceisio ei gyflawni', fe wyddom nad yw'r Bil mewn lle da o gwbl. Yn bedwerydd, rydym yn amlwg yn rhannu llawer o'r pryderon a leisiwyd gan undebau llafur ac eraill am effeithiolrwydd ac effaith y Bil hwn. Cafodd ein gallu ni, a gallu Senedd y DU yn wir, i graffu'n iawn ar y materion hynny eu llesteirio'n ddifrifol gan absenoldeb asesiad effaith. Cafodd yr asesiad effaith ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf; asesiad effaith a ddisgrifiwyd gan y Pwyllgor Polisi Rheoleiddio ar unwaith fel un 'nad yw'n addas i'r diben'.