6. Dadl Plaid Cymru: Cysylltiadau diwydiannol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:52, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rydych yn dweud eich bod am inni ddilyn modelau Ffrainc a’r Eidal, ac mae’r fframwaith deddfwriaethol ynghylch cyfreithiau cyflogaeth yn wahanol yno. Nid yn unig fod ganddynt gyfreithiau gwahanol ynghylch streiciau, ond mae ganddynt well cynrychiolaeth i weithwyr ar eu byrddau. Felly, os ydych am inni gael yr un rheolau ynghylch cyflogaeth ag sydd ganddynt yn Ffrainc, pam nad oes gennym yr un rheolau i gael gweithwyr ar fyrddau’r cwmnïau hynny hefyd yma yng Nghymru?