Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch, Lywydd. Wrth imi gloi'r ddadl hon, rwy'n atgoffa fy hun o'r hyn a ddywedais yn fy agoriad i'r ddadl ynglŷn â bod â ffydd yn y Llywodraeth i fod yn well na Llywodraethau Llafur a Cheidwadol y DU. Rhaid dweud, serch hynny, digon siomedig yw peidio â chael yr un cyfraniad gan yr Aelodau ar feinciau cefn Llafur. Roedd cynnig o undod ar ran y grŵp Llafur, ond fe ddylent fod yma i ddangos yr undod hwnnw eu hunain yn y Siambr, mewn dadl ar ymosodiad y mae aelodau'r blaid honno wedi ei wrthwynebu a'i gondemnio'n groch.
Mae'r ddadl hon wedi dangos heddiw drwy Aelodau Plaid Cymru, a'r Dirprwy Weinidog hefyd a bod yn deg, yr achos a'r angen i amddiffyn hawliau gweithwyr. Nododd Heledd gymaint sydd arnom i'r mudiad undebau llafur a phethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol: absenoldeb mamolaeth, isafswm cyflog, y penwythnos, yr holl bethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol y dyddiau hyn. Pe bai'r Torïaid wedi ymrwymo'n wirioneddol i ddarparu economi twf uchel a chyflog uchel, fel y maent yn ei addo'n barhaus, byddent yn cefnogi'r achos hwn yn hytrach na pharhau â chrwsâd ideolegol, sydd fwyfwy allan o gysylltiad, o elyniaeth ac athreuliad yn erbyn gweithwyr.
Mae'n ddrwg gennyf, Joel, eich bod wedi cael y gwelltyn byr yn y ddadl hon. Hynny yw, wyddoch chi, rydych chi'n dweud wrthyf eich bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol heb ddweud eich bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol mewn gwirionedd. Hoffwn annog Joel o ddifrif i fynd i siarad â'r Coleg Nyrsio Brenhinol, er enghraifft, ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd ar ddiwrnod streic, ac rwy'n credu y gwelwch yn gyflym iawn fod yr hyn a nododd ef yn ei gyfraniad yn ffeithiol anghywir. A bod yn deg, nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl ar yr ochr honno i'r Siambr, os o gwbl, wedi bod o fewn milltir i linell biced, ond pe baech yn gwneud hynny un waith, rwy'n meddwl y gwelech chi fod llawer o'r pethau rydych chi'n credu eu bod yn digwydd yn anwiredd.
Er bod Bil partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru a'i hagenda gwaith teg yn sylfaen ddefnyddiol, rydym hefyd yn cydnabod cyfyngiadau cymwyseddau datganoledig dros gyfraith cyflogaeth yng Nghymru, sydd wedi'i chadw'n ôl bron yn llwyr i San Steffan. Ond am yr union reswm hwn rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu ei hymdrechion i geisio rhagor o bwerau datganoledig dros gyfraith cyflogaeth yma yng Nghymru. Fel sy'n amlwg drwy gymaint o agweddau ar bwerau'r setliad datganoli presennol er hynny, mae gan Lywodraeth Cymru ddigon o le i lunio polisïau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys strategaeth ddiwydiannol ac economaidd, ond nid oes ganddi'r gallu a'r mecanweithiau i orfodi ac atgyfnerthu ei pholisi'n effeithiol. Mae hyn yn arbennig o broblemus pan fo priod flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a San Steffan yn cael eu polareiddio fwyfwy, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac fel y nododd Peredur.
Pan fydd undebau llafur yn gryf, rydym i gyd ar ein hennill. I mi, dylai ein heconomi ddeillio o'r math o gymdeithas rydym am ei chreu. I mi, mae hynny hefyd yn adlewyrchu'r hanes y cyfeiriodd Delyth ato—cymdeithas sy'n un dosturiol, undod, un lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Rwyf am fenthyg o'r ffilm Pride am eiliad. Maent yng Nghastell Carreg Cennen ac mae Dai'n dweud wrth Mark am faner y gyfrinfa, y symbol o ddwy law ar y faner honno. Dyna mae'r mudiad undebau llafur yn ei olygu: rwy'n dy gefnogi di, rwyt ti'n fy nghefnogi i, ysgwydd wrth ysgwydd, law yn llaw, undod. Mae hynny'n hollol groes i'r hyn sydd gan raniadau a thlodi San Steffan i'w gynnig. Bydd mwy o ofynion yn cael eu gwneud, bydd mwy o bleidleisiau'n cael eu cynnal, a bydd mwy o weithwyr ar hyd a lled Cymru'n ymuno. Bydd Plaid Cymru yno ochr yn ochr â hwy, mewn undod gyda phob gweithiwr sy'n brwydro am gyflogau ac amodau gwaith gwell, nid yn unig yng Nghymru, ond ym mhob rhan o'r byd.