Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 1 Mawrth 2023.
Hoffwn i ddiolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r cynnig hwn gerbron; fe wnaf eu llongyfarch nhw ar eu cyfraniadau yn y Gymraeg. Mi oeddech chi'n sôn am y ffaith, ac yn ymfalchïo yn y ffaith, fod S4C wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Geidwadol. Wrth gwrs, byddwn ni'n hoffi eich atgoffa chi am safiad Gwynfor Evans, wrth gwrs, cyn arweinydd Plaid Cymru, a wnaeth arwain mewn gwirionedd at y tro pedol wnaeth arwain at sefydlu S4C. A hefyd hoffwn dalu teyrnged i'r cannoedd o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac eraill wnaeth frwydro mor hir—am ddegawdau—dros gael sianel Gymraeg, sydd wedi profi mor hanfodol at ddiogelu'r Gymraeg.
Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos dirywiad yn y ganran o siaradwyr Cymraeg ym mron pob ardal, gan gynnwys ar gyfer pob oed ac ymhlith plant tair i 15 oed ym mhob sir yn fy rhanbarth i. Ac mae'r frwydr rŷn ni wedi clywed amdani heddiw dros sicrhau mynediad at addysg Gymraeg wedi bod yn un hir a rhwystredig yn yr ardal rwy nawr yn ei chynrychioli, fel yn nifer o lefydd yng Nghymru. Ac mae'n frwydr dwi wedi byw yn bersonol, nid yn unig dros fy mhlant yn ardal Abertawe i geisio agor Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw, ond hefyd fel plentyn yn tyfu lan yng Ngwent, lle roedd y cyngor Llafur ar y pryd, yn y 1970au a'r 1980au, yn gwrthod agor ysgolion Cymraeg ac ond yn fodlon agor unedau a oedd yn sownd wrth ysgolion Saesneg. A fi a fy chwaer wedyn, achos doedd yna ddim ysgol gyfun—yn debyg i'r hyn y mae James Evans yn sôn amdano fe yn ei ardal e—yn gorfod teithio dros siroedd am oriau lawer ar fysus i gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
A rŷn ni'n gwybod hefyd bod nifer uchel o'r rhai sydd wedi derbyn addysg Gymraeg yn colli eu sgiliau a'u hyder wedyn i siarad Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol yn 16 neu'n 18 oed. Fyddwn i ddim yn rhugl—Saesneg roedden ni'n ei siarad adref—achos dwi'n un o'r straeon nodweddiadol yna lle roedd y mam-gus a'r tad-cus yn siarad Cymraeg a mam a dad heb gael addysg Gymraeg, yn blant y 1930au a'r 1940au, ond yn benderfynol wedyn o ymgyrchu dros addysg Gymraeg fel doedd fy nghenhedlaeth i ddim yn colli trysor yr iaith.
Mae rhaid inni ddatblygu cyfleoedd hyfforddi ac astudio Cymraeg a dwyieithog yn ein colegau addysg bellach, yn y prifysgolion ac yn y gweithle, yn ogystal ag yn ein hysgolion oedran statudol. A hoffwn i dalu teyrnged i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at y nod o sicrhau nad yw hyn yn digwydd, a bod pobl yn parhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn ystod y cyfnod ar ôl gadael yr ysgol. Mae parhad y gwaith hwn yn gwbl allweddol os ydym am ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg a chreu gweithleoedd ble mae pobl yn hyderus i ddefnyddio eu Cymraeg—creu gweithleoedd, creu cymunedau. Ac fe fues i'n ddiweddar yng Ngholeg Castell-nedd, lle mae gwaith ardderchog yn digwydd i geisio cyflawni hynny.
Mae cwm Tawe, lle dwi'n byw nawr, yn ardal o sensitifrwydd ieithyddol arbennig—y ffin yma roedd Mike Hedges yn sôn amdani hi. Mae sicrhau nid yn unig mynediad i addysg Gymraeg, ond hefyd y cyfleon yma i ddefnyddio'r iaith, wrth gwrs yn greiddiol i barhad yr iaith yn y cwm ac ardaloedd fel hi, sef yr hyn sy'n cael ei gydnabod yng nghymal olaf y cynnig.
Mae'n gydnabyddedig ei fod yn hollbwysig fod angen amrywiaeth o ffyrdd i hybu'r iaith er mwyn galluogi a chynyddu defnydd gan siaradwyr hen a newydd. Mae'n amlwg o'r cyfrifiad bod angen gwella ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ond rhaid hefyd warchod yn erbyn taflu'r llo a chadw'r brych wrth ddatblygu polisïau cryfach a mwy effeithiol. Mae angen sicrwydd y bydd y mentrau sydd wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, er enghraifft, ac wedi profi'n llwyddiannus wrth hybu defnydd o'r Gymraeg yn parhau i gael eu cefnogi. Yn achos cwm Tawe, mae'r papur bro, papur bro y Llais—a dwi'n datgan budd; dwi'n un o bwyllgor y papur bro—y fenter iaith, a'r Urdd yn gwneud gwaith arbennig. Rwyf wedi sôn yn flaenorol am waith Tŷ'r Gwrhyd, canolfan Gymraeg ym Mhontardawe a sefydlwyd â chefnogaeth grant Llywodraeth Cymru. Mae'n enghraifft dda o'r hyn sy'n bosib i sicrhau cefnogaeth anffurfiol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i blant ac oedolion, i ddysgwyr, a sicrhau defnydd cymunedol o'r iaith. Felly, hoffwn i wybod heddiw gan y Gweinidog beth yw gweledigaeth y Llywodraeth o ran adeiladu ar fuddsoddiadau llwyddiannus fel hyn, sydd â thrac record lwyddiannus o gryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol. Mae Tŷ Tawe hefyd, yn Abertawe, yn enghraifft o sefydliad sy'n llwyddo yn hyn o beth. A fydd y Llywodraeth yn cynnig mwy o gefnogaeth i ganolfannau fel Tŷ Tawe er mwyn eu galluogi i barhau â'u gwaith gwych, ond hefyd i fedru datblygu ymhellach?
Yn ogystal, o ran hybu a gwarchod yr iaith, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod pob adran yn y Llywodraeth yn siarad gyda'i gilydd. Rŷn ni wedi cael enghraifft o hyn yn fy ardal i, lle dyw adran y Gymraeg a'r adran addysg, er eu bod nhw'n dod o dan yr un Gweinidog, efallai ddim yn siarad gyda'i gilydd, lle mae yna arian yn cael ei glustnodi, cyllid yn cael ei addo, i gyngor i gynllun a fyddai wedi cael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg.
Felly, hoffwn i jest ddiolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron. Mae wedi bod mor braf i glywed ein holl straeon ni ynglŷn â'n perthynas ni gyda'r iaith.