Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 1 Mawrth 2023.
Rwyf am ddweud, Gadeirydd, mai dyna'r peth mwyaf brawychus i mi ei ddweud yn y Siambr hon erioed, ac fel dysgwr Cymraeg, mae'n anodd iawn weithiau i bobl wneud hyn. Fel y dywedodd Mike Hedges, weithiau, rydym yn teimlo y bydd pobl yn gwneud hwyl am ein pennau, nad ydym yn dweud pethau'n gywir. Yn bersonol, rwy'n teimlo tipyn o falchder am wneud hynny yn fy Senedd genedlaethol fy hun, a siarad yn fy iaith genedlaethol fy hun, ac rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn.
Nid wyf am grynhoi, ond mae'n debyg iawn i'r hyn a ddywedodd Heledd, mewn gwirionedd, am rywun a ddysgodd Gymraeg yn yr ysgol. Dyna wnes i; cefais B mewn TGAU Cymraeg, ac rwy'n dal i deimlo'n ddig iawn am y ffaith nad wyf yn gallu defnyddio a sgwrsio yn fy iaith naturiol, frodorol yng Nghymru, oherwydd nid wyf yn ddigon hyderus i wneud hynny. Rwy'n credu bod llawer o bobl ifanc fel fi, sydd yr un oedran â mi, tua 31, wedi cael y profiad hwnnw, ac nid wyf yn credu ein bod ni, yn yr ardal rwy'n hanu ohoni, ardaloedd yng nghanolbarth Cymru, wedi cael cyfle iawn i siarad yr iaith. Ychydig iawn o gymunedau a geir yn fy ardal i—Ystradgynlais yn y de, Pontsenni ac ambell i le yn y gogledd—sy'n siarad Cymraeg mewn gwirionedd, ac rwy'n teimlo trueni drostynt weithiau pan fyddaf yn mynd i gyfarfod ag etholwyr yno, am nad wyf yn gallu siarad â hwy yn yr iaith y maent yn eisiau ei siarad. Dyna pam rwy'n gefnogol iawn i'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i geisio cael mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws pob rhan o Gymru, oherwydd rwyf eisiau gweld addysg cyfrwng Cymraeg mewn llefydd fel Brycheiniog a sir Faesyfed. Oherwydd os ydych chi am dyfu'r iaith Gymraeg ledled Cymru, mae angen i chi wneud yn siŵr ei bod hi'n cyrraedd llefydd lle mae'r iaith wedi cael ei hanghofio a'i gwthio allan, ac mae yna lefydd yn fy ardal i, o gwmpas ardal y Gelli Gandryll, yn sir Faesyfed yn enwedig, lle nad oes gennym unrhyw addysg cyfrwng Cymraeg. Os oes gennym addysg o'r fath, mae'n cael ei rhoi yn y brif ffrwd gydag addysg Saesneg ac mae disgyblion yn tueddu i wneud eu dewisiadau, ac maent yn tueddu i fod eisiau mynd i'r ffrwd Saesneg a gadael y ffrwd Gymraeg. Ac nid yw hynny'n ddigon da. Felly, rwyf eisiau gweld mwy o addysg Gymraeg yn cael ei darparu ledled Cymru, ond yn enwedig yn y llefydd lle mae'r iaith wedi mynd yn angof.
Ac nid wyf am siarad yn hir iawn heddiw, ond rwyf eisiau dweud wrth bob dysgwr Cymraeg: fe siaradais yn ein Senedd genedlaethol gyda'r holl nerfau a'r disgwyliadau o ran yr hyn y dylech ei ddweud a sut i'w ddweud yn gywir ac rwyf wedi ei wneud, felly rwy'n annog pob dysgwr Cymraeg ledled Cymru i siarad Cymraeg—siarad yn Gymraeg—mwynhewch yr iaith. Ac os byddwn i gyd yn siarad Cymraeg, rwy'n siŵr y bydd yr iaith yn tyfu ac y cawn fwy o siaradwyr Cymraeg ar draws ein gwlad wych. Diolch, Gadeirydd.