7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 4:42, 1 Mawrth 2023

Fel ysgrifennodd y bardd Eifion Wyn:

'Cymru fach i mi— / Bro y llus a'r llynnoedd / Corlan y mynyddoedd / Hawdd ei charu hi.'

Mae'n wych cymryd rhan yn y ddadl hon a thynnu sylw at bwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Fel Aelod Senedd Cymru dros Frycheiniog a Maesyfed, mae gennyf lawer o gymunedau ble mai Cymraeg yw’r iaith gyntaf a dwi'n deall pa mor bwysig yw'r iaith i nhw.