Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 1 Mawrth 2023.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, sef dadl Plaid Cymru ar gysylltiadau diwydiannol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. O blaid pedwar, neb yn ymatal—na, mae'n ddrwg gyda fi. O blaid 10, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.