8. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 5:07 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:07, 1 Mawrth 2023

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud yn syth i bleidlais. Dwi'n gweld tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch. Felly, bydd y gloch yn cael ei chanu a'r pleidleisio'n digwydd mewn pum munud. 

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:13, 1 Mawrth 2023

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6, sef dadl Plaid Cymru ar gysylltiadau diwydiannol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. O blaid pedwar, neb yn ymatal—na, mae'n ddrwg gyda fi. O blaid 10, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Cysylltiadau diwydiannol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 4290 Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Cysylltiadau diwydiannol. Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 10 ASau

Na: 35 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 15 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:14, 1 Mawrth 2023

Gwelliant 1 sydd nesaf. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os yw gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais felly ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 12, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 4291 Eitem 6. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar

Ie: 12 ASau

Na: 33 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 15 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:14, 1 Mawrth 2023

Gwelliant 2 sydd nesaf. Gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 21 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 4292 Eitem 6. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths

Ie: 24 ASau

Na: 21 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 15 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:15, 1 Mawrth 2023

Pleidlais nawr ar y cynnig wedi ei ddiwygio. 

Cynnig NDM8210 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau'r undebau llafur drwy bleidleisiau ar streicio a chynnal gweithredu diwydiannol.

2. Yn credu bod Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymosodiad ar undebau llafur a hawl sylfaenol gweithwyr i streicio.

3. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu llwyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y ddeddfwriaeth hon cyn ei chyflwyno ac yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru fel y nodir yn ei Datganiad Ysgrifenedig a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

4. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru, a’r holl undebau llafur a gweithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:15, 1 Mawrth 2023

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Cysylltiadau diwydiannol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 32, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 4293 Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Cysylltiadau diwydiannol. Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 32 ASau

Na: 13 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 15 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:15, 1 Mawrth 2023

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7 ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gymraeg. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 23 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Gymraeg. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 22, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 4294 Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Gymraeg. Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 22 ASau

Na: 23 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 15 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:16, 1 Mawrth 2023

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, naw yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei basio.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 24, Yn erbyn: 12, Ymatal: 9

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 4295 Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths

Ie: 24 ASau

Na: 12 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 15 ASau

Wedi ymatal: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:17, 1 Mawrth 2023

Pleidlais nawr ar y cynnig wedi ei ddiwygio. 

Cynnig NDM8212 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Cymraeg 2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026.

2. Yn mynegi pryder am y ffaith bod Cyfrifiad 2021 wedi datgelu y bu gostyniad o dros 20,000 yn nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

3. Yn credu bod y Gymraeg yn ased diwylliannol sy'n dod â llawer o fanteision i Gymru.

4. Yn cydnabod yr amrywiaeth mewn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych i mewn i gyfleoedd i ehangu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o ddydd i ddydd.

6. Yn cydnabod bod ffynonellau data eraill yn dangos bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg a bod niferoedd cynyddol o blant yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg.

7. Yn croesawu:

(a) bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd i gynyddu mynediad at gyfleoedd dysgu Cymraeg ar draws ysgolion o bob categori iaith;

(b) gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i gryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol; ac

(c) gwaith ein sefydliadau partner megis Mudiad Meithrin, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Mentrau Iaith, ac eraill, i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:17, 1 Mawrth 2023

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Gymraeg. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 4296 Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Gymraeg. Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 45 ASau

Absennol: 15 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:17, 1 Mawrth 2023

Dyna ddiwedd ar y pleidleisio am y prynhawn yma.