9. Dadl Fer: Dydd Gŵyl Dewi — Hunaniaeth Gymreig yng Nghasnewydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:20, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddefnyddio’r ddadl heddiw i archwilio hunaniaeth Gymreig yn y ddinas ychydig ymhellach, i egluro'r sefyllfa ar hyn o bryd yn fy marn i, ond hefyd, sut y credaf y gall dyfu, yn enwedig ymhlith ein cenhedlaeth iau, ond hefyd yng nghyd-destun uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Nôl ym mis Tachwedd ac ychydig cyn cwpan y byd, roeddwn yn Rodney Parade ar gyfer gêm Casnewydd yn erbyn Gillingham. Cyn y gic gyntaf, perfformiodd yr ymgyrchydd a’r canwr Cymraeg blaenllaw, Dafydd Iwan, ei gân ‘Yma o Hyd’, ac yn union fel y gwelsom gyda’r Wal Goch yn nifer o gemau Cymru yng nghwpan y byd, gwelsom cefnogwyr y tîm cartref yn canu mewn harmoni. Cyn y ddadl hon, fe wnaethom ofyn i Dafydd sut deimlad oedd canu yng Nghasnewydd, a dywedodd yhyn wrthym:

'Gwnaeth cynhesrwydd, ac yn wir, natur Gymreig gref y croeso a gefais yn Rodney Parade ac yng nghanol y ddinas argraff fawr arnaf. Roedd yn achlysur llawen, a chefais fy synnu gan y nifer yn y gynulleidfa a siaradodd gyda mi yn Gymraeg. Nid oes unrhyw amheuaeth fod Casnewydd yn herio Caerdydd o ran ei Chymreictod.'

Dywedodd hefyd ei fod wedi mwynhau'r profiad yn fawr a'i fod yn gobeithio dychwelyd yn y dyfodol. Ddirprwy Weinidog, rwy’n sôn am hyn oherwydd ychydig flynyddoedd yn ôl, byddai’r syniad o gerddor Cymraeg yn perfformio mewn harmoni gyda'r cefnogwyr yn Rodney Parade wedi swnio'n obeithiol iawn, a dweud y lleiaf.

Os caf aros gyda phêl-droed am eiliad, hoffwn dalu teyrnged hefyd i un o hoelion wyth tîm Cymru Chris Gunter, a aned yn Nwyrain Casnewydd ac a fynychodd Ysgol St Julian. Roedd yn rhan o’r genhedlaeth aur ddiweddar o bêl-droedwyr Cymru, a than yn ddiweddar, ef oedd y pêl-droediwr â'r nifer fwyaf erioed o gapiau i Gymru, gyda 109 o gapiau rhyngwladol. Dim ond rhywun o'r enw Gareth Bale sydd â mwy erbyn hyn, gyda 111. Felly, dylem fod yn falch iawn o gyflawniadau Chris.

Wrth edrych ar hunaniaeth Gymreig yng Nghasnewydd, mae'r refferenda datganoli yn addysgiadol. I mi, maent yn arwydd o’r cynnydd a’r daith rydym wedi bod arni dros y blynyddoedd ac yn dangos y twf mewn Cymreictod ar draws y ddinas. Oddeutu 26 mlynedd yn ôl bellach, bûm yn cadeirio Newport Says Yes fel rhan o’r ymgyrch i Gymru gael ei chynulliad cenedlaethol ei hun, fel y’i gelwid bryd hynny. Ac er i’r ymgyrch ‘Ie dros Gymru’ lwyddo ledled y wlad, yng Nghasnewydd, pleidleisiodd mwyafrif clir dros ‘na’. Ond roedd y canlyniad hwnnw'n gynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i ddatganoli o gymharu â’r refferendwm blaenorol ym 1979. Yn ardal gyfagos sir Fynwy, sy’n cynnwys rhan o fy etholaeth i, Dwyrain Casnewydd, gwelsom ganlyniadau tebyg. Bedair blynedd ar ddeg ar ôl y bleidlais a sicrhaodd ddatganoli, cawsom ail refferendwm ynglŷn ag a ddylid rhoi pwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad ar y pryd, a phleidleisiodd 54 y cant o bleidleiswyr yng Nghasnewydd o blaid hynny, gan barhau â’r duedd o fwy o gefnogaeth i roi mwy o gyfrifoldeb a phwerau i Gymru i wasanaethu ein cymunedau.

Wrth inni weld y cynnydd yn y gefnogaeth i ddatganoli yng Nghasnewydd a Chymru, rydym hefyd wedi gweld twf mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Cyn 1999, nid oedd unrhyw ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae gennym bump ohonynt yn yr awdurdod lleol bellach, y ddwy gyntaf yn agor yn 2008-09, ac yna un arall yn 2011-12, a dwy arall yn y chwe blynedd diwethaf. A hefyd, yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg, mae llawer mwy o hanes a diwylliant Cymru yn cael eu haddysgu, a bydd hynny, rwy’n siŵr, yn cael ei gryfhau gan y cwricwlwm newydd. Pan oeddwn yn yr ysgol yn y 1960au ac ar ddechrau’r 1970au yng Nghasnewydd, ychydig iawn a gâi ei ddysgu i mi am yr iaith Gymraeg, a diwylliant a hanes Cymru. Mae’n rhaid ein bod wedi dysgu’r anthem genedlaethol, ond fawr ddim mwy na hynny. Diolch byth, rydym wedi dod yn bell yn y 23 i 24 mlynedd diwethaf. Dylai ein plant ddysgu am hanes lleol a hanes Cymru, yn ogystal â hanes y DU, Ewrop a'r byd.

Wrth gwrs, yng Nghasnewydd, mae gennym hanes balch iawn, gan gynnwys Siartiaeth a’r rhan hollbwysig a chwaraeodd y ddinas yn hanes Cymru, gyda gwrthryfel y Siartwyr y tu allan i Westy Westgate yn y dref ar y pryd. Ganed un o'r arweinwyr, John Frost, yng Nghasnewydd yn nhafarn y Royal Oak ym 1784. Roedd Frost a'r Siartwyr eraill yn galw am chwe pheth: y bleidlais i bob dyn yn 21 oed, etholaethau cyfartal, talu ASau, cael gwared ar y gofyniad i ASau fod yn berchen ar eiddo, pleidlais gudd, a seneddau blynyddol. Dim ond yr olaf sydd heb ddod i fodolaeth. Y gwrthryfel yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd 1839 oedd yr enghraifft gryfaf o Siartiaeth rymusol yn hanes y mudiad. Gorymdeithiodd cannoedd o ddynion ar westy'r Westgate, a arweiniodd at frwydr â'r milwyr a oedd wedi eu lleoli yno. Collodd o leiaf 22 o Siartwyr eu bywydau, a dilynwyd y brwydro gan achosion o fradwriaeth.