Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 1 Mawrth 2023.
Mae'n ddrwg gennyf, roedd yna wich yn fy nghlust gyda'r cyfieithiad. Ymddiheuriadau.
Felly, ddoe soniodd fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ynglŷn â sut mae Cymru'n gymuned o gymunedau, ac yn ei datganiad i’r Senedd, soniodd am sut mae’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn bethau i’w dathlu a sut y dylem ni fel Llywodraeth a'n partneriaid ddathlu ein hunaniaeth Gymreig a’n hiaith fel rhywbeth a ddylai ddod â phobl Cymru a chymunedau ynghyd.
Lywydd, soniodd John Griffiths am ei hunaniaeth Gymreig a pherthynas ei ddinas â Chymreictod, ac fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros ddiwylliant a threftadaeth, rwy'n croesawu'r cwestiwn y mae John yn ei ofyn heddiw, sef: sut mae dysgu o’r gorffennol i sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru, Casnewydd a’r Gymraeg? A soniodd hefyd am bêl-droed, wrth gwrs, a chafodd fy sylw ar unwaith ar y pwynt hwnnw, gan fod hynny'n rhywbeth y gŵyr ei fod yn agos iawn at fy nghalon. Felly, hoffwn innau ychwanegu fy nheyrnged i gyfraniad rhagorol Chris Gunter i dîm pêl-droed Cymru dros y blynyddoedd—tîm sydd hefyd yn bwysig iawn i'n diwylliant cenedlaethol.
Lywydd, hoffwn dynnu sylw'n gryno at yr hyn rydym yn ei wneud yn ardal Casnewydd yn benodol, ond ledled Cymru gyfan. Dechreuaf drwy sôn am y strategaeth ddiwylliant, ac rydym yn gweithio gyda Phlaid Cymru ar ymrwymiad a rennir i ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd i Gymru y gobeithiwn y bydd ar gael yn ddiweddarach eleni. Ein gweledigaeth ar gyfer y strategaeth newydd honno yw y bydd yn cynnig cyfeiriad blaengar sy’n seiliedig ar werthoedd i’r sectorau sydd o fewn ei chwmpas, ac y bydd yn cryfhau cydweithio a chydlyniant ar draws ein sectorau diwylliannol, ac yn sail i bob rhan o gymdeithas. Bydd y cysyniad o ddemocratiaeth ddiwylliannol a datblygu’r cysylltiadau rhwng diwylliant a llesiant yn ystyriaethau pwysig ar gyfer y strategaeth newydd, ac wrth ddatblygu’r strategaeth honno, byddwn yn awyddus i sicrhau bod ein sectorau, ein casgliadau a’n gweithgarwch diwylliannol yn adlewyrchu Cymru fel cenedl hyderus, ddwyieithog, amrywiol, gynhwysol, fyfyriol a blaengar.
Mae diwylliant a hunaniaeth yn seiliedig ar amrywiaeth anfesuradwy o safbwyntiau a phrofiadau, fel y nodoch chi'n glir iawn yn eich cyflwyniad, John. Felly, nid lle’r Llywodraeth yw ceisio diffinio beth ddylai hynny fod ar lefel unigol neu gymunedol, ond fe allwn ac fe ddylem fod yn meddwl ynglŷn â sut rydym yn cynnwys, yn adlewyrchu, yn cefnogi, yn dathlu ac yn deall natur amlddimensiynol diwylliant a hunaniaeth Cymru yn well. Ac rwy'n gobeithio y bydd y strategaeth yn gatalydd i ddod â chymunedau ynghyd i ddathlu’r amrywiaeth gyfoethog honno o hunaniaethau sy’n bodoli nid yn unig yng Nghasnewydd, ond ledled y genedl gyfan.
Ond a gaf fi droi’n benodol nawr at Gasnewydd? Mae’n enghraifft wych o sut mae hanes bro yn effeithio ar hanes ehangach Cymru a’r DU, gan helpu i lunio nid yn unig hunaniaeth leol, ond hunaniaeth genedlaethol hefyd. Rydych eisoes wedi cyfeirio at y Siartwyr; ni all unrhyw un sôn am Gasnewydd heb sôn am y Siartwyr, ac mae casgliad Siartwyr yr amgueddfa, wrth gwrs, yn adrodd hanes cyfraniad Cymreig balch ac arwyddocaol i fudiad Prydeinig a sicrhaodd ddiwygiad gwleidyddol pwysig. Ac mae 20 mlynedd ers i long Casnewydd gael ei darganfod yn ystod gwaith adeiladu ar lan yr afon, ac mae estyll y llong honno o’r bymthegfed ganrif bellach wedi’u hadfer ac yn barod i’w rhoi yn ôl at ei gilydd. Mae hwn yn ddarganfyddiad o bwys yn rhyngwladol, ac mae’n adlewyrchu pwysigrwydd teithio a masnach forwrol i Gymru ar hyd y canrifoedd, sydd wedi dylanwadu’n fawr ar y Gymru a welwn heddiw.
Rwyf eisoes wedi sôn am yr hyn rydym yn mynd i’w wneud, ond credaf ei bod yn briodol imi dynnu sylw at ychydig o bethau rydym wedi’u gwneud yn barod, a’r hyn rydym yn parhau i’w wneud i sicrhau bod diwylliant Cymru yn ffynnu yng Nghasnewydd. Felly, mae amgueddfeydd Casnewydd yn dathlu sbectrwm eang o ddiwylliannau, cymunedau, diwydiannau a chyfnodau, sydd oll yn cyfrannu at ddatblygu hunaniaeth Gymreig Casnewydd heddiw. Mae amgueddfeydd yn bodoli wrth galon cymuned. Dyma ble mae pobl yn mynd i gysylltu â'i gilydd ac i rannu a phrofi ein hanes a'n diwylliant. Mae Llywodraeth Cymru, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ariannu nifer o weithgareddau yn ardal Casnewydd, ac mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau Portffolio Celfyddydol Cymru, Ballet Cymru a chanolfan Glan yr Afon, y sonioch chi amdanynt hefyd. Ac mae nifer o sefydliadau eraill Portffolio Celfyddydol Cymru wedi ymgymryd â gweithgarwch o fewn ardal awdurdod lleol Casnewydd. Mae meysydd rhaglenni allweddol, fel dysgu creadigol a chelfyddydau mewn iechyd, hefyd yn gwasanaethu Casnewydd. Er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyflwyno rhaglen helaeth Celf ar gyfer y Faenor yn ddiweddar fel rhan o ddatblygiad ysbyty newydd y Faenor.