1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2023.
2. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran ymgorffori gofal iechyd darbodus ym mhob agwedd ar iechyd a lles yng Nghaerdydd Canolog? OQ59234
Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn yna. Llywydd, mae gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn parhau i fwrw ymlaen ag egwyddorion gofal iechyd darbodus atal salwch, partneriaeth ar y cyd â chleifion ar y daith i welliant, ac arallgyfeirio'r gweithlu fel bod pob ymarferydd yn gweithredu ar frig eu trwydded glinigol.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau dathlu gwaith bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, sy'n ystyriol o lesiant eu staff, ac yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyrsiau ar sut i dyfu llysiau ar safle ysbyty Llandochau, wedi'u hariannu yn amlwg gan elusen bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro—rhywbeth, rwy'n siŵr, sy'n agos at galonnau y ddau ohonom ni. Ond hoffwn dynnu sylw hefyd at eu gwaith diweddar ar fynd i'r afael ag epidemig parhaus salwch meddwl. Mae atgyfeiriadau i ofal eilaidd yn dal i fod bron mor uchel ag yr oedden nhw yn ystod y pandemig. Felly, maen nhw wedi bod yn hyfforddi barbwyr i adnabod arwyddion o ofid meddyliol ymhlith eu cwsmeriaid, ac maen nhw'n hyfforddi pobl sydd â phrofiad bywyd o ddioddef problemau iechyd meddwl fel tiwtoriaid, i weithio ochr yn ochr â thiwtoriaid clinigol proffesiynol, gan gynnwys cleifion unigol a theuluoedd a ffrindiau mewn adferiad system gyfan, trwy rywbeth o'r enw'r coleg adfer. Sut gall yr ymateb creadigol iawn hwn i'r prinder ymgeiswyr i lenwi swyddi gwag gael ei ddwysau ar draws y Llywodraeth, er mwyn helpu i leihau'r anghyfartaledd o ran nifer y blynyddoedd o fyw'n dda rhwng gwahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol, a ddatgelwyd mor arw gan COVID? 12 mlynedd yw'r bwlch yng Nghaerdydd.
Llywydd, diolch i Jenny Rathbone am hynna. Rwy'n sicr yn rhannu ei brwdfrydedd ynghylch gwaith bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, ar eu safle yn Llandochau, o ran defnyddio'r tir sydd ganddyn nhw ar gael yno ar gyfer mentrau llesiant. Mae'r ffrwyth sy'n cael ei dyfu yn rhan o ymyl gorllewinol y safle hwnnw yn cynnig cyfle i gleifion yn ogystal â phobl sy'n gweithio i'r bwrdd iechyd fod y tu allan, yn yr awyr iach, a chyda mynediad at y pethau yr ydym ni'n gwybod sy'n cryfhau teimlad o hapusrwydd.
O ran effaith y pandemig ar iechyd meddwl, mae'n parhau i gael ei gweld ym mhob rhan o Gymru. Mae buddsoddiad newydd Llywodraeth Cymru mewn iechyd meddwl yn aml wedi'i ganolbwyntio yn y rhan gofal iechyd darbodus hwnnw o'r sbectrwm: buddsoddi mewn gwasanaethau haen 0 a haen 1, a'r gwasanaeth 'pwyswch 2' 111 sydd ar gael 24 awr o bob dydd yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, a chydag ymgyrch gyhoeddusrwydd, Llywydd, a fydd yn cael ei chynnal drwy gydol y mis hwn, i gynyddu ymwybyddiaeth a defnydd cleifion o'r gwasanaeth hynod werthfawr hwnnw. Mae'r hyn a ddywedodd yr Aelod, Llywydd, ynghylch y ffordd y mae'n bosibl harneisio ymdrechion pobl nad ydyn nhw yn y gwasanaeth iechyd o gwbl i fod yn rhan o'r gwaith o adnabod a diwallu anghenion cleifion cyn gynted â phosibl pan fo'r anghenion hynny'n codi yn taro tant gyda mi. Rwy'n cofio, rai blynyddoedd yn ôl bellach, pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, yn ymweld â Phen-y-groes, ardal Gymraeg ei hiaith ym maes glo Rhydaman, i weld gwasanaeth dementia a chael fy hysbysu gan y meddygon teulu a oedd yn ei redeg mai eu ffynhonnell bwysicaf o atgyfeiriadau oedd trinwyr gwallt ar brif stryd y pentref, gan fod y trinwyr gwallt hynny yn adnabod eu cwsmeriaid—roedden nhw'n gallu adnabod y person nad oedd yn ymdopi cystal ag yr oedd yn arfer gwneud, gyda'r arian, gyda'r drefn, a bydden nhw'n gwneud atgyfeiriad cynnar i'r gwasanaeth dementia, fel y gallai pobl gael yr ymyrraeth ataliol honno sy'n bosibl pan fyddwch chi'n llwyddo i adnabod pobl yn gynnar ar y daith honno. Mae'r barbwyr yng Nghaerdydd, y gweithwyr post yng Nghaerdydd, yr ydym ni'n gwybod sy'n cael y sgyrsiau hynny bob un dydd ar garreg y drws, mae'r rhain i gyd yn bobl y gallwn ni eu gwneud yn gynorthwyol i'r gwasanaeth iechyd yn y ffordd gofal iechyd darbodus honno.