Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 7 Mawrth 2023.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am agor y ddadl? Mae'n teimlo ein bod ni wedi cael y ddadl yma dair, bedair o weithiau'n barod yn y mis neu ddau ddiwethaf, a dwi'n gwneud dim ymddiheuriad am y ffaith bod y diolch am hynny i Blaid Cymru. Rŷn ni wedi bod yn barod i fynd i'r afael â'r pwnc yma yn hytrach na jest nodio'r peth drwyddo, efallai, fel byddai wedi digwydd fel arfer. Ni fel plaid sydd wedi gwneud yr achos dros ddefnyddio'r pwerau yma sydd gyda ni. A pha bwrpas cael y pwerau oni bai bod yna barodrwydd gwirioneddol i'w defnyddio nhw, pan fydd amgylchiadau'n mynnu eu defnyddio nhw, wrth gwrs, ac nid o dan unrhyw amgylchiadau? Mae'n rhaid i mi ddweud, os ydy'r Llywodraeth ddim yn teimlo mai nawr yw'r amser i wneud hynny, yna edrychwch ar y trajectory: po fwyaf o lymder fydd yn dod o gyfeiriad y Ceidwadwyr, po fwyaf o doriadau fydd yn cael eu gorfodi ar Gymru, po gryfaf fydd y ddadl yn y pen draw i ddefnyddio'r pwerau yma, felly mae'n rhaid braenaru'r tir fel, pan fydd yr amser yn dod, fod Cymru'n barod i fynd, os oes angen o gwbl. Ond dwi ddim eisiau bod nôl fan hyn mewn blwyddyn yn clywed y Gweinidog eto'n dweud, 'Wel, dŷn ni ddim yn gwybod beth fyddai goblygiadau amrywio lefel trethi, ac yn y blaen, felly mae'n anodd i ni wneud unrhyw beth ynglŷn ag e.'
Dwi'n deall, wrth gwrs, ei fod e'n benderfyniad anodd, ond yr hyn sydd ddim wedi fy mhlesio i ynglŷn â'r drafodaeth gyffredinol o gwmpas hyn hyd yn hyn ydy natur fonocrom y drafodaeth: codi treth incwm, a dyna ni. Na—mae modd edrych ar hwn yn fwy creadigol, gyda mwy o haenau a defnyddio, efallai, dreth y cyngor i wrthbwyso'r impact ar bobl, efallai, sydd ddim ar gyflogau uwch ac yn y blaen. Ond, dyna ni—rŷn ni fan hyn heddiw gydag un cynnig o'n blaenau ni ac un mater i'w benderfynu.