3. Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:58, 7 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwyf i am ddechrau trwy ddweud fy mod i'n gefnogol yn ideolegol i gynyddu'r gyfradd dreth ar y ddau fand  incwm uwch. Fe ddylai pobl sy'n ennill cyflogau uwch dalu mwy am ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Dyna ran o'r pris yr ydym ni'n ei dalu am fyw mewn cymdeithas wâr. Y broblem sydd gennym ni yw, rhif un, datganoli treth incwm yn rhannol—dim ond un rhan o'r dreth ar incwm a gafodd ei datganoli i ni. Nid yw incwm difidend wedi cael ei ddatganoli i ac nid yw'r dreth ar enillion cyfalaf wedi cael ei datganoli i ni. Felly, mae gennych chi ddwy dreth arall ar incwm sydd heb eu datganoli. Nid oes gennym unrhyw reolaeth o gwbl dros drethiant difidend; nid ydym ni'n cael unrhyw fudd ohono. Ac ystyr hyn yn syml yw: fe all pobl sy'n gweithio iddyn nhw eu hunain elwa ar ystod o fanteision. Ond y peth gorau i bobl hunangyflogedig yw sefydlu cwmni, talu difidend i chi eich hunan ac nid cyflog, ac yna fe fyddwch chi'n talu cyfradd dreth sylweddol is—8.75 y cant yn gyfradd sylfaenol, 33.75 y cant yn gyfradd uwch, 39.35 y cant yn gyfradd ychwanegol. Felly, yr hyn sydd gennym ni yw bod pobl yn defnyddio, yn unol â'r system sy'n gyfredol erbyn hyn, modd o symud at incwm difidend yn hytrach na chyflog, oherwydd mae hynny'n eu harbed nhw, rhag y ffigurau yr wyf i newydd sôn amdanyn nhw, rhag talu symiau sylweddol o arian.

At hynny, mae gennym symudiad trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr. Nid oes unrhyw fantais nac anfantais o ran trethiant o fod yn drethdalwr yng Nghymru neu yn Lloegr, ac er bod rhai pobl yn cael eu rhoi ar restr y wlad anghywir weithiau, fe ddylai'r effaith net fod yn ddim oll oherwydd nid oes unrhyw fudd o wneud hynny. Os ydych chi'n cyflwyno mantais o gwbl, yna mae hi'n ddigon posibl y bydd pobl yn cofrestru yn yr ardaloedd sy'n trethu isaf y gallan nhw eu dewis yn gyfreithiol. Fe all rhai pobl beidio â symud dros unrhyw ffin o gwbl; fe all rhai pobl sydd â sawl eiddo benderfynu pa eiddo y maen nhw'n dymuno ei gael yn brif breswylfa iddyn nhw, ac o'r herwydd, yn gallu newid maint y dreth y bydden nhw'n ei thalu.

Yna mae gennym statws di-ddomisil ar gyfer osgoi treth incwm. Mae hyn yn rhywbeth sy'n sylfaenol anghyfiawn yn fy marn i. Ni fyddwn ni'n gallu newid hynny heddiw, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen i ni siarad amdano. Codir treth enillion cyfalaf ar gyfradd o 10 neu 18 y cant ar drethdalwyr cyfradd sylfaenol, a 20 neu 28 y cant ar gyfraddau uwch, pob un yn sylweddol is na'r gyfradd dreth arferol. Fe fyddai cynyddu'r gyfradd dreth is yn effeithio ar rai sy'n ennill y cyflogau gwaelaf yn y gymdeithas. Fe fyddai cynnydd o 1c mewn treth incwm yn golygu y byddai angen talu, am bob £100 a delir ar hyn o bryd bydd rhaid talu £105. Beth mae £5 yn ei olygu? I'r rhai sy'n siopa yn Lidl, mae hynny'n golygu hanner pwys o fenyn, torth o fara a dau beint o laeth. I bobl sydd ar incwm isel, mae £5 yn bwysig pan fyddan nhw'n prynu bwyd. Pan ydym ni'n siarad am angen ariannol, ni fyddai cynyddu'r bil treth o unrhyw gymorth.

Mae nifer y trethdalwyr ar y gyfradd ychwanegol yng Nghymru yn ôl CThEF o dan 1,500 ar gyfer y flwyddyn hon. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn symudol ar y cyfan. Ychydig iawn o arian a fyddai codi'r gyfradd ychwanegol yn ei godi i Gymru. Fy nisgwyliad i fyddai gostyngiad yn yr incwm a ddeuai yn sgil hynny. Rwyf i am gefnogi'r cyfraddau a awgrymir. Yr hyn y byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru i'w wneud yw datganoli pob treth ar incwm yn rhannol, a fyddai'n golygu datganoli cyfraddau difidend yn rhannol a datganoli enillion cyfalaf yn rhannol, ar gyfer eu trethu nhw ar yr un gyfradd â threth incwm mewn gwirionedd. Fe fyddai hynny'n deg ac fe fyddai hynny'n golygu y gallem ni godi symiau sylweddol o arian oddi wrth bobl a oedd yn canfod ffyrdd i osgoi'r system. Rwy'n falch fod y Prif Weinidog yn nodio ei ben. Rwy'n credu bod hwn yn faes y dylem ni fod yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth wirioneddol iddo.

Rwy'n credu bod Silk wedi camgymryd, ac fe wn i, wrth edrych ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ein bod ni'n gobeithio cael Paul Silk i ddod atom ni i drafod ein sefyllfa ni o ran datganoli trethiant. Rwy'n credu bod rhai pethau yma a oedd yn ganlyniadau anfwriadol oherwydd datganoli trethiant, ac mae angen i ni wneud pethau yn iawn. Fe fyddai trethu difidendau ac enillion cyfalaf wrth i ni drethu incwm a enillir yn ffordd lawer tecach o fwrw ymlaen â hi.