4. Dadl: Cyllideb Derfynol 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:16, 7 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Serch hynny, hoffwn fynegi rhywfaint o siom ar ddechrau fy nghyfraniad heddiw sef bod newidiadau cyfyngedig iawn wedi'u gwneud rhwng y cyllidebau drafft a therfynol. Gwnaeth ein pwyllgor, yn ogystal â nifer o bwyllgorau eraill, argymhellion pendant mewn nifer o feysydd strategol allweddol ac felly, mae'n drueni bod y Llywodraeth wedi colli cyfle i ymateb yn gadarnhaol i'r rhain cyn y ddadl heddiw. O ganlyniad, bydd fy nghyfraniad heddiw yn gymharol fyr, o ystyried nad oes llawer o bethau ychwanegol i roi sylwadau arnyn nhw ers y gyllideb ddrafft.

Gan droi'n gyntaf at argymhellion penodol, gwnaethom alw ar y Gweinidog i wneud gwaith manwl i fodelu effaith ymddygiadol amrywio cyfraddau treth incwm Cymru ar draws pob band cyn rowndiau cyllideb y dyfodol. Er ein bod yn falch bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, rydym yn llai eglur ynghylch y camau gwirioneddol y bydd y Gweinidog yn eu cymryd yn y maes hwn. Roedd hwn yn argymhelliad allweddol i ni, ac rydym yn disgwyl gweld eglurder pellach yn cael ei ddarparu yn nogfennau y gyllideb y flwyddyn nesaf i ddangos bod ystyriaeth ddifrifol wedi'i rhoi i newid y cyfraddau. Rhaid i mi ddweud ei bod yn ymddangos bod hon yn thema gyffredinol yn yr ymateb a ddarperir gan y Gweinidog. Hynny yw, er bod nifer o'r argymhellion wedi eu derbyn neu wedi eu derbyn mewn egwyddor, mae diffyg gwybodaeth ynghylch y camau penodol fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â nhw.

Fel y bydd Aelodau'n gwybod, fe wnaethom ni feirniadu'r gyllideb ddrafft am ddiffyg eglurder, ac rwy'n ofni nad yw ymateb y Llywodraeth, er ei bod yn mynd rhywfaint ar hyd y ffordd honno, yn mynd yn ddigon pell i dawelu'r holl ofnau neu'r pryderon hynny. Rydym yn gwerthfawrogi parodrwydd y Gweinidog i ymddangos gerbron y pwyllgor ac i ymgysylltu â ni ar faterion allweddol, ond mae angen i ni gael trafodaeth adeiladol a di-flewyn-ar-dafod os ydym am fynd at wraidd y mater. Gallwn ni fel pwyllgor gadarnhau ein bod yn fodlon gwneud hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn adleisio'r ymrwymiad hwnnw.

Hoffwn nawr ganolbwyntio ar feysydd eraill. Ni chafodd dyraniadau ar gyfer cyfalaf trafodiadau ariannol eu cynnwys yn y gyllideb ddrafft am yr ail flwyddyn yn olynol. Diolch i'r Gweinidog am ei llythyr diweddar yn nodi diweddariad ar y dyraniadau cyn y ddadl. Er ein bod yn nodi cyfyngiadau a chymhlethdodau o ran sut y gellir defnyddio trafodiadau ariannol wedi'u neilltuo, y llynedd, dywedwyd wrthym na fyddai'r diffyg dyraniadau a gynhwysir yn y gyllideb ddrafft yn gosod cynsail. Rwy'n cydnabod ymrwymiad y Gweinidog i gymryd camau i sicrhau nad yw hyn yn wir am y flwyddyn ariannol nesaf, ac rydym yn gobeithio gweld y dyraniad llawn yn y cam cyllideb drafft.

Rwy'n troi nawr at rai o'n hargymhellion manwl, sy'n haeddu cael eu crybwyll eto yng nghyd-destun y ddadl heddiw. O ran cefnogaeth i gostau byw, un o'r prif agweddau ar ein craffu ar y gyllideb oedd y gefnogaeth a roddwyd i helpu gyda chostau byw cynyddol. Rydym yn falch bod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhelliad i flaenoriaethu symleiddio cynlluniau cymorth ariannol, o dan y siarter budd-daliadau Cymru arfaethedig. Mae'n dda clywed bod siarter ddrafft wedi'i chyd-gynhyrchu gyda rhanddeiliaid, ac rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi'r siarter hon erbyn diwedd y flwyddyn.

Roedd yn galonogol hefyd clywed bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio tuag at system fudd-daliadau ar gyfer Cymru sydd ag un pwynt cyswllt sy'n golygu mai unwaith yn unig y mae'n rhaid i unigolyn ddweud ei stori. Rydym wedi bod yn eiriolwyr hir dros ddull 'dim drws anghywir' ac mae'n braf bod cynnydd yn cael ei wneud yn y maes hwn.

Ond wrth droi at y lwfans cynhaliaeth addysg, mae'n anodd deall pam nad yw'r Llywodraeth wedi gallu cynyddu gwerth y lwfans cynhaliaeth addysg, sydd heb newid ers canol y 2000au. Mae Llywodraeth Cymru yn honni mai un o'i thair blaenoriaeth ar gyfer y gyllideb hon yw helpu'r rhai a effeithiwyd fwyaf gan yr argyfwng costau byw. Eto i gyd, gwelsom y gellid gwneud mwy i gefnogi plant a phobl ifanc, yr effeithir arnyn nhw'n anghymesur gan yr argyfwng hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad o adroddiad y pwyllgor plant a phobl ifanc i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r lwfans cynhaliaeth addysg, gan ddweud y bydd y canfyddiadau'n llywio unrhyw newidiadau i'r cynllun. Fodd bynnag, rydym yn annog y Llywodraeth i flaenoriaethu unrhyw gyllid ychwanegol a dderbynnir o fewn y flwyddyn gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed trwy godi gwerth y lwfans cynhaliaeth addysg ac i liniaru'r risg y byddant yn gadael addysg i chwilio am gyflogaeth.