4. Dadl: Cyllideb Derfynol 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:20, 7 Mawrth 2023

Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei hymrwymiad parhaus i adolygu protocol proses y gyllideb, sy’n amlinellu dealltwriaeth rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru am y trefniadau ar gyfer craffu ar y gyllideb. Mae’r duedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ohirio cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn sgil amseru digwyddiadau ariannol y Deyrnas Unedig wedi arwain at broses graffu wedi’i chwtogi, gyda llai o amser ar gael i bwyllgorau ymgysylltu â rhanddeiliaid ac edrych yn fanwl ar y cynigion cyllidebol sydd wedi eu cyflwyno. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ystyried newidiadau i'r protocol ac am gytuno i ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid cyn cyhoeddi cyllidebau drafft yn y dyfodol, os bydd amserlenni yn cael eu gohirio eto.

Fel mae ein hadroddiad yn nodi, byddaf hefyd yn ysgrifennu at Gadeiryddion pwyllgorau eraill cyn bo hir i ymgynghori ar lefel ac ansawdd y dogfennau sy'n cyd-fynd â'r gyllideb ddrafft, gan gynnwys amseriad yr ymatebion a ddarparwyd gan y Llywodraeth, gyda'r bwriad o geisio gwneud gwelliannau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Gweinidog ar hyn ac ar faterion eraill, ac rwy’n gobeithio bydd ein trafodaethau adeiladol yn parhau, er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn gallu cael eu gweithredu mewn da bryd cyn rownd gyllideb 2024-25. Diolch yn fawr.