Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 7 Mawrth 2023.
Ond, Dirprwy Lywydd, a fyddai angen gwario gymaint ar fesurau fel hyn pe bai Cymru'n rhydd o'r undeb annheg ac anghyfartal hyn o genhedloedd? Mae Plaid Cymru wedi codi pryderon am effaith tanfuddsoddi mewn ymchwil a datblygu ar Gymru ers tro, ac fe glywom ni am hynny gan Mike Hedges. Mae'n siomedig, felly, nodi nad yw'r gyllideb hon, unwaith eto, yn gwneud llawer i fynd i'r afael â'r diffyg yma. Mae ymchwil ac arloesi yn greiddiol i ffyniant ein cenedl nawr ac yn y dyfodol, gan alluogi'r gwaith hollbwysig a wneir yn ein prifysgolion i gael effaith gadarnhaol ar fywydau dinasyddion Cymru ac, yn wir, dinasyddion y byd.
Dros y degawd diwethaf, Cymru sydd wedi bod â'r lefel isaf o wariant ymchwil a datblygu fel cyfran o'i gwerth ychwanegol crynswth ymhlith holl wledydd y Deyrnas Gyfunol. Ffactor allweddol yn hyn yw'r diffyg cymharol o gyllid ar sail ansawdd—QR—gan Lywodraeth Cymru i dalu am bethau nad yw grantiau eraill yn eu cynnwys, sy'n peryglu, wedyn, gallu prifysgolion Cymru i gystadlu am y cyllid ymchwil ac arloesi sydd ar gael iddynt, ac mae'r ffigurau yn darlunio hyn yn glir.
Cyllid QR Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer 2022-23 yw £81.7 miliwn, o gymharu â'r £1.789 biliwn a neilltuwyd gan Research England ar gyfer cyllid QR yn yr un flwyddyn. Er mwyn i brifysgolion medru cystadlu pro rata gyda Lloegr, dylai cyllid QR fod tua £100 miliwn. Mae prifysgolion, felly, yn dioddef o ddiffyg o £18 miliwn mewn cyllid ar gyfer seilwaith hanfodol. Nid yw'n swm anferth, ond heb weithredu yn hyn o beth gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i weld Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y Deyrnas Gyfunol—rhywbeth sy'n ffrwyno ein potensial fel cenedl ac a fydd yn andwyol i'n prifysgolion.
Mae hyn yn fater o bwys ac yn fater o frys, achos mae cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd wedi, wrth gwrs, chwarae rhan hollbwysig yng nghapasiti ymchwil Cymru, ac mae mynediad Cymru at y cyllid yna—yr hyn oedd wedi lliniaru effaith tanfuddsoddi o ffynonellau domestig yn y gorffennol—ar fin dod i ben. Mae'r effaith i'w theimlo yn barod—1,000 o ymchwilwyr yn wynebu diswyddiadau, nifer ohonynt yn barod yn colli gwaith a nifer ohonynt yn barod wedi cael eu gorfodi i adael Cymru, a'u harbenigedd yn gadael gyda nhw, er i ni glywed gan y Llywodraeth dim ond yr wythnos diwethaf pa mor hanfodol yw arloesi i Gymru.
Roedd rhywfaint o obaith, yn sgil cyhoeddi fframwaith Windsor, y byddai trafodaethau yn dechrau yn sgil aelodaeth y Deyrnas Gyfunol o gynllun Horizon, ond mae adroddiadau yn y wasg jest ar y penwythnos wedi awgrymu bod Rishi Sunak a'i Lywodraeth yn San Steffan yn amheus o werth y rhaglen a'r gost o fod yn rhan ohoni, sy'n gwneud gweithredu ar y diffyg buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru wedyn hyd yn oed yn fwy argyfyngus.
Ochr yn ochr â hyn, bydd cyfanswm y gyllideb addysg uwch yn gostwng yn y gyllideb yma i £198.653 miliwn yn 2023-24, i lawr o £203.513 miliwn yng nghyllideb 2022-23, datblygiad sy'n peri pryder, yn enwedig yn wyneb y ffaith bod sawl is-ganghellor yng Nghymru, gan gynnwys is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, wedi datgan yn ddiweddar bod prifysgolion Cymru yn wynebu sefyllfa ariannol anghynaladwy, sydd wedi'i ddwysau gan gostau ynni cynyddol a chwyddiant. Hoffwn, felly, nodi ein siom nad yw ymchwil a datblygu a'r sector prifysgolion yn cael eu cefnogi yn ddigonol gan y gyllideb yma, a thynnu sylw Llywodraeth Cymru at y ffaith bod y sefyllfa bresennol o ran ein sefyllfa ôl-Brexit, lefel chwyddiant, cyflwr yr economi a'r argyfwng costau byw oll yn fwy o reswm iddynt weithredu i gynnal y sector a'r gwaith ymchwil a datblygu sy'n sail mor bwysig i ffyniant ein cenedl a'n cyfraniad i'r byd.