Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 7 Mawrth 2023.
A wnaiff y Gweinidog gydnabod bod toriad ariannol mewn termau real mewn addysg yn eich cyllideb eleni? Ac a wnewch chi hefyd gydnabod, wrth i chi roi'r arian sy'n cael ei ddynodi ar gyfer addysg nid yn unig i'r gyllideb addysg ond i lywodraeth leol, does dim sicrwydd o gwbl, er eich bod chi'n dweud bod arweinwyr llywodraeth leol yn dweud bod ganddyn nhw fwriadau da, y bydd yr arian hwnnw'n mynd i fyd addysg?