Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch i chi, Gweinidog, a Llywodraeth Cymru hefyd am gyflwyno'r drafodaeth heddiw ar y setliad llywodraeth leol 2023-24, y mae cynghorau a chynghorwyr ar hyd a lled Cymru wedi bod yn aros yn eiddgar amdano wrth gwrs, oherwydd rydym yn gwybod bod y setliad llywodraeth leol hwn yn hanfodol bwysig i'n cynghorau a'n cynghorwyr, sy'n gwneud cymaint wrth ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae ein cymunedau lleol yn dibynnu arnyn nhw, a dyma pam y mae mor hanfodol bod ein cynghorau gwych yn cael eu hariannu'n ddigonol er mwyn eu galluogi i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol a phwysig hyn. A Gweinidog, rwy'n sicr yn ategu eich sylw agoriadol wrth gydnabod y gwaith eithriadol a gyflwynwyd gan lawer o'n cynghorau, yn enwedig dros y cyfnod diweddar.
Hoffwn ddweud yn gyntaf hefyd, ar yr ochr hon i'r meinciau, rydym yn sicr yn croesawu'r cynnydd i'r setliad llywodraeth leol, a'r 7.9 y cant. Bydd yn gwneud gwahaniaeth i'r awdurdodau lleol hynny. Ac rwyf wedi clywed mewn tystiolaeth yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai gan nifer o arweinwyr cynghorau fod hyn o bosib yn fwy na'r hyn a ddisgwyliwyd ychydig fisoedd yn ôl. Roeddwn i hefyd yn falch, Gweinidog, i weld bod data poblogaeth o gyfrifiad 2021 wedi ei ddefnyddio yn y dyraniadau fformiwla ariannu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf hefyd. Fel y gwyddoch chi, mae'n rhywbeth rwyf wedi ei godi nifer o weithiau, o ran y defnydd o ddata, felly rwy'n falch o weld ei fod yn cael ei adnewyddu. Yn sicr, mae pryder yn parhau, er hynny, nad yw'n bosib adnewyddu rhai o'r pwyntiau data eraill hynny ar hyn o bryd, ond rwy'n deall hefyd bod cynnydd yn cael ei wneud i weld sut y gellir gwella'r data hwn cyn gynted â phosibl.
Ond, Gweinidog, mae pryderon o fewn y setliad llywodraeth leol, nad ydyn nhw, rwy'n credu yn cael eu hystyried yn ddigonol ar hyn o bryd, ac felly ni fydd hyn yn ein galluogi ni i gefnogi eich cynnig yma heddiw. Y pryder cyntaf o fy ochr i ac o'n hochr ni o'r meinciau yw'r cysylltiad rhwng y codiadau parhaus yn y dreth gyngor a lefelau cronfeydd wrth gefn y mae awdurdodau lleol yn eu dal. Felly, byddwch yn gwybod bod cynghorau Cymru ar hyn o bryd yn dal gwerth dros £2.5 biliwn o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio. Yr hyn nad ydym yn ei weld yw cynghorau yn ceisio defnyddio'r rheiny a chadw'r dreth gyngor ar lefel synhwyrol. Felly, er enghraifft, yng Nghaerffili, mae cynnydd o 7.9 y cant yn y dreth gyngor, ond mae ganddyn nhw £233 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio; gwelwn fod trigolion Cyngor Sir Caerfyrddin yn mynd i dalu 6.8 y cant yn fwy o ran y dreth gyngor, ond mae gan y cyngor yno £230 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio; deallwn fod gan Rondda Cynon Taf dros £250 miliwn o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio. Rwy'n sicr yn cydnabod, Gweinidog, efallai nad oes awydd i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn hynny ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd, ond mae'n rhaid bod modd i'r cynghorau hynny, gan weithio gyda chi yn y Llywodraeth, weld beth yw'r ffordd orau o sicrhau nad ydyn nhw dim ond yn eistedd ar y cronfeydd wrth gefn hynny, ond eu bod yn cael eu defnyddio i gefnogi'r cymunedau hynny a lleihau'r pwysau gymaint â phosib ar ein trethdalwyr lleol sy'n gweithio'n galed.
Mae'r pwyntiau hyn, yn fy marn i, yn sicr yn arwain at yr ail fater ynghylch y setliad llywodraeth leol, sef y fformiwla ariannu rydych chi'n ei defnyddio i ddyrannu cyllid i awdurdodau lleol, sydd, yn fy marn i, angen adolygiad. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi, Gweinidog, ac â llawer o drigolion o bob rhan o Gymru, nad yw hi'n iawn fod cynghorau'n eistedd ar y cronfeydd enfawr hyn tra bod cynnydd yn y dreth gyngor yn parhau i fynd yn erbyn pobl sy'n sicr yn gweithio drwy'r her costau byw.
Mae'n syfrdanol i mi fod rhai cynghorau yn gallu cynyddu'r dreth gyngor, dyweder, 1 y cant yn unig yn y flwyddyn ariannol nesaf tra bod cynghorau eraill yn gorfod ei chodi bron i 10 y cant. Siawns nad yw hynny'n dangos anghysondeb yn y fformiwla ariannu, pan fo un cyngor yn gallu ei chodi 1 y cant tra bod yn rhaid i gynghorau eraill ei chodi bron i 10 y cant. Mae rhywbeth o'i le mewn fformiwla ariannu sy'n gorfodi cynghorau i fod â gwahaniaeth o 10 gwaith yng nghanran y codiad i'r dreth gyngor. Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae mwy a mwy o arweinwyr cynghorau o bob cwr o Gymru yn ymuno i alw am adolygu'r fformiwla ariannu, a bydd gennyf ddiddordeb mewn clywed gennych ynghylch pa mor fodlon ydych chi â thegwch y fformiwla ariannu bresennol a pha drafodaethau yr ydych yn eu cael neu ddim gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch sut y gellir adolygu'r fformiwla ariannu honno yn y dyfodol hefyd.
Un pryder i orffen ynghylch y setliad llywodraeth leol, a'i effaith ar gynghorau, Gweinidog, yw'r grant cymorth tai, sydd eisoes wedi'i grybwyll yn y Siambr hon y prynhawn yma ac mae'n rhywbeth yr wyf i wedi ei godi yn y gorffennol hefyd. Byddwch yn gwybod bod gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai, a aeth y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir yn ystod y pandemig, yn wynebu cynnydd o 10 y cant mewn costau drwy'r flwyddyn ariannol nesaf, a hefyd mae tua 30 y cant o staff cymorth tai yn cael eu talu llai na'r cyflog byw cenedlaethol a'r cyflog byw gwirioneddol ar hyn o bryd— cyflogau y mae eich Llywodraeth yn ymrwymo i sicrhau bod gweithwyr y sector cyhoeddus yn eu cael, ond nid yw bellach yn galluogi eraill i gael yr un cyflog.
Fel y gwyddom, dros y degawd diwethaf, mae'r grant cymorth tai wedi gostwng £14 miliwn mewn termau real, ac mae hyn yn ystod cyfnod o gynnydd mewn galw a phwysau—y galw a'r pwysau y mae ein cynghorau'n eu hwynebu o ran tai a digartrefedd yn fwy nag erioed. Mae 56% o'r staff sy'n gweithio yn y sector yn dweud eu bod yn cael trafferth talu eu biliau, gyda rhai yn disgrifio'r sefyllfa fel un 'erchyll'. Felly, byddwn yn galw arnoch i unioni'r sefyllfa, Gweinidog, ar frys. Rwy'n siomedig na fydd y setliad hwn yn galluogi cynghorau a chynghorwyr i dalu a darparu'r cyllid hwnnw i'r gwasanaethau cymorth tai hynny yn ddigonol.
I gloi, Dirprwy Lywydd, ar yr ochr hon i'r meinciau, rydym yn parhau i resynu at natur annheg y setliad llywodraeth leol a'r fformiwla ariannu yn benodol, ynghyd â'r meysydd allweddol yr wyf wedi'u nodi yma heddiw. Felly, yn sgil hyn, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn. Diolch.