Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma. Mae dweud ei bod hi'n gyfnod eithriadol o heriol i awdurdodau lleol yn dan-ddweud difrifol, byddwn i'n meddwl, ac mi gyfeiriodd y Gweinidog yn gynharach at y setliad 12 mis presennol yma—9.4 y cant. Ddeuddeg mis yn ôl, fe'i cyhoeddwyd gan y Gweinidog, yn llawer gwell ar y pryd nag oedd unrhyw un wedi'i ddychmygu, a bod yn deg, ond, wrth gwrs, roedd yna gydnabyddiaeth yr adeg hynny y byddai blwyddyn 2 a blwyddyn 3 yn heriol. Yn y cyfamser, rŷn ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd i chwyddiant, ac mae wedi dangos y setliad hwnnw mewn golau gwahanol iawn erbyn heddiw. Ac eto, eleni, mae'r 7.9 y cant, byddai nifer yn dweud, yn well na'r disgwyl, efallai, ond rŷn ni mewn cyd-destun gwahanol iawn, iawn, iawn. Mae yna gefnlen o 12 mlynedd o doriadau yn golygu bod yna ddim slac ar ôl i awdurdodau lleol i dorri—dim byd ar ôl ond torri i'r byw—a buasai neb yn tanwerthfawrogi y penderfyniadau anodd iawn y mae awdurdodau lleol yn gorfod eu gwneud ar hyd a lled y wlad.
Mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn fframio hwn fel setliad cadarnhaol ac yn y cyd-destun rŷn ni'n ffeindio ein hunain ynddo, mae'n debyg bod yna rywbeth yn hynny, ond eto, mae realiti y sefyllfa yn dweud stori efallai tipyn mwy heriol, oherwydd mae'r bwlch ariannu yn golygu nid yn unig ein bod ni'n mynd i weld y cynnydd yn y trethi, fel sydd wedi cael ei gyfeirio ato fe, ar lefelau sylweddol iawn, ond ar yr un pryd, wrth gwrs, rŷn ni hefyd yn mynd i weld toriadau eithriadol yn digwydd mewn rhai sefyllfaoedd. Felly, dyw hi ddim yn edrych yn gyfnod llewyrchus o gwbl. Ac mae hyn i gyd yn dod ar yr union adeg y mae pobl yn llai abl i dalu treth y cyngor a fyddai'n cynyddu'n sylweddol, ond hefyd pan fydd angen y gwasanaethau sydd ar gael eu torri yn fwy nag erioed o'r blaen.
Mae setliad pob awdurdod lleol yn is na chwyddiant, felly mae hwnna, dwi'n meddwl, yn dweud ei stori ei hun, ac mae pob arwydd o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awgrymu y bydd llymder marc 2 yn parhau, efallai'n dwysáu, ac felly mae'r sefyllfa, o bosib, am waethygu cyn yr eith hi yn well. Ac mae yna bwysau mawr o sawl cyfeiriad ar gyllidebau awdurdodau lleol. Rŷn ni'n gwybod am ofal cymdeithasol yng nghyd-destun plant, ac oedolion, wrth gwrs, yn faich eithriadol. Mae yna ddyletswydd yn hynny o beth ar y Senedd i gynorthwyo awdurdodau lleol gymaint ag y gallwn ni, nid dim ond yn ariannol, ond wrth fynd i'r afael â rhai o'r problemau systemig sy'n bodoli yn y berthynas, yn enwedig rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd. Ac, wrth gwrs, mae yna waith yn digwydd yn hynny o beth, ond mae'n bwysig bod y gwaith yna yn symud yn ei flaen ar fyrder.
Mae yna bwysau ar gyllidebau tai a digartrefedd, gyda rhestrau aros ar gynnydd. Roeddwn i'n clywed, er enghraifft, yn Wrecsam, fod y rhestrau aros am dai wedi dyblu i 4,000 dim ond yn y ddwy flynedd diwethaf, ond, wrth gwrs, dyw'r adnoddau sydd ar gael i'r awdurdod lleol ddim yn unman yn agos at fod yn ddigonol i ymateb i'r her yna. Mae'r ergyd mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn o safbwynt cyllidebau cyfalaf yn amlwg yn mynd i gael effaith ar y cyllidebau cyfalaf sydd ar gael i awdurdodau lleol. Mae hynny'n mynd i roi mwy o bwysau arnyn nhw i fenthyg, ac rŷn ni'n gwybod beth sy'n digwydd i lefelau interest. Mae'r Public Works Loan Board yn 4.2 y cant, dwi'n meddwl nawr, am fenthyciad un flwyddyn, lle ddwy flynedd yn ôl roedd e'n 1 y cant yn unig. Felly, mae'r heriau yma yn dod at awdurdodau lleol o bob cyfeiriad y gallwch chi eu dychmygu.
Ac felly, y neges bwysig gen i, wrth edrych ar y setliad ehangach, yw hyblygrwydd. Dwi yn teimlo bod angen inni sicrhau bod gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd mwyaf posib i ymateb. Mewn cyfnod o gynni, yr awdurdodau lleol sy'n gwybod sut orau i sicrhau y defnydd mwyaf gwerthfawr o'r adnoddau prin sydd ganddyn nhw. Felly, ymbweru awdurdodau lleol yn lle bod yn rhy gyfyng o ran sut y gellir defnyddio yr adnoddau prin sydd ganddyn nhw.