Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 8 Mawrth 2023.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Rwy'n frwd fy nghefnogaeth i Dechrau'n Deg. Nid yw'n bosibl gorbwysleisio pwysigrwydd dechrau da mewn bywyd i blentyn. Mae yna blant yn dechrau mewn dosbarthiadau meithrin yn dair oed gydag oedran datblygiad sy'n agosáu at bedair, tra bod gan eraill oedran meddyliol o ychydig dros ddwy oed. Mae'n eu digalonni. Oherwydd y ffordd y mae gwybodaeth sensitif yn cael ei chasglu mewn ardaloedd cynnyrch ehangach haen is, mae llawer o blant yn rhai o'r ardaloedd sydd â'r angen mwyaf ar eu colled. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ddarparu Dechrau'n Deg i blant, ac a yw argaeledd Dechrau'n Deg yn mynd i gael ei newid yn sgil canlyniadau cyfrifiad 2021?