Dechrau'n Deg

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:21, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Mae Dechrau'n Deg yn ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol i bob plentyn dwy oed. Mae cam 1 bron â gorffen gyda gwasanaethau'n cael eu cynnig i dros 2,500 o blant ychwanegol. Mae cam 2 yn dechrau ym mis Ebrill a dros y ddwy flynedd nesaf, bydd yn cefnogi dros 9,500 yn fwy o blant dwy oed i gael mynediad at ofal plant o ansawdd drwy Dechrau'n Deg.