2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 8 Mawrth 2023.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi menywod ag endometriosis yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ59227
Dwi wedi ymrwymo i’r blaenoriaethau sydd wedi’u gosod yn y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched, ac mae NHS Cymru yn datblygu cynllun iechyd menywod 10 mlynedd ar ei gyfer. Mae hyn yn cynnwys y disgwyliad y bydd pob bwrdd iechyd yn sicrhau mynediad teg ac amserol i driniaeth briodol a chefnogaeth ar gyfer endometriosis.
Diolch yn fawr iawn. Wel, gan ei bod hi heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, ac yn Fis Ymwybyddiaeth Endometriosis, fel rŷch chi wedi fy nglywed i yn dweud o'r blaen yn y Siambr, dwi'n cael llawer iawn o ohebiaeth gan ferched yn y gorllewin sydd yn dangos nad yw'r ddarpariaeth ar gyfer menywod sy'n dioddef o endometriosis yn hanner digon da.
O ran y cynllun iechyd menywod, ar draws y 29 cyflwr lle mae anghydraddoldeb rhywedd yn bodoli, gan gynnwys endometriosis, rŷch chi wedi sôn bod NHS Cymru yn mynd i ddatblygu'r cynllun iechyd menywod yma, ond dwi'n synnu braidd gan ystyried y ffaith bod iechyd menywod yn bodoli mewn cyd-destun llawer ehangach na jest iechyd yn unig. Mae'n ymwneud â thlodi, mae'n ymwneud â deiet, mae'n ymwneud â chyflwr tai, ac yn y blaen. Dwi'n synnu mai nid chi fel Llywodraeth sydd yn arwain ar hyn, fel sydd yn digwydd yn yr Alban ac yn Lloegr. Allech chi gadarnhau i ni y bydd y cynllun iechyd menywod yma yn mynd i'r afael â chau'r bwlch o ran anghydraddoldeb rhywedd, fel bod merched yng Nghymru yn derbyn llawer gwell cefnogaeth?
Diolch yn fawr. Dwi'n gobeithio bod y Siambr wedi deall pa mor committed ydw i i'r achos yma. Dwi eisiau hefyd nodi bod hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, a dwi eisiau cymryd y cyfle yma yn arbennig i ddiolch i'r holl fenywod sy'n gweithio yn yr NHS ac yn ein gwasanaeth gofal ni. Maen nhw'n fwyafrif mawr o ran y nifer sy'n gweithio yna, ac felly, dwi eisiau cymryd y cyfle ar y diwrnod arbennig yma i ddiolch iddyn nhw.
Fel rŷch chi'n dweud, mae gyda ni equality statement ar fenywod sydd wedi dangos yn union ble rŷn ni eisiau mynd, a beth yw ein disgwyliadau ni, ond o ran perchnogaeth, mae'n bwysig iawn mai'r NHS sydd biau hwn fel eu bod nhw'n teimlo'r cyfrifoldeb i wneud yn siŵr eu bod nhw'n delifro arno fe. So, dwi wedi gwneud yn siŵr mai nhw sydd yn berchen arno fe. Ac rŷn ni'n deall, pan fo'n dod i iechyd, fod yn rhaid edrych ar bob math o bethau, fel tai a thlodi, ond dwi'n meddwl ei bod yn bwysig i wneud yn siŵr, y tu fewn i'r NHS, ein bod ni'n cael y ffocws mewn lle lle dwi ddim yn meddwl ei bod hi wedi bod yn y gorffennol. Felly, gwneud yn siŵr, er enghraifft, pan fo'n dod i astudiaethau, ein bod ni'n edrych ar sut mae'r cyffur yma yn effeithio ar fenyw, sut mae pobl yn cael eu trin pan fyddan nhw'n mynd i GP. Mae'n amlwg ac mae lot o dystiolaeth yn dangos bod menywod a dynion, efallai, yn cael eu trin tipyn bach yn wahanol. Felly, dwi eisiau gwneud yn siŵr mai nhw sydd yn berchen arno fe, achos dwi'n meddwl bod mwy o siawns y bydd pethau'n newid os mai nhw sy'n berchen arno fe, a nhw sy'n ei ddatblygu fe, yn hytrach na fi jest yn rhoi comisiwn iddyn nhw.
Diolch i'r Gweinidog.