Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 8 Mawrth 2023.
Yr argyfwng hinsawdd yw'r her bwysicaf sy'n ein hwynebu. Dyna pam rwy'n cefnogi casgliadau'r adolygiad ffyrdd. Rwyf hefyd yn cefnogi safbwynt y Ceidwadwyr, os mai dyna yw eich safbwynt, ynghylch cau Maes Awyr Caerdydd. Fy her i chi yw: os mai dyna'n wir yw eich safbwynt, cyflwynwch ddadl dros gau Maes Awyr Caerdydd. Rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu ati, oherwydd mae'n gyson â'r farn am yr argyfwng hinsawdd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf.