Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 8 Mawrth 2023.
Er eglurder, nid ydym yn argymell cau Maes Awyr Caerdydd. Mewn gwirionedd, rydym wedi cyflwyno dwy strategaeth sydd wedi tynnu sylw at yr hyn yr hoffai'r Ceidwadwyr Cymreig ei weld yn digwydd gyda Maes Awyr Caerdydd, sef ei fod yn dod yn faes awyr proffidiol gyda chysylltiadau rhyngwladol ond yn cael ei redeg yn y sector annibynnol.