Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 8 Mawrth 2023.
Yng Nghymru, dechreuodd y daith tuag at gydnabod hil-laddiad yn 2001, wrth gwrs, pan osododd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, flodau er cof am y 1915 o ddioddefwyr hil-laddiad. Yn ddiweddarach, yn 2010, cafwyd cydnabyddiaeth benodol i hil-laddiad yr Armeniaid gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, pan dalodd wrogaeth i ddioddefwyr Armenaidd yn ystod digwyddiadau coffáu'r Holocost. Dilynodd yr Eglwys yng Nghymru eu hesiampl yn fuan wedyn, gan ddatgan 24 Ebrill yn Ddiwrnod yr Hil-laddiad Armenaidd. Nawr, mae'r rhain i gyd wedi cael eu croesawu, er mai camau graddol ydynt. Ond mae amgylchiadau heddiw yn golygu na all ddod i ben gyda hynny.
Tra oedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd, cynhaliwyd nifer o etholiadau a refferenda yn Nagorno-Karabakh i uno'r oblast ag Armenia, ond gwrthodwyd y rhain gan Moskva (Moscow). Ym 1988, pasiodd Senedd Ewrop benderfyniad yn cefnogi galwadau'r Armeniaid ethnig yn y rhanbarth am ailuno ag Armenia, ond gyda gwactod pŵer yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, cymerodd Azerbaijan yr ardal dan reolaeth filwrol, ac ers hynny, wrth gwrs, mae'r ardal wedi ei phlagio gan ryfel a gwrthdaro.
Ac fel ym mhob rhyfel, y gwir ddioddefwyr yw'r sifiliaid. Nid yn unig yn y gorffennol y mae'r erchyllterau sy'n wynebu pobl Armenia. Rhaid inni beidio â gadael i bobl Armenia gael eu hanwybyddu unwaith eto wrth i erchyllterau a cham-drin hawliau dynol ddigwydd yn eu herbyn yn Nagorno-Karabakh. Mae'r sefyllfa yno'n enbyd. Mae Azerbaijan wedi cau'r briffordd rhwng Goris a Stepanakert, yr unig ffordd sy'n cysylltu Nagorno-Karabakh â'r byd tu allan drwy goridor Lachin. I Armeniaid yn Artsakh, mae hwn yn goridor hollbwysig sy'n eu cysylltu â chyflenwadau, â masnach, a gweddill Armenia. Mewn llythyr diweddar wedi'i lofnodi gan y Farwnes Cox, Arglwydd Alton o Lerpwl, Rowan Williams, cyn-Archesgob Caergaint, Christopher Cocksworth, Esgob Coventry, disgrifiodd Dr John Eibner a Tim Loughton AS y gwarchae ar goridor Lachin gan Azerbaijan fel 'gwarchae canoloesol'.
Fis diwethaf, gorchmynnodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, prif gorff barnwrol y Cenhedloedd Unedig, fesurau dros dro i sicrhau bod Azerbaijan yn dod â'r gwarchae ar goridor Lachin i ben. Yn ôl y llys, mae'r sefyllfa wedi golygu nad oes gan 120,000 o drigolion Armenaidd ethnig yn Nagorno-Karabakh fynediad at nwyddau a gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys meddyginiaeth a gofal iechyd sy'n achub bywydau. Mae un cardiolegydd mewn ysbyty yno yn dweud eu bod ond yn gwneud 10 y cant o'r llawdriniaethau y byddai disgwyl iddynt eu gwneud fel arfer, a hynny'n syml oherwydd nad oes ganddynt yr offer sydd ei angen arnynt. O ganlyniad, mae'n dweud, 'Bob dydd rydym yn colli llawer o bobl, llawer o gleifion.'
Mae'r undod y gallwn ei ddangos i bobl Armenia yn golygu llawer, yn amlwg, er ei fod yn costio cyn lleied i ni. Bûm mewn cysylltiad â'r gymuned Armenaidd yma yng Nghymru, ac yng ngogledd Cymru yn arbennig, ac rwyf am ddarllen ambell ddatganiad byr gan Anna, a symudodd o Armenia i Gymru rai blynyddoedd yn ôl ond sydd â theulu dan warchae yn Nagorno-Karabakh. Mae'n dweud hyn:
'Mae gennyf ffrindiau a theulu sydd wedi'u dal yn yr hyn sy'n digwydd ac mae'n anodd iawn oherwydd pan ydych chi'n adnabod pobl, mae gymaint yn fwy personol. Mae fy nghalon yn gwaedu dros fy ngwlad, dros bawb, ond wedyn mae gennych chi bobl rydych chi'n eu hadnabod ac rydych chi'n poeni amdanynt yn gyson. Mae'n anodd.'
Nawr, mae'n sôn am ei chefnder Rita a'i theulu sydd bellach yn byw yn Stepanakert, sydd yn yr ardal dan warchae. Roeddent yn arfer byw yn nhref Shusha, ond oherwydd bod Azerbaijan wedi cymryd rheolaeth, bu'n rhaid iddynt symud oddi yno yn ystod y rhyfel. Dywedodd Anna wrthyf,
'Fe wnaethant ffoi oddi yno oherwydd bod yna fomio ddydd a nos. Pan ddaeth y rhyfel i ben, fe wnaethant benderfynu mynd i Stepanakert. Mae gan ei mab glwyfau o'r rhyfel. Cafodd dynnu un ysgyfaint, mae niwed i un o'i arennau, ac mae niwed i'w asgwrn cefn hefyd. Mae ganddo dri o blant.'
Dywedodd ei chyfnither Rita wrthi,
'Wyddost ti beth, Anna, nid prinder bwyd na thrydan na chyflenwadau yw'r peth gwaethaf. Fe wnaethom fyw drwy ryfel gyntaf Nagorno-Karabakh dan yr amgylchiadau hynny. Nid dyna ydyw, ond yn hytrach, yr ofn o beidio â gwybod beth maent am ei wneud nesaf'.
Aiff yn ei blaen i ddweud,
'Yng Nghymru, hoffwn weld Aelodau'r Senedd yn arwyddo'r datganiad barn sydd wedi ei gyflwyno. Mae cyn lleied o bobl wedi ei arwyddo. Mae'n brifo. Nid ydym yn gofyn am ormod. Nid oes ond angen iddynt ddangos eu bod yn deall ein poen. Rydym eisiau cydnabyddiaeth ac undod... Hoffwn weld Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Llywodraeth Cymru yn codi llais ar hyn.'
Mae'n dweud
'Rwy'n siomedig iawn nad ydynt wedi gwneud hynny.'
Nawr, mae'n ddyletswydd arnom i gondemnio'r gweithredoedd hyn, ac er efallai nad oes gennym bŵer wedi'i ddatganoli i'r Senedd hon i wneud llawer mwy na hynny, mae'n rhaid inni o leiaf ddefnyddio'r llais sydd gennym, nid yn unig i fynegi undod â phobl fel Anna a'i theulu yn Armenia, ond hefyd i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gynorthwyo'r bobl Armenaidd ac i gondemnio gweithredoedd Azerbaijan.
Yn 2019, fel y soniais yn gynharach, datganodd Cymru ei hun yn genedl noddfa gyntaf y byd, sef ymagwedd drugarog a phragmatig tuag at dderbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac ers hynny, rydym wedi haeddu'r disgrifiad hwnnw i raddau helaeth, yn gyntaf, fel y soniais, drwy gefnogi a chartrefu ffoaduriaid o Affganistan ac yn fwy diweddar, wrth gwrs, gyda'n cefnogaeth i ffoaduriaid Wcreinaidd. Dywed y Llywodraeth hon yng Nghymru wrthym ei bod yn credu bod angen ymateb unigryw Gymreig tuag at gymorth rhyngwladol, ac rwy'n cytuno. Ond mae geiriau a gweithredoedd yn aml yr un mor bwysig, ac nid yw'n iawn inni flaenoriaethu condemnio rhai mathau o ymddygiad ymosodol rhyngwladol yn erbyn gwladwriaethau sofran tra bôm yn anwybyddu eraill.
Ydym, rydym yn genedl noddfa, nid oherwydd ein bod eisiau bod yn boblogaidd, nid oherwydd ei fod yn hawdd—mae ymhell o fod—ond oherwydd ein bod eisiau i'r rhai sydd angen noddfa a chymorth wybod ein bod ni'n deall, hyd yn oed yn ystod erchyllterau rhyfel, fod angen i bobl deimlo'n ddiogel, ein bod ni, fel brawdoliaeth a chwaeroliaeth ddyngarol yma i'n gilydd pan fo pobl yn ffoi rhag erledigaeth, cam-drin hawliau dynol, rhyfel a hil-laddiad. Mae ein polisi cenedl noddfa yn dangos i'r byd beth sy'n ein gwneud ni'n falch o fod yn Gymry; rydym yn garedig ac yn hael ac rydym yn cynnig ein breichiau agored i'r byd pan fyddant angen ein cymorth. Dyna pam rwy'n galw ar y Senedd hon heddiw, ac ar Lywodraeth Cymru, i gondemnio'r rhyfel erchyll yn erbyn y bobl Armenaidd yn Nagorno-Karabakh, i fod yn rhagweithiol wrth annog Llywodraeth y DU i wneud yr un peth a hefyd i ddarparu cymorth er mwyn atal yr argyfwng dyngarol sy'n wynebu 120,000 o bobl Armenaidd yno. A gadewch i'n gweithredoedd gael eu hysgogi nid yn unig drwy gydnabod yn briodol a chofio am erchyllterau hil-laddiad Armenaidd 1915-23, ond hefyd drwy gydnabod yn benodol fod yna fygythiad o hil-laddiad arall nawr, eleni, ganrif yn ddiweddarach, yn 2023, oherwydd os na chodwn ein lleisiau, os na ddefnyddiwn y llais sydd gan y Senedd hon a Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at yr erchyllterau hyn, bydd gennym oll waed ar ein dwylo. Diolch.