– Senedd Cymru am 6:06 pm ar 8 Mawrth 2023.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Llyr Gruffydd, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gyflwyno'r pwnc.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch am y cyfle i gyflwyno fy mhwnc i yn y ddadl fer yma y prynhawn yma.
Mi allwn ni fod yn ddigon balch o’r ymagwedd ryngwladol sydd wedi bod yn rhan amlwg o'n hanes ni fel Cymry dros y blynyddoedd. Yn ôl yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, roedd gennym ni ein Cynghrair Cymreig y Cenhedloedd Unedig a ymgyrchodd dros heddwch a chydweithrediad rhyngwladol ar ôl y rhyfel byd cyntaf. Dyna yrrodd ddeiseb heddwch merched 1923, a lofnodwyd gan dros 390,000 o ferched yn annog America i ymuno â, ac arwain, Cynghrair y Cenhedloedd. Hefyd, wrth gwrs, ers dros ganrif mae neges heddwch flynyddol yr Urdd wedi’i hanfon ar draws y byd gan ledaenu neges o heddwch ac ewyllys da gan blant a phobl ifanc Cymru i bob rhan o’r byd ac i holl bobloedd y byd.
Fe ddaeth yr enghreifftiau penodol hyn i fod, wrth gwrs, yn y cyfnod cyn datganoli. A’r hyn oedden nhw, mewn gwirionedd, oedd cyfrwng i Gymru siarad mewn undod, gydag un llais, ar adeg pan nad oedd gennym ni ein senedd genedlaethol ein hunain i fynegi’r teimladau hynny o solidariaeth ryngwladol gydag eraill a oedd yn wynebu anghyfiawnder a gormes ar draws y byd.
Nawr, yn fwy diweddar, wrth gwrs, mae'r Senedd hon wedi sicrhau bod Cymru'n genedl noddfa, sy'n ymwneud â chroesawu'r rhai o bob cwr o'r byd sydd wedi'u dadleoli gan ryfel a gwrthdaro a'r rhai sydd eisiau lle diogel i fyw ynddo. A mawredd, yng ngoleuni peth o'r naratif a ddaw o Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, mae gwir angen inni ystyried ein cyfrifoldeb i ddarparu'r noddfa honno. Gan fod gennym ein Senedd ein hunain bellach—er nad oes gennym lawer o bwerau na chymhwysedd mewn cyd-destun rhyngwladol—mae gennym ddyletswydd i ddefnyddio'r platfform hwn ac i godi ein llais cyfunol i dynnu sylw at anghyfiawnder lle bynnag y'i gwelwn. Er bod llawer o'r pwerau i sicrhau newid gwirioneddol wedi eu cadw'n ôl i San Steffan, mae gennym ddyletswydd foesol i ddefnyddio ein statws fel Senedd genedlaethol, fel Llywodraeth genedlaethol, i siarad a chodi llais i gondemnio cam-drin hawliau dynol, i gondemnio rhyfel ac ymddygiad ymosodol ac i estyn allan at bobl ar adeg o angen. Rydym yn gwneud hynny gyda rhyfel ymosodol Putin yn erbyn Wcráin. Rydym wedi gwneud hynny drwy roi cymorth i'r bobl sy'n ffoi rhag erledigaeth y Taliban yn Affganistan. Rydym wedi gwneud hynny wrth gondemnio'r modd y caiff hawliau dynol menywod Iran eu cam-drin yn barhaus. Nid yn unig ein bod yn genedl noddfa, rydym yn genedl o undod. A dyna pam, heddiw, yn y Senedd, mae'n rhaid inni hefyd godi llais a chondemnio'r erchyllterau parhaus a anwybyddwyd i raddau helaeth sy'n digwydd yn erbyn y bobl Armenaidd yn Nagorno-Karabakh.
Gwlad gymharol fechan yw Armenia, gyda phoblogaeth debyg i un Cymru. Ac ers eu hannibyniaeth, yn gyntaf yn 1918 ac eto yn 1991, maent wedi wynebu rhyfel a hil-laddiad gan eu cymdogion. Llofruddiwyd rhwng 600,000 ac 1.5 miliwn o Armeniaid yn systematig gan y Tyrciaid Ifanc yn yr hyn y mae llawer o wledydd yn dal i fethu ei ddisgrifio'n gywir fel hil-laddiad. A chyn hynny, digwyddodd hil-laddiad arall dan yr Ymerodraeth Ottomanaidd, yn ôl ym 1895, pan lofruddiwyd 300,000 o Armeniaid. Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU, dros ganrif ar ôl i'r erchyllterau hyn ddigwydd yn erbyn y bobl Armenaidd, yn dal heb fod yn ddigon dewr i'w alw yr hyn ydoedd—sef hil-laddiad. Nid tan yn ddiweddar y gwnaed hynny gan wledydd eraill rydym yn eu cyfrif yn wledydd sy'n arddel egwyddorion rhyddid a hawliau dynol. Ni wnaeth yr Almaen gydnabod yr hil-laddiad Armenaidd tan 2016, ac fe wnaeth UDA yr un peth yn 2019. Ac mae'n hen bryd i Lywodraeth y DU wneud hynny hefyd.
Yng Nghymru, dechreuodd y daith tuag at gydnabod hil-laddiad yn 2001, wrth gwrs, pan osododd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, flodau er cof am y 1915 o ddioddefwyr hil-laddiad. Yn ddiweddarach, yn 2010, cafwyd cydnabyddiaeth benodol i hil-laddiad yr Armeniaid gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, pan dalodd wrogaeth i ddioddefwyr Armenaidd yn ystod digwyddiadau coffáu'r Holocost. Dilynodd yr Eglwys yng Nghymru eu hesiampl yn fuan wedyn, gan ddatgan 24 Ebrill yn Ddiwrnod yr Hil-laddiad Armenaidd. Nawr, mae'r rhain i gyd wedi cael eu croesawu, er mai camau graddol ydynt. Ond mae amgylchiadau heddiw yn golygu na all ddod i ben gyda hynny.
Tra oedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd, cynhaliwyd nifer o etholiadau a refferenda yn Nagorno-Karabakh i uno'r oblast ag Armenia, ond gwrthodwyd y rhain gan Moskva (Moscow). Ym 1988, pasiodd Senedd Ewrop benderfyniad yn cefnogi galwadau'r Armeniaid ethnig yn y rhanbarth am ailuno ag Armenia, ond gyda gwactod pŵer yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, cymerodd Azerbaijan yr ardal dan reolaeth filwrol, ac ers hynny, wrth gwrs, mae'r ardal wedi ei phlagio gan ryfel a gwrthdaro.
Ac fel ym mhob rhyfel, y gwir ddioddefwyr yw'r sifiliaid. Nid yn unig yn y gorffennol y mae'r erchyllterau sy'n wynebu pobl Armenia. Rhaid inni beidio â gadael i bobl Armenia gael eu hanwybyddu unwaith eto wrth i erchyllterau a cham-drin hawliau dynol ddigwydd yn eu herbyn yn Nagorno-Karabakh. Mae'r sefyllfa yno'n enbyd. Mae Azerbaijan wedi cau'r briffordd rhwng Goris a Stepanakert, yr unig ffordd sy'n cysylltu Nagorno-Karabakh â'r byd tu allan drwy goridor Lachin. I Armeniaid yn Artsakh, mae hwn yn goridor hollbwysig sy'n eu cysylltu â chyflenwadau, â masnach, a gweddill Armenia. Mewn llythyr diweddar wedi'i lofnodi gan y Farwnes Cox, Arglwydd Alton o Lerpwl, Rowan Williams, cyn-Archesgob Caergaint, Christopher Cocksworth, Esgob Coventry, disgrifiodd Dr John Eibner a Tim Loughton AS y gwarchae ar goridor Lachin gan Azerbaijan fel 'gwarchae canoloesol'.
Fis diwethaf, gorchmynnodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, prif gorff barnwrol y Cenhedloedd Unedig, fesurau dros dro i sicrhau bod Azerbaijan yn dod â'r gwarchae ar goridor Lachin i ben. Yn ôl y llys, mae'r sefyllfa wedi golygu nad oes gan 120,000 o drigolion Armenaidd ethnig yn Nagorno-Karabakh fynediad at nwyddau a gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys meddyginiaeth a gofal iechyd sy'n achub bywydau. Mae un cardiolegydd mewn ysbyty yno yn dweud eu bod ond yn gwneud 10 y cant o'r llawdriniaethau y byddai disgwyl iddynt eu gwneud fel arfer, a hynny'n syml oherwydd nad oes ganddynt yr offer sydd ei angen arnynt. O ganlyniad, mae'n dweud, 'Bob dydd rydym yn colli llawer o bobl, llawer o gleifion.'
Mae'r undod y gallwn ei ddangos i bobl Armenia yn golygu llawer, yn amlwg, er ei fod yn costio cyn lleied i ni. Bûm mewn cysylltiad â'r gymuned Armenaidd yma yng Nghymru, ac yng ngogledd Cymru yn arbennig, ac rwyf am ddarllen ambell ddatganiad byr gan Anna, a symudodd o Armenia i Gymru rai blynyddoedd yn ôl ond sydd â theulu dan warchae yn Nagorno-Karabakh. Mae'n dweud hyn:
'Mae gennyf ffrindiau a theulu sydd wedi'u dal yn yr hyn sy'n digwydd ac mae'n anodd iawn oherwydd pan ydych chi'n adnabod pobl, mae gymaint yn fwy personol. Mae fy nghalon yn gwaedu dros fy ngwlad, dros bawb, ond wedyn mae gennych chi bobl rydych chi'n eu hadnabod ac rydych chi'n poeni amdanynt yn gyson. Mae'n anodd.'
Nawr, mae'n sôn am ei chefnder Rita a'i theulu sydd bellach yn byw yn Stepanakert, sydd yn yr ardal dan warchae. Roeddent yn arfer byw yn nhref Shusha, ond oherwydd bod Azerbaijan wedi cymryd rheolaeth, bu'n rhaid iddynt symud oddi yno yn ystod y rhyfel. Dywedodd Anna wrthyf,
'Fe wnaethant ffoi oddi yno oherwydd bod yna fomio ddydd a nos. Pan ddaeth y rhyfel i ben, fe wnaethant benderfynu mynd i Stepanakert. Mae gan ei mab glwyfau o'r rhyfel. Cafodd dynnu un ysgyfaint, mae niwed i un o'i arennau, ac mae niwed i'w asgwrn cefn hefyd. Mae ganddo dri o blant.'
Dywedodd ei chyfnither Rita wrthi,
'Wyddost ti beth, Anna, nid prinder bwyd na thrydan na chyflenwadau yw'r peth gwaethaf. Fe wnaethom fyw drwy ryfel gyntaf Nagorno-Karabakh dan yr amgylchiadau hynny. Nid dyna ydyw, ond yn hytrach, yr ofn o beidio â gwybod beth maent am ei wneud nesaf'.
Aiff yn ei blaen i ddweud,
'Yng Nghymru, hoffwn weld Aelodau'r Senedd yn arwyddo'r datganiad barn sydd wedi ei gyflwyno. Mae cyn lleied o bobl wedi ei arwyddo. Mae'n brifo. Nid ydym yn gofyn am ormod. Nid oes ond angen iddynt ddangos eu bod yn deall ein poen. Rydym eisiau cydnabyddiaeth ac undod... Hoffwn weld Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Llywodraeth Cymru yn codi llais ar hyn.'
Mae'n dweud
'Rwy'n siomedig iawn nad ydynt wedi gwneud hynny.'
Nawr, mae'n ddyletswydd arnom i gondemnio'r gweithredoedd hyn, ac er efallai nad oes gennym bŵer wedi'i ddatganoli i'r Senedd hon i wneud llawer mwy na hynny, mae'n rhaid inni o leiaf ddefnyddio'r llais sydd gennym, nid yn unig i fynegi undod â phobl fel Anna a'i theulu yn Armenia, ond hefyd i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gynorthwyo'r bobl Armenaidd ac i gondemnio gweithredoedd Azerbaijan.
Yn 2019, fel y soniais yn gynharach, datganodd Cymru ei hun yn genedl noddfa gyntaf y byd, sef ymagwedd drugarog a phragmatig tuag at dderbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac ers hynny, rydym wedi haeddu'r disgrifiad hwnnw i raddau helaeth, yn gyntaf, fel y soniais, drwy gefnogi a chartrefu ffoaduriaid o Affganistan ac yn fwy diweddar, wrth gwrs, gyda'n cefnogaeth i ffoaduriaid Wcreinaidd. Dywed y Llywodraeth hon yng Nghymru wrthym ei bod yn credu bod angen ymateb unigryw Gymreig tuag at gymorth rhyngwladol, ac rwy'n cytuno. Ond mae geiriau a gweithredoedd yn aml yr un mor bwysig, ac nid yw'n iawn inni flaenoriaethu condemnio rhai mathau o ymddygiad ymosodol rhyngwladol yn erbyn gwladwriaethau sofran tra bôm yn anwybyddu eraill.
Ydym, rydym yn genedl noddfa, nid oherwydd ein bod eisiau bod yn boblogaidd, nid oherwydd ei fod yn hawdd—mae ymhell o fod—ond oherwydd ein bod eisiau i'r rhai sydd angen noddfa a chymorth wybod ein bod ni'n deall, hyd yn oed yn ystod erchyllterau rhyfel, fod angen i bobl deimlo'n ddiogel, ein bod ni, fel brawdoliaeth a chwaeroliaeth ddyngarol yma i'n gilydd pan fo pobl yn ffoi rhag erledigaeth, cam-drin hawliau dynol, rhyfel a hil-laddiad. Mae ein polisi cenedl noddfa yn dangos i'r byd beth sy'n ein gwneud ni'n falch o fod yn Gymry; rydym yn garedig ac yn hael ac rydym yn cynnig ein breichiau agored i'r byd pan fyddant angen ein cymorth. Dyna pam rwy'n galw ar y Senedd hon heddiw, ac ar Lywodraeth Cymru, i gondemnio'r rhyfel erchyll yn erbyn y bobl Armenaidd yn Nagorno-Karabakh, i fod yn rhagweithiol wrth annog Llywodraeth y DU i wneud yr un peth a hefyd i ddarparu cymorth er mwyn atal yr argyfwng dyngarol sy'n wynebu 120,000 o bobl Armenaidd yno. A gadewch i'n gweithredoedd gael eu hysgogi nid yn unig drwy gydnabod yn briodol a chofio am erchyllterau hil-laddiad Armenaidd 1915-23, ond hefyd drwy gydnabod yn benodol fod yna fygythiad o hil-laddiad arall nawr, eleni, ganrif yn ddiweddarach, yn 2023, oherwydd os na chodwn ein lleisiau, os na ddefnyddiwn y llais sydd gan y Senedd hon a Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at yr erchyllterau hyn, bydd gennym oll waed ar ein dwylo. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch am gyflwyno'r drafodaeth y prynhawn yma.
Rydym yn sefyll gyda'n holl gymunedau rhyngwladol sy'n gorfod gwylio a gweld eu pobl, ac fel rydych chi'n dweud, pobl—teulu a ffrindiau—sy'n dioddef. Rydym yn dangos undod fel unigolion, fel cymunedau, ac fel ffrindiau â'r rhai sy'n dal i ddioddef erledigaeth bob dydd. Mae Llywodraeth Cymru'n condemnio erledigaeth a thrais o bob math yn unrhyw ran o'r byd, a lle mae cynnen yn bodoli neu wedi bodoli, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ymdrechion i hyrwyddo cymod rhwng pobl a Llywodraethau.
Mae Cymru'n mwynhau cysylltiadau â llawer o genhedloedd ar draws y byd, gyda llawer ohonynt wedi penderfynu gwneud Cymru'n gartref iddynt, ac mae Cymru, ac fe fydd bydd bob amser, yn genedl groesawgar, lle sy'n hyrwyddo ac yn dathlu heddwch. Mae ein hanes yn tystio i hyn, fel rydych wedi ein hatgoffa heddiw, o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru ac apêl heddwch menywod rhyfeddol y 1900au cynnar, i Urdd Gobaith Cymru, creu'r Academi Heddwch, i'r ymrwymiad heddiw i wneud Cymru'n genedl noddfa. Ac fel rydych chi wedi dweud, Llyr, mae cenedl noddfa yn golygu helpu unrhyw un sydd wedi ei ddadleoli neu sy'n ailgartrefu yng Nghymru i gael mynediad at wasanaethau ac integreiddio gyda chymunedau o'r diwrnod cyntaf ar ôl cyrraedd. Mae'n ymwneud â gweld y person cyn gweld eu statws mewnfudo. Mae'n ymwneud â chydnabod bod gan unigolion sgiliau a phrofiadau ac nid dim ond anghenion i'w diwallu. Mae'n ymwneud â harneisio'r cyfleoedd y mae mudo yn helpu i'w cyflwyno i'n heconomi ac i'n cymunedau, ac rydym yn genedl o undod, fel y dywedwch. Dyna oedd fy neges y bore yma mewn digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a drefnwyd gan Hwb Cymru Affrica, a oedd yn disgrifio rhai o'r prosiectau rydym yn eu cefnogi yn Affrica is-Sahara ar rymuso rhywedd.
Rwy'n ymwybodol fod gwrthdaro Nagorno-Karabakh yn gymhleth iawn, a dros y 30 mlynedd diwethaf, mae pobl wedi parhau i ddioddef oherwydd y gwrthdaro, sydd wedi bod yn gefndir i gysylltiadau rhanbarthol yn ystod y cyfnod hwn. Wel, fel rydym wedi dweud, ac fel rydym yn gwybod, Llywodraeth y DU sy'n dal yr awenau ar faterion tramor—mae wedi ei gadw'n ôl—ac mae Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu rôl weithredol. Ac rwy'n deall bod eu safbwynt ar densiynau rhwng Armenia ac Azerbaijan ynghylch sefyllfa Nagorno-Karabakh heb newid. Ond mae Llywodraeth y DU, gyda llawer o'r gymuned ryngwladol, wedi bod yn glir fod cau coridor Lachin nawr, sy'n wythïen hollbwysig i mewn i Nagorno-Karabakh, yn gwbl annerbyniol, ac maent wedi galw dro ar ôl tro am agor y coridor.
Yr wythnos diwethaf, ar 2 Mawrth, dywedodd pennaeth dirprwyaeth y DU i'r Sefydliad Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE) fod Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn bryderus iawn ynghylch y tarfu parhaus ar goridor Lachin, ac anogodd weithredu ar unwaith i adfer llif nwyddau a phobl. Mae'r coridor wedi cael ei drafod yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, ac mae'r ffaith bod hyn bellach wedi'i ddwyn ger bron y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, a dyfarniad wedi'i basio, yn atgyfnerthu'r angen i roi camau brys ar waith.
Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi ymdrechion rhyngwladol, gan gynnwys y rhai dan arweiniad yr UE ac OSCE, ac mae'n parhau i alw ar Lywodraeth Armenia a Llywodraeth Azerbaijan i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'u pryderon, ac i gyflawni'r ymrwymiadau y mae'r ddwy ochr wedi'u gwneud. A thrwy gydol mis Chwefror, cyfarfu Gweinidogion y DU â chynrychiolwyr o Azerbaijan ac Armenia i drafod cynnydd ar drafodaethau heddwch, ac roedd hyn yn cynnwys teithio allan i Baku.
A diolch am godi pwysigrwydd cymorth dyngarol ar ôl y trais yn 2020. Y DU oedd y genedl gyntaf i ddarparu cymorth dyngarol ar ffurf £1 filiwn i Bwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch, a nawr, drwy Gronfa Start, mae wedi dyrannu £350,000 i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan gau'r coridor. Mae'r DU wedi ymrwymo i barhau i fonitro'r sefyllfa drwy eu hymgysylltiadau helaeth â gweithredwyr dyngarol, i barhau i adolygu'r angen am gymorth dyngarol pellach yn y dyfodol pe bai'r sefyllfa'n parhau i ddirywio. Ac mae'r adroddiadau fod troseddau rhyfel wedi'u cyflawni yn peri pryder mawr, ac rwy'n gwybod bod nifer o bobl yn poeni am y risg o hil-laddiad yn y rhanbarth.
O ran y Confensiwn Hil-laddiad, a lle mae tystiolaeth fod trothwyon wedi'u cyrraedd, rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd, a lle mae gan Lywodraeth y DU bryderon ynghylch ymddygiad milwyr, bydd y materion hyn yn cael eu codi'n uniongyrchol gyda'r Llywodraeth briodol.
Yn anffodus, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gweld gwrthdaro mewn gormod o leoedd ar draws y byd. Caiff llawer ohono ei achosi gan gasineb, hiliaeth, diffyg addysg, ac amharodrwydd i wrando a gweithio gyda phobl. Mae Cymru bob amser wedi bod, ac yn parhau i fod yn genedl sy'n falch o agor ei drysau, yn enwedig i'r rhai sy'n ffoi rhag trais a chasineb, ac rydym yn falch o werthoedd cydraddoldeb, cydweithredu ac undod sy'n nodweddu'r Gymru rydym yn byw ynddi heddiw. Ond mae'n rhaid i hyn fod yn realiti i bobl, ac mae'n rhaid inni wrando ar y pryderon rydych chi wedi'u codi heddiw ynghylch y materion hyn.
So, unwaith eto, diolch yn fawr, Llyr Gruffydd.
Diolch am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw.
Diolch i Llyr Gruffydd, a diolch i'r Gweinidog. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.