Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 8 Mawrth 2023.
Nawr, yn fwy diweddar, wrth gwrs, mae'r Senedd hon wedi sicrhau bod Cymru'n genedl noddfa, sy'n ymwneud â chroesawu'r rhai o bob cwr o'r byd sydd wedi'u dadleoli gan ryfel a gwrthdaro a'r rhai sydd eisiau lle diogel i fyw ynddo. A mawredd, yng ngoleuni peth o'r naratif a ddaw o Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, mae gwir angen inni ystyried ein cyfrifoldeb i ddarparu'r noddfa honno. Gan fod gennym ein Senedd ein hunain bellach—er nad oes gennym lawer o bwerau na chymhwysedd mewn cyd-destun rhyngwladol—mae gennym ddyletswydd i ddefnyddio'r platfform hwn ac i godi ein llais cyfunol i dynnu sylw at anghyfiawnder lle bynnag y'i gwelwn. Er bod llawer o'r pwerau i sicrhau newid gwirioneddol wedi eu cadw'n ôl i San Steffan, mae gennym ddyletswydd foesol i ddefnyddio ein statws fel Senedd genedlaethol, fel Llywodraeth genedlaethol, i siarad a chodi llais i gondemnio cam-drin hawliau dynol, i gondemnio rhyfel ac ymddygiad ymosodol ac i estyn allan at bobl ar adeg o angen. Rydym yn gwneud hynny gyda rhyfel ymosodol Putin yn erbyn Wcráin. Rydym wedi gwneud hynny drwy roi cymorth i'r bobl sy'n ffoi rhag erledigaeth y Taliban yn Affganistan. Rydym wedi gwneud hynny wrth gondemnio'r modd y caiff hawliau dynol menywod Iran eu cam-drin yn barhaus. Nid yn unig ein bod yn genedl noddfa, rydym yn genedl o undod. A dyna pam, heddiw, yn y Senedd, mae'n rhaid inni hefyd godi llais a chondemnio'r erchyllterau parhaus a anwybyddwyd i raddau helaeth sy'n digwydd yn erbyn y bobl Armenaidd yn Nagorno-Karabakh.
Gwlad gymharol fechan yw Armenia, gyda phoblogaeth debyg i un Cymru. Ac ers eu hannibyniaeth, yn gyntaf yn 1918 ac eto yn 1991, maent wedi wynebu rhyfel a hil-laddiad gan eu cymdogion. Llofruddiwyd rhwng 600,000 ac 1.5 miliwn o Armeniaid yn systematig gan y Tyrciaid Ifanc yn yr hyn y mae llawer o wledydd yn dal i fethu ei ddisgrifio'n gywir fel hil-laddiad. A chyn hynny, digwyddodd hil-laddiad arall dan yr Ymerodraeth Ottomanaidd, yn ôl ym 1895, pan lofruddiwyd 300,000 o Armeniaid. Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU, dros ganrif ar ôl i'r erchyllterau hyn ddigwydd yn erbyn y bobl Armenaidd, yn dal heb fod yn ddigon dewr i'w alw yr hyn ydoedd—sef hil-laddiad. Nid tan yn ddiweddar y gwnaed hynny gan wledydd eraill rydym yn eu cyfrif yn wledydd sy'n arddel egwyddorion rhyddid a hawliau dynol. Ni wnaeth yr Almaen gydnabod yr hil-laddiad Armenaidd tan 2016, ac fe wnaeth UDA yr un peth yn 2019. Ac mae'n hen bryd i Lywodraeth y DU wneud hynny hefyd.