Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 14 Mawrth 2023.
Bu'r broses graffu ar y Bil hwn yn drwyadl a heriol, sydd fel y dylai fod, ond mae wedi'i chynnal mewn modd cynhyrchiol drwyddi draw. Rwy'n sylweddoli nad oedd Bil o'r natur hon yn debygol o sicrhau cefnogaeth gyffredinol ar draws pob plaid, ond rydych chi wedi ceisio dod i gyfaddawd lle bo modd ac i gydnabod gwahaniaethau yn barchus lle na ellir goresgyn y rhain. Rydym ni wedi gweithio'n agos â Phlaid Cymru ac rydym ni wedi ymgysylltu'n adeiladol â'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Rwy'n credu bod y gwelliannau a wnaed i'r Bil yn sgil craffu'r Senedd wedi ei wella. Rwy'n ailddatgan fy ymrwymiad i bleidiau nad ydynt yn rhan o'r llywodraeth ac, wrth gwrs, Aelodau o'm meinciau cefn fy hun sydd wedi dangos diddordeb brwd yn y Bil hwn, y byddaf yn parhau i ymgysylltu â chi mewn ffordd ystyrlon yn y misoedd nesaf wrth i ni ddatblygu'r canllawiau ategol a fydd mor bwysig wrth weithredu'r ddeddfwriaeth hon.
Rhaid diolch yn arbennig i glerciaid y pwyllgor, cyfreithwyr y Senedd a staff eraill y Comisiwn am eu dull proffesiynol a chefnogol drwyddi draw. Mae'r ffordd y mae'r Bil hwn wedi symud drwy'r broses graffu ac i'r amserlen a gytunwyd ar y cychwyn yn dyst i'ch gwaith caled a'ch ymroddiad. Rwy'n estyn yr un diolch i swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gwneud popeth posib i'n cael ni i'r pwynt hwn. A dweud y gwir, credaf eu bod nhw wedi cael llond bol o fy ngweld i. Ond, gyda phob difrifoldeb, rydw i a'm cyd-Aelodau yn y Cabinet yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich ymdrechion.
Yn olaf, diolch yn ddiffuant i'n holl randdeiliaid a phartneriaid allanol, o'r rhai sydd wedi bod ar y daith hon o'r cychwyn cyntaf ac wedi ymateb i'n hymgynghoriad gwreiddiol ar y Bil drafft, i bawb a gyfrannodd dystiolaeth a phawb sydd wedi cyfrannu o'u harbenigedd drwy gydol y broses graffu. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod yr ysbryd y datblygwyd y ddeddfwriaeth hon ynddi yn fodel ynddo'i hun o gydweithio cymdeithasol. Byddwn yn parhau i ddibynnu ar y gefnogaeth a'r profiad hwnnw yn ystod y misoedd nesaf wrth i ni symud ymlaen i'r gwaith sydd angen ei wneud i roi'r ddeddfwriaeth hon ar waith yn llwyddiannus. Ac mae llawer eto i'w wneud. Mae is-ddeddfwriaeth i'w gwneud, arweiniad a gweithdrefnau i'w datblygu, a hyfforddiant a chefnogaeth i'w cyflwyno. Byddaf, wrth gwrs, yn diweddaru Aelodau a rhanddeiliaid ar ein cynllun gweithredu.
Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, diolch i'r Aelodau a'r partneriaid cymdeithasol unwaith eto am eu cydweithrediad, eu sylwadau a'u her. Dyma ddeddfwriaeth nodedig sy'n rhoi ein ffordd Gymreig o weithio ar sail fwy ffurfiol ac un fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Diolch.