3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2023.
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar effaith arllwysiad carthion ar ansawdd y dŵr yn Llyn Padarn? OQ59245
Diolch, Siân Gwenllian. Llyn Padarn yw unig ddŵr mewndirol a ddynodwyd ar gyfer ymdrochi ynddo yng Nghymru sydd wedi ennill ei le yn y dosbarthiad uchaf sef 'ardderchog' gyda chysondeb. Am iddo gael ei ddynodi yn ddŵr i ymdrochi ynddo, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gosod rheolaethau rheoleiddiol caeth ar bob gollyngiad, gan gynnwys gorlifoedd tywydd mawr, a leolir gerllaw.
Mae etholwyr wedi cysylltu efo fi yn bryderus am eu bod nhw wedi darganfod planhigyn ymledol yn tyfu yn Llyn Padarn yn Llanberis, ac maen nhw’n grediniol bod arllwysiad carthion i’r dŵr yn bwydo’r tyfiant. Mae yna arbenigwr wedi cadarnhau mai planhigyn o’r enw lagarosiphon sydd yn y llyn—rhywbeth sy’n enw newydd i mi, ond dyna mae’r arbenigwr yn dweud ydy o. Mae’r planhigion yma wedi creu problemau mewn llynnoedd yn Iwerddon, mae’n debyg. Hoffwn i sicrwydd bod eich Llywodraeth chi yn ymwybodol o’r broblem, a allai, wrth gwrs, gael effaith niweidiol ar fioamrywiaeth y llyn arbennig yma, a hoffwn sicrwydd eich bod chi’n gweithio'n agos efo asiantaethau er mwyn gweithredu’n briodol.
Siŵr iawn, Siân, ac fe fyddaf i'n sicr yn gofyn i CNC wirio unwaith eto, oherwydd rydym ni'n falch iawn o'r ffaith fod gan Lyn Padarn y dynodiad hwn, ac yn sicr fe fyddaf i'n gofyn iddyn nhw wneud felly. Rydym ni'n ymwybodol—nid wyf i'n gallu ynganu enw'r peth hyd yn oed—lagarosiphon, fel rwy'n credu y caiff ei alw. Ffugalaw crych, beth bynnag, ar lafar gwlad, sy'n rhywogaeth anfrodorol oresgynnol iawn sy'n cael ei chategoreiddio fel rhywogaeth o bryder arbennig. Mae hwn yn fygythiad sylweddol i rywogaethau brodorol, ac rydych chi'n hollol iawn bod angen i ni wirio a sicrhau bod hynny'n gywir, ac rwyf i am sicrhau na fydd hynny'n digwydd eto.
Mewn gwirionedd, fe lansiwyd strategaeth rhywogaethau goresgynnol Prydain Fawr fis diwethaf, ac mae honno'n rhoi fframwaith strategol ar gyfer camau y gallwn ni eu cymryd, ochr yn ochr â llywodraethau eraill y DU, cyrff statudol, a rhanddeiliaid allweddol. Felly, mae hi'n amserol iawn i'r strategaeth fod ar waith erbyn hyn, Siân, ac yn siŵr iawn fe fyddaf i'n sicrhau bod CNC yn ymwybodol o'r pryderon ac yn cynnal arolygiad arall.
A gaf i gefnogi'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn heddiw ynglŷn ag effaith rhyddhau carthion ar ansawdd y dŵr yn Llyn Padarn? Ond wrth gwrs, Gweinidog, dim ond brig mynydd iâ budr iawn yw hwn. Oherwydd fe wyddom ni, ar ddiwedd y llynedd, roedd ffigurau a ddatgelwyd gennym ni'n canfod, o'r 184 o bibellau carthion a weithredir gan Dŵr Cymru heb drwydded ar gyrsiau'r afonydd yng Nghymru, mai dim ond un cais a gyflwynwyd i CNC, sy'n golygu bod 183 o bibellau carthion yng Nghymru yn gweithio heb eu trwyddedu, ac maen nhw'n gollwng gwastraff i'n dyfrffyrdd, fe wyddom ni fod hynny wedi digwydd ddegau o filoedd o droeon, o ran y gollyngiadau fel hyn i'n dyfrffyrdd ni. Felly, yng ngoleuni hyn, Gweinidog, pa sicrwydd a wnewch chi ei roi i mi a fy nhrigolion eich bod chi'n cymryd y mater hwn o ollwng carthion yn ddifrifol, fel bod pobl yn gallu mwynhau lleoedd fel Llyn Padarn am flynyddoedd i ddod?
Wrth gwrs, rydyn ni'n eu cymryd nhw'n eithriadol o ddifrifol, ac mae nifer o edefynnau yn gwau trwy eich cwestiwn chi, ac, yn wir, yn un Siân draw fan acw, Sam Rowlands. Gyda'r perygl o brofi amynedd y Llywydd, oherwydd mae hwnnw'n ateb cymhleth iawn, rydyn ni yn y broses o gytuno ar gyfres o feini prawf ar gyfer mecanwaith i adolygu prisiau ar gyfer yr awdurdodau dŵr yng Nghymru, oherwydd mae angen i ni sicrhau bod y biliau yn fforddiadwy, ond bod yr arian ar gael hefyd ar gyfer buddsoddi i uwchraddio'r systemau amrywiol ledled Cymru, gan gynnwys gorlif carthffosydd cyfunol a nifer fawr o asedau eraill y mae angen eu huwchraddio nhw, ac felly mae angen i ni fod â'r mecanwaith priodol yn hyn o beth.
Yn y cyfamser, ynglŷn â Llyn Padarn yn benodol, mae'r asedau yn lleol yn cynnwys dwy orsaf bwmpio a gorlif storm. Mae gwaith trin carthion Llanberis yn gollwng elifion terfynol eilaidd wedi eu trin i Afon y Bala, sy'n llifo i Lyn Padarn. Mae dosio cemegol a hidlo tywod yn y gwaith trin carthion yn rhoi triniaeth ychwanegol, gan gael gwared ar faethynnau gormodol o'r elifion cyn eu gollwng nhw.
Rydyn ni wedi buddsoddi dros £5 miliwn—mae'n ddrwg gen i, mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi dros £5 miliwn—i wella gwaith Llanberis. Roedd y gwaith yn cynnwys cynyddu'r gallu i ymdrin â stormydd a sgrinio a chyfyngiadau pellach o ran ffosfforws. Rwy'n siŵr y gwyddoch chi ein bod eisiau dechrau'r broses o ddynodi mwy o ddyfroedd mewndirol ar gyfer nofio gwyllt, ac fe ddylwn ddatgan fy niddordeb arferol, oherwydd rwyf i'n hoff iawn o bethau o'r fath. Ac felly rydyn ni'n awyddus i'r system hon weithio. Rydyn ni'n awyddus i'r system y mae CNC yn ei defnyddio i reoli'r ansawdd yno gyda gofal mawr fod yn gweithio. Wrth gwrs, fe fydd hynny'n caniatáu i bobl ymdrochi mewn dyfroedd mewndirol, ond fe fydd yn gwella ansawdd y dŵr hefyd yn gyffredinol yn yr afonydd. Fe wnaeth fy nghyd-Weinidog, y Trefnydd, amlinellu'r broses hon yn yr uwchgynhadledd ffosffad yr wythnos diwethaf, ac fe fydd yna ddatganiad ysgrifenedig maes o law, yn nodi'r camau a ddaeth yn dilyn yr uwchgynhadledd.