Part of 4. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 14 Mawrth 2023.
A gaf i ddweud bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn ei chwestiwn? Rwy'n siarad ag Undeb Prifysgolion a Cholegau yn rheolaidd beth bynnag, ond llwyddais i fynychu eu cynhadledd, eu cyngres, ychydig wythnosau yn ôl, ac i drafod gyda nhw yn uniongyrchol rai o'r pryderon a godwyd ganddyn nhw, ac un o'r pwyntiau yn benodol y gwnaethom ymdrin ag ef oedd, fel mae'n digwydd, y strategaeth arloesi.
Mae hi'n gofyn am fy safbwynt i. Pan fyddaf yn siarad ag is-gangellorion, rwy'n ei gwneud yn glir iawn fy mod am gael setliad wedi'i negodi. Rwyf eisiau sicrhau ein bod yn cefnogi staff a myfyrwyr i barhau i wneud yn siŵr bod gan Gymru y sector AU cryf a llwyddiannus sydd gennym. Rwy'n mawr obeithio y byddan nhw'n gallu dod i ganlyniad llwyddiannus wedi'i negodi.