Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 14 Mawrth 2023.
Diolch am y datganiad ac am ei rannu efo ni ymlaen llaw. Ond mae’n rhaid dweud ei fod o’n ddatganiad rhyfeddol mewn sawl ffordd, ac mae gen i ofn nad ydy i’w weld yn adlewyrchu realiti’r gwasanaeth deintyddol, na phrofiadau cleifion ar unrhyw lefel, bron. Mae’n un arall o’r datganiadau yna sy’n rhoi’r argraff un ai bod popeth yn iawn neu fod problemau mewn llaw, pan fo’r holl dystiolaeth o’n blaenau ni yn dangos nad ydy hynny’n wir. Mi oedd yr arwyddion yn wael yn gynnar yn y datganiad pan dywedodd y Gweinidog: